We use Javascript to set most of our cookies. Unfortunately Javascript is not running on your browser, so you cannot change your settings using this page. To control your cookie settings using this page try turning on Javascript in your browser.
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i'r wefan hon weithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis ychwanegol i wneud y gorau o ymarferoldeb gwefan a rhoi'r profiad gorau posibl i chi.
Analytics
Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan
Rydym yn defnyddio offer dadansoddeg gwefan i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr. Mae offer dadansoddeg gwefan yn gosod cwcis sy'n storio gwybodaeth wedi anonymeiddio ynghylch:
sut ddaethoch chi i'r safle
y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw ar hunanadeiladu.cymru a gwasanaethau digidol y llywodraeth, a pha mor hir yr ydych chi'n treulio ar bob tudalen
beth ydych chi'n clicio arno wrth ymweld â'r safle
Marketing
Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata
Er mwyn hyrwyddo ein gwasanaethau, gallwn ddefnyddio cwcis aildargedu. Gallant gael eu gosod gennym ni neu drydydd partïon. Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni neu'r trydydd partïon arddangos deunydd hyrwyddo (er enghraifft, hysbysebion) i chi ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw, i fesur perfformiad deunydd a chynnwys hyrwyddo, a chael mewnwelediadau am y rhai sydd wedi eu gweld.
Personalisation
Cwcis sy'n cofio'ch gosodiadau
Mae'r cwcis hyn yn gwneud pethau fel cofio eich dewisiadau, i bersonol eich profiad o ddefnyddio'r safle.
Necessary cookies
Cwcis sy'n angenrheidiol
Mae'r cwcis hyn yn hanfodol ar gyfer pethau fel:
cofio'r hysbysiadau yr ydych wedi eu gweld fel ein bod ni ddim yn eu dangos i chi eto
cofio eich lle mewn ffurflen (er enghraifft cais am drwydded)
Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy
Mae'r mwyafrif o fathau o gyllid allanol yn dod o fewn un o ddau gategori: dyled neu ecwiti. Mae'r rhain yn ddau ddull gwahanol iawn o ariannu ac mae manteision ac anfanteision i bob un. Mae llawer o fusnesau yn dewis defnyddio cyfuniad o'r ddau.
Yn yr erthygl hon rydym yn esbonio'r termau dyled ac ecwiti ac yn edrych ar rai o'r gwahaniaethau allweddol er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir pan fyddwch chi'n codi cyllid i'ch cwmni.
Beth yw cyllid ecwiti?
Cyllid ecwiti yw'r broses o godi cyfalaf trwy werthu cyfranddaliadau yn eich busnes. Mae yna nifer o ffynonellau cyllid ecwiti, gan gynnwys buddsoddwyr angylion, cyfalafwyr menter, cwmnïau ecwiti preifat, a phlatfformau cyllido torfol ecwiti. Bydd rhai cwmnïau'n codi sawl rownd o gyllid ecwiti gan wahanol fathau o fuddsoddwyr yn ystod cylch bywyd busnes.
Mae buddsoddwyr ecwiti yn gwneud enillion ar eu buddsoddiad trwy werthu eu cyfranddaliadau yn y pen draw neu drwy dderbyn difidendau (cyfran o elw'r cwmni - mae hyn yn fwy cyffredin i gwmnïau aeddfed). Mae ganddynt fuddiant breintiedig yn llwyddiant y busnes, a bydd y buddsoddwr cywir yn darparu arbenigedd a chysylltiadau i helpu'r cwmni i dyfu.
P'un a ydych wedi cymryd morgais, benthyciad car neu fenthyciad myfyriwr, mae'n debyg eich bod eisoes yn gyfarwydd ag ariannu dyled. Yn ei hanfod, mae'n golygu benthyca cyfandaliad, y byddwch wedyn yn ei dalu'n ôl dros amser ynghyd â swm y llog y cytunwyd arno.
Daw cyllid dyled ar sawl ffurf, gan gynnwys benthyciadau busnes, morgeisi masnachol, cyllid asedau, a chyfleusterau cyfalaf gweithio, er enghraifft gorddrafftiau a disgowntio anfonebau. Gellir ei sicrhau yn erbyn ased rydych chi'n berchen arno, neu gall fod heb sicrwydd. Oherwydd y lefel is o risg i'r benthyciwr, yn gyffredinol mae'n haws cael dyled wedi'i sicrhau ac mae'n rhatach.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng dyled a chyllid ecwiti?
