Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Banc Datblygu yn noddi PRIDE Cymru 2025

Beverley-Downes
Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Pride Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru wedi adnewyddu ei gefnogaeth i Benwythnos Mawr PRIDE Cymru eleni, a fydd yn digwydd yng Nghae Coopers, Caerdydd, ddydd Sadwrn, Mehefin 21 a dydd Sul, Mehefin 22.

Bydd cydweithwyr o’r Banc Datblygu yn ymuno â’r orymdaith Pride drwy ganol dinas Caerdydd ddydd Sadwrn. Bydd yr ŵyl ddeuddydd, sy'n addo bod y dathliad Pride unigol mwyaf yng Nghymru, yn cynnwys perfformiadau gan Ella Henderson, Kimberly Wyatt, Shola Ama, Danny Beard, Dadleoli, Fifi Fierce ac eraill. Bydd perfformiadau'n cael eu rhannu ar draws Prif Lwyfan y Principality, Llwyfan Cymunedol S4C, Llwyfan Cabaret Marcia Bassey Jones a Llwyfan y Darganfod – ynghyd â mannau teuluol a chwaraeon. 

Dywedodd Beverley Downes, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi PRIDE Cymru, ac mae ein timau a'n cwsmeriaid yn edrych ymlaen at ymuno â'r orymdaith unwaith eto eleni.”

“Mae PRIDE Cymru yn elusen ddiwyd a arweinir gan wirfoddolwyr, ac mae ei haelodau’n gweithio’n ddiflino i gael gwared ar wahaniaethu. Maent wedi ymrwymo i ymgyrchu dros gydraddoldeb a derbyn amrywiaeth o fewn ein cymunedau.

“Mae cynhwysiant ac amrywiaeth wrth wraidd ein sefydliad felly rydym yn falch o fod yn cefnogi cymuned LHDTC+ Cymru yn PRIDE Cymru 2025. Mae'n addo bod yn ddigwyddiad gwych!”