Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Bellach, gall datblygwyr eiddo fanteisio ar hyd at £10 miliwn ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg yng Nghymru.

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
WRPF

Gall datblygwyr eiddo preswyl ac eiddo defnydd cymysg yng Nghymru bellach gael mynediad at hyd at £10 miliwn o gyllid gan Fanc Datblygu Cymru ar gyfer datblygiadau hapfasnachol a datblygiadau nad ydynt yn rhai hapfasnachol. 

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd Cronfa Eiddo Preswyl Cymru yn cynnig mynediad rhwydd a chyfleus i ddatblygwyr BBaChau at fenthyciadau hyblyg yn amrywio o £150,000 i £10 miliwn gyda thelerau ad-dalu o hyd at bedair blynedd a hyd at 100% o'r costau adeiladu. Mae'r gronfa gwerth £117 miliwn yn gwbl ailgylchadwy felly disgwylir i gyfanswm ei heffaith o ran buddsoddi fod yn £770 miliwn erbyn 2039, gan roi sicrwydd cyllido i'r farchnad, a bydd yn cefnogi'r gwaith o adeiladu 4,450 o gartrefi newydd. Mae'n cyfuno'r cyllid a oedd ar gael yn flaenorol o dan Gronfa Datblygu Eiddo Cymru a Chronfa Safleoedd Segur Cymru. 

Mae ail gam y Cymhelliant Datblygu Gwyrdd hefyd ar gael, gan gynnig cyfraddau gostyngol ar gyfer prosiectau tai sy'n darparu cartrefi sy'n fwy thermol effeithlon a charbon isel yng Nghymru. Bydd y Cymhelliant yn darparu £60 miliwn o fenthyciadau cost is dros y ddwy flynedd nesaf.

Adroddodd y Banc Datblygu gynnydd o 27% mewn cyllid ar gyfer prosiectau datblygu eiddo yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, sef £48 miliwn o'i gymharu â £38 miliwn yn 2023/24. Dan arweiniad Rheolwr y Gronfa Eiddo, Nicola Crocker, darparodd y tîm ymroddedig gyllid i 23 o fusnesau eiddo a oedd yn gweithio ar 24 o ddatblygiadau newydd gan ddarparu 390 o gartrefi newydd - 125 ohonynt yn gartrefi fforddiadwy - a 2,626 troedfedd sgwâr arall o ofod masnachol. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae'n wych y bydd Cronfa Eiddo Preswyl Cymru, gyda'n cymorth ni, yn gwneud mynediad at gyllid hanfodol yn haws i ddatblygwyr a helpu i ddarparu mwy fyth o dai ledled Cymru.

“Mae darparu mwy o gartrefi nawr ac ar gyfer y dyfodol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da.”

Nicola Crocker yw Rheolwr Cronfa Eiddo y Banc Datblygu. Meddai: “Mae datblygwyr sy'n BBaChau yn darparu gwerth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau ledled Cymru yn sgil datblygu cartrefi cynaliadwy sy'n arbed ynni, a chreu cyfleoedd cyflogaeth. 

“Mae Cronfa Eiddo Preswyl Cymru yn darparu cynnig clir i’r farchnad a thelerau deniadol iawn. Fel banc datblygu, gallwn ddarparu ystod o atebion cyllido wedi'u teilwra ar gyfer hapddatblygiadau preswyl, masnachol a defnydd cymysg yn ogystal â datblygiadau nad ydynt yn rhai hapfasnachol. 

Mae'r Banc Datblygu yn darparu cyllid tymor byr ar gyfer datblygu eiddo preswyl, defnydd cymysg, a masnachol yn amrywio o £150,000 i £10 miliwn o ystod o gronfeydd gan gynnwys Cronfa Eiddo Masnachol Cymru, Cronfa Eiddo Preswyl Cymru a Chymhelliant Datblygu Gwyrdd.