Beth yw cyfalaf menter a sut mae'n gweithio?

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Ecwiti
Cyllid
Twf
Mentrau tech
business meeting

O Facebook i Uber i Airbnb, mae cyfalaf menter wedi cefnogi llawer o'r cwmnïau mwyaf adnabyddus a'r mwyaf llwyddiannus yn y byd. Ond beth yn union ydio? Yn yr erthygl hon rydym yn dadansoddi hanfodion beth yw cyfalaf menter, sut mae'n gweithio, a phwy y mae'n addas ar ei gyfer. Os ydych chi'n ystyried codi cyllid ar gyfer eich busnes, dylai'r postiad hwn hon eich helpu i gael syniad a allai cyfalaf menter fod yn opsiwn.

Beth yw cyfalaf menter?

Mae cyfalaf menter (CM) yn fath o ariannu ecwiti lle mae cyfalaf yn cael ei fuddsoddi yn gyfnewid am ecwiti, cyfran leiafrifol yn nodweddiadol, mewn cwmni sy'n edrych fel petai ar fin bod yn barod am dwf sylweddol. Gelwir unigolyn sy'n gwneud y buddsoddiadau hyn yn gyfalafwr menter.

Beth yw cyfalafwr menter?

Yn wahanol i fuddsoddwyr angylion sy'n defnyddio eu harian eu hunain i fuddsoddi, mae cyfalafwyr menter fel arfer yn gweithio i gwmnïau cyfalaf menter sy'n codi arian gan fuddsoddwyr allanol. Gall y buddsoddwyr hyn, a elwir yn bartneriaid cyfyngedig, gynnwys unigolion gwerth net uchel, swyddfeydd teuluol, a buddsoddwyr sefydliadol fel cronfeydd pensiwn a chwmnïau yswiriant.

Sut mae cyfalaf menter yn gweithio?

Mae CM yn defnyddio'r cyfalaf y maen nhw'n ei godi i fuddsoddi mewn busnesau sydd â photensial twf uchel neu fusnesau sydd eisoes wedi dangos twf trawiadol. Mae gwahanol gamau o gyllid cyfalaf menter sy'n adlewyrchu gwahanol gyfnodau datblygiad cwmni. Wrth i fusnesau newydd dyfu, byddant yn aml yn mynd trwy'r camau hyn ac yn codi sawl rownd o ariannu cyfalaf menter.

Mae gan rai cwmnïau CM ddull arallgyfeirio ac maent yn buddsoddi mewn cwmnïau ar wahanol gamau o gylch bywyd busnes, tra bo’ eraill yn canolbwyntio'n benodol ar rai camau. Er enghraifft, mae buddsoddwyr cam sbarduno yn helpu busnesau newydd i gael hwb i ddechrau, tra bo' buddsoddwyr yn ystod cam diweddarach yn helpu cwmnïau sefydledig i barhau i ehangu. Mae llawer o gwmnïau CM hefyd yn arbenigo mewn gwneud buddsoddiadau o fewn diwydiant penodol neu ddiwydiant fertigol.

Gyda chyllid CM, yn aml gall busnesau gael symiau mawr o gyfalaf. Yn ogystal â hyn, mae'r buddsoddwr cywir yn ychwanegu gwerth i'r cwmni trwy ddarparu sgiliau, profiad a chysylltiadau. Fel rhan o fargen CM, bydd buddsoddwr yn aml eisiau ymuno â bwrdd y cwmni naill ai fel aelod swyddogol o'r bwrdd neu gynghorydd i’r bwrdd. Trwy hynny, maent yn ymwneud â phenderfyniadau strategol (ac weithiau gweithredol) y cwmni, a gallant chwarae rhan weithredol wrth ei helpu i ddod yn llwyddiannus.

A yw cyfalaf menter yn iawn i'ch busnes chi?

Mae CM yn fwyaf adnabyddus am ariannu cwmnïau technoleg oherwydd eu tueddiad i gynyddu graddfa yn hawdd, ond maent yn buddsoddi mewn busnesau nad ydynt yn dechnoleg hefyd. Yr hyn sydd gan bob busnes a gefnogir gan fentrau yn gyffredin yw eu bod yn canolbwyntio ar dwf cyflym a sylweddol. Mae CM yn fwyaf addas ar gyfer mentergarwyr sydd ag uchelgeisiau mawr ac nid oes angen iddynt gadw rheolaeth lawn ar y cwmni wrth iddo dyfu.

Beth mae buddsoddwyr yn edrych amdano mewn busnes newydd?

Mae rhai meini prawf y bydd buddsoddwyr yn gyffredinol yn edrych amdanynt wrth werthuso busnes newydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynnyrch neu wasanaeth sy'n datrys poen cwsmer cryf. Ni ddylai fod yn rhywbeth sydd ddim ond yn 'rhywbeth neis i'w gael'; dylai ddatrys problem a chreu gwerth gwirioneddol i gwsmeriaid.
  • Cyfleoedd ymadael. Rhaid bod ffordd bosibl i'r CM adael er mwyn iddynt allu sicrhau enillion a chael yr arian yn ôl i'w buddsoddwyr eu hunain.
  • Graddfa-dwyedd. Mae CM yn chwilio am gwmnïau a all gynyddu gwerthiant a thyfu mewn ffordd gost-effeithiol ac effeithlon.

 

Os ydych chi'n fusnes technoleg newydd ddechrau ac eisiau gwybod mwy am ba rinweddau allweddol sy'n denu buddsoddwr, darllenwch ein blogbost, Am be’ mae buddsoddwyr yn edrych amdano mewn busnes technoleg sy'n dechrau o'r newydd?  

Cyllid ar gyfer cwmnïau technoleg

Mae ein tîm Buddsoddiadau Menter Technoleg (BMT) yn buddsoddi mewn busnesau sy'n bwriadu datblygu a manteisio ar dechnoleg. Rydym yn gweithio gyda chwmnïau o'r cam cychwyn hyd at yr ymadawiad, gan gynnig buddsoddiad ecwiti mynediad rhwng £50,000 a £2 filiwn, a hyd at uchafswm o £5 miliwn y rownd. Ein nod yw rhoi mantais gystadleuol i'r cwmnïau rydyn ni'n eu cefnogi a chreu gwerth tymor hir.

Canfyddwch fwy am yr arian a ddarparwn trwy fynd i'n tudalen, Cyllid ar gyfer mentrau technoleg.