Mae yna nifer o wahaniaethau allweddol i'w cofio wrth i chi ystyried pa un o'r dulliau cyllido hyn i'w dewis. Mae'r rhain yn cynnwys:
Ad-daliad
Gyda chyllid dyled, mae'n ofynnol i chi ad-dalu'r arian ynghyd â llog dros gyfnod penodol o amser, fel rheol mewn rhandaliadau misol. Ar y llaw arall, nid oes unrhyw rwymedigaeth ad-dalu ar gyllid ecwiti, felly gellir sianelu mwy o arian i dyfu eich busnes.
Mae buddsoddwyr, wrth gwrs, eisiau gweld enillion ar eu buddsoddiad, ond dim ond os a phan fydd eich cwmni'n gwneud yn dda y bydd hyn yn digwydd. Felly, yn wahanol i gyllid dyled sydd â chost a bennwyd ymlaen llaw, mae cost cyllid ecwiti yn fwy amrywiol, gan ei fod yn gyfran yn enillion a gwerth eich cwmni yn y dyfodol.
Perchnogaeth
Mae buddsoddwyr ecwiti yn prynu cyfran yn eich busnes, sy'n golygu bod eich cyfranddaliad eich hun yn lleihau, ond gyda chyllid dyled rydych chi'n cadw perchnogaeth lawn. Fodd bynnag, gall fod yn werth cael canran is o'r busnes os yw'r buddsoddwr ecwiti yn darparu llawer o werth (ar ffurf arian ac adnoddau anariannol, megis arweiniad arbenigol a mynediad at gysylltiadau) sy'n eich helpu i greu cwmni mwy, sy'n fwy llwyddiannus. Meddyliwch amdano fel hyn: a fyddai'n well gennych chi fod yn berchen ar 100% o gwmni £100k neu 70% o gwmni £1 miliwn?
Sicrwydd
Gall benthyciwr ofyn i'r sawl sy’n benthyca’r arian ganddynt i addo ased fel gwarant ar gyfer y benthyciad, fel eiddo neu offer. Os na all y benthyciwr ad-dalu'r benthyciad, gall y benthyciwr hawlio'r ased i gael ei arian yn ôl. Fodd bynnag, gyda chyllid ecwiti, nid oes angen i chi rhoi cynnig cyfochrog gerbron.
Mynediad at gyllid
Os ydych chi'n fusnes newydd heb unrhyw hanes masnachu nac asedau corfforolac nid ydych am ddefnyddio sicrwydd personol, efallai y bydd hi'n anodd i chi sicrhau cyllid dyled, o leiaf gan fenthycwyr traddodiadol. Mae buddsoddwyr ecwiti yn aml yn barod i gefnogi cwmnïau sy'n cael eu hystyried yn risg rhy uchel gan lawer o ddarparwyr cyllid dyled.
Cyfranogiad
Efallai y bydd buddsoddwr ecwiti yn gofyn am gael sedd ar y bwrdd. Mae hynny'n golygu y bydd ganddyn nhw fewnbwn o ran gosod cyfeiriad cyffredinol y busnes a byddant yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sydd a wnelo'r cwmni. Bydd y buddsoddwr cywir yn dod â phrofiad ac arbenigedd gwerthfawr i'r ystafell fwrdd a bydd yn gallu agor drysau i chi gyda'u rhwydwaith o gysylltiadau. Yn groes i hynny, nid oes gan fenthyciwr berchnogaeth ac felly nid oes ganddynt unrhyw gyfranogiad i benderfyniadau busnes.
Proses codi arian
Os ydych chi ar frys i godi arian ar gyfer eich busnes, yna mae'n debyg nad cyllid ecwiti yw eich opsiwn gorau. Gall gymryd cryn dipyn o amser i ddod o hyd i'r buddsoddwr cywir, ac yna mae'n rhaid i chi drafod telerau'r fargen a hwyluso'r broses diwydrwydd dyladwy, ymhlith pethau eraill. Mae yna lawer mwy o waith cyfreithiol hefyd. Mae cyllid dyled fel arfer yn symlach ac yn aml gallwch dderbyn yr arian mewn ychydig wythnosau neu ddyddiau hyd yn oed gan rai darparwyr.
