Banc Datblygu yn croesawu adroddiad Nesta ar ariannu cartrefi gwyrdd

Rhian-Elston
Cyfarwyddwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Banc Datblygu Cymru wedi croesawu adroddiad gan yr asiantaeth arloesi Nesta yn y DU sy’n edrych ar ddyfodol cyllid gwyrdd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn edrych ar sut y gallai perchnogion tai gael eu cefnogi i uwchraddio eu cartrefi gyda gwelliannau arbed ynni fel paneli solar a batris, neu bympiau gwres ffynhonnell daear.

Er y byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael ag allyriadau carbon a newid yn yr hinsawdd, gall costau ymlaen llaw fod yn uchel.

Fe wnaeth Nesta hap-dreialu 8,000 o berchnogion tai i edrych ar opsiynau posibl ar gyfer ariannu gwelliannau i gartrefi gwyrdd, gyda llwybrau posibl yn cynnwys cynhyrchion a gefnogir gan y llywodraeth a benthyciadau masnachol - gyda’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod gan gefnogaeth y llywodraeth rôl i’w chwarae wrth ddatgarboneiddio cartrefi.

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w weld yma.

Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cefnogi ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy ddatblygu cynnyrch arloesol ar gyfer buddsoddi mewn effaith.

“Mae’r ymchwil gan Nesta yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r farchnad ar gyfer datblygu cynnig ôl-osod tai ac yn dangos awydd clir gan berchnogion tai am gefnogaeth y llywodraeth i ysgogi newid.

“Byddwn yn parhau â’n gwaith gyda rhanddeiliaid wrth i ni ddatblygu cynigion ar gyfer pecyn cymorth i fynd i’r afael â’r angen cymhleth a brys hwn, a datblygu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer Cymru wyrddach, decach.”

Dywedodd Andy Regan, Rheolwr Cenhadaeth Dyfodol Cynaliadwy yn Nesta: “Er mwyn cyrraedd nodau sero-net y DU, mae angen i ni wneud cynnydd ar fyrder o ran lleihau allyriadau carbon o’n tai – ond mae’r nifer sy’n manteisio ar ddewisiadau gwresogi cartrefi gwyrdd fel pympiau gwres yn isel.

"Rhoddodd ein gwaith gyda Banc Datblygu Cymru oedd a’r bwriad o ddeall anghenion perchnogion tai wrth ariannu gwelliannau i gartrefi gwyrdd fewnwelediad gwerthfawr a nodir yn ein hadroddiad llawn. I lawer o berchnogion tai, mae fforddiadwyedd yn rhwystr. Mae'n amlwg y bydd cymorth ariannol yn chwarae rhan enfawr yn y cyfnod pontio gwyrdd ar bob lefel, yn enwedig yn ein cartrefi.

“Mae’r prosiect wedi bod yn berthynas hynod gynhyrchiol wrth i ddull blaengar Banc Datblygu Cymru ein galluogi i ddefnyddio dulliau arloesi i sicrhau bod eu datblygiad cynnyrch yn cael ei lywio gan brofion defnyddwyr cadarn.”