Beech Developments yn creu cartrefi teulu fforddiadwy i gymuned Caernarfon diolch i fuddsoddiad Banc Datblygu Cymru

Claire-Sedgwick
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
beech developments

Mae cynllun preswyl newydd gan Beech Developments yng Nghaernarfon yn darparu 23 o dai fforddiadwy newydd i'r gymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd fel rhan o ddatblygiad eiddo o 45 o dai  yn y dref.

Bydd y cartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely ar gael i drigolion lleol ar y rhestr aros am dai yn fuan wedi iddynt gael eu cwblhau eleni. Mae saith deg y cant o'r 22 o dai sydd ar werth eisoes wedi'u gwerthu oddi-ar-y-cynllun i aelodau o'r gymuned leol.

Dywedodd Matthew Gilmartin, Rheolwr Gyfarwyddwr Beech Development: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru yn ogystal â Chartrefi Cymunedol Gwynedd. Mae angen lleol amlwg am gartrefi newydd o safon yng Nghaernarfon ac rydym yn falch o allu helpu i ateb y galw hwnnw gyda'n datblygiad ni."

Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd: “Fel un o brif ddarparwyr tai cymdeithasol ledled gogledd Cymru, rydym yn falch o fod yn bartner gyda Beech ar y datblygiad newydd cyffrous hwn yng Nghae Hendre, Caernarfon. Gyda dros 500 o bobl yn aros am dai rhent cymdeithasol yn ardal Caernarfon, mae angen dybryd am fwy o gartrefi newydd i ddiwallu’r angen hwn.”

Cefnogwyd y datblygiad gyda benthyciad tymor byr gan Fanc Datblygu Cymru. Dywedodd Claire Sedgwick, Dirprwy Reolwr Cronfa’r Banc Datblygu a strwythurodd y fargen: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Matthew a’r tîm yn Beech Developments eto. Maen nhw’n creu cartrefi o ansawdd uchel sy'n cael eu croesawu gan gymuned Caernarfon. Mae'r ffaith bod cymaint o gartrefi i bobl leol eisoes wedi cael eu gwerthu a'u cadw wrth gefn yn dyst i safon adeiladu uchel y datblygiad, yn ogystal ag angen gwirioneddol am gartrefi newydd yn yr ardal. Edrychaf ymlaen at gael partneriaeth gadarnhaol barhaus gyda Beech Developments."

Ychwanegodd Gilmartin: “Rydyn ni wedi canfod fod Claire a’r tîm yn y Banc Datblygu yn hynod gefnogol i’r busnes ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol. Bydd unrhyw un sy'n dymuno canfod mwy am ein datblygiad cyffrous yn gallu galw i mewn i'r ystafell werthu a marchnata newydd sydd ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul bob wythnos rhwng 10:00 a 16:00. Gallwch hefyd ymweld â'n gwefan, http://beech-developments.co.uk/developments/hendre.

Gall Banc Datblygu Cymru fuddsoddi mewn datblygiadau preswyl, defnydd cymysg a masnachol trwy Gronfa Eiddo Cymru, Cronfa Eiddo Masnachol Cymru a'r Gronfa Safleoedd Segur. Gall datblygwyr bach i ganolig gael benthyciadau tymor byr o £150,000 hyd at £5 miliwn.