Pa un ddylech chi ei ddewis: dyled neu ecwiti?
Yn y pen draw, bydd y dull cyllido a ddewiswch yn dibynnu ar eich sefyllfa unigol, gan gynnwys natur eich busnes a'i gam datblygu.
Efallai mai cyllid dyled yw'r opsiwn gorau i chi os:
Oes gennych lif arian cyson a model busnes profedig
Byddai'n well gennych aros fel unig berchennog eich busnes
Rydych chi'n hoffi perthynas tymor byr sy'n dod i ben unwaith y bydd y benthyciad wedi'i ad-dalu
Mae'n haws I chi reoli llif arian a rhagweld treuliau os ydych chi'n gwybod ymlaen llaw faint o’r prif fenthyciad a’r llog y mae angen i chi ei dalu
A gallai cyllid ecwiti fod yr opsiwn gorau: os:
Oes gennych hanes ariannol cyfyngedig neu ddiffyg gwarant cyfochrog
Nid ydych chi eisiau'r baich o wneud ad-daliadau rheolaidd am fenthyciad
Mae gennych gynlluniau ar gyfer twf, megis symud i farchnadoedd newydd neu ehangu gweithrediadau, sy'n ymofyn llawer o gyfalaf (yn aml gallwch chi godi symiau uwch gydag ecwiti)
Byddech chi'n elwa o'r sgiliau a'r profiad y gallai buddsoddwr eu cynnig
Cofiwch nad oes angen i chi ddewis un neu'r llall o reidrwydd; efallai y byddwch chi'n penderfynu y byddai cymysgedd o ecwiti a dyled yn gweddu orau i'ch cwmni.
Cymhareb dyled i ecwiti
Un peth i'w gadw mewn cof, p'un a ydych yn chwilio am fenthyciad neu fuddsoddiad ecwiti, yw eich cymhareb dyled i ecwiti. Fel y mae'r enw'n awgrymu, mae'r gymhareb ariannol hon yn cymharu swm y ddyled o'i gymharu â faint o ecwiti a ddefnyddir i ariannu asedau eich cwmni.
Gallwch gyfrifo eich cymhareb dyled i ecwiti drwy rannu cyfanswm eich rhwymedigaethau (yr hyn sy'n ddyledus gan eich busnes i eraill) ag ecwiti cyfranddalwyr (cyfanswm eich asedau llai cyfanswm y rhwymedigaethau).
Mae'n fetrig pwysig oherwydd fe all darpar fenthycwyr a buddsoddwyr edrych arno fel dangosydd o iechyd ariannol eich busnes. Po uchaf yw'r gymhareb dyled i ecwiti, y mwyaf peryglus y maent fel arfer yn ystyried y buddsoddiad i fod, oherwydd efallai na fydd y cwmni'n gallu ad-dalu ei ddyledion.
Fodd bynnag, efallai na fyddant am fuddsoddi mewn busnes â chymhareb isel iawn, ychwaith, gan y gall hyn olygu nad ydych wedi tyfu eich busnes yn effeithlon drwy ddefnyddio dyled.
Felly, beth yw cymhareb dyled i ecwiti dda? Mae'r ateb yn dibynnu i raddau helaeth ar y diwydiant y mae eich busnes ynddo. Yn aml mae gan gwmnïau sy'n buddsoddi symiau mawr o arian mewn asedau (cwmnïau cyfalaf-ddwys), er enghraifft yn y diwydiant gweithgynhyrchu, gymhareb dyled i ecwiti cymharol uchel. Mae busnesau yn, dyweder, y diwydiannau gwasanaeth, yn dueddol o fod â chymhareb is.
Yn y pen draw, mae busnesau llwyddiannus yn tueddu i ddefnyddio cymysgedd o ddyled ac ecwiti sy'n briodol i'w diwydiant, felly mae hyn yn rhywbeth i'w gadw mewn cof wrth i chi dyfu eich cwmni a chodi arian.
Os hoffech ddysgu mwy am y mathau hyn o gyllid, archwiliwch y cynnwys yn yr hwb blog hwn neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar a gwybodus. Rydym yn cynnig cyllid busnes hyblyg, ar ffurf benthyciadau ac fel ecwiti, i gwmnïau yng Nghymru o £1,000 hyd at £5 miliwn.
Be' nesaf?
Eisiau trafod mwy ar bethau? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni.