Mae'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn croesawu buddsoddiad yn Aberystwyth.
Mae'r gwaith ar drydydd cam Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon yn Aberystwyth wedi dechrau gyda chadarnhad o fenthyciad i'r datblygwyr Ellis Development Company (Wales) Ltd gan Fanc Datblygu Cymru.
Wrth siarad ddydd Llun 13 Ionawr 2020, croesawodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth y buddsoddiad cyntaf o Gronfa Eiddo Masnachol Cymru gwerth £55 miliwn a reolir gan Fanc Datblygu Cymru.
Fe'i lansiwyd y llynedd i annog datblygwyr busnesau bach a chanolig i fuddsoddi ym marchnad eiddo masnachol Cymru, ac fe ariennir y gronfa gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn ar gael gydag uchafswm o bum mlynedd ar gyfer prosiectau defnydd cymysg a datblygu masnachol yng Nghymru.
Sicrhaodd Ellis Development o Aberystwyth y benthyciad i gefnogi datblygiad blociau pump a chwech ym Mharc Melin, sef y trydydd cam ar Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon yn Aberystwyth. Bydd 12 uned sy'n dod i gyfanswm o 16,910 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol a masnachol ysgafn hapfasnachol yn ychwanegu at yr 17 uned bresennol; mae pob un ohonynt wedi'u gwerthu neu eu gosod i denantiaid sy'n cynnwys Greggs a Tool Station.
Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen safleoedd ac adeiladau modern ar fusnesau o bob maint ledled Cymru a fydd yn eu galluogi i ehangu a thyfu. Mae Cronfa Eiddo Masnachol Cymru gwerth £55 miliwn yn allweddol i gyflawni hynny ac mae eisoes yn annog datblygwyr llai i fuddsoddi mewn cymunedau.
“Nod y gronfa yw cefnogi datblygiadau dros 400,000 troedfedd sgwâr o ofod diwydiannol a masnachol sydd mawr ei angen ar hyd a lled Cymru fel rhan o gynllun cyflawni eiddo ehangach dros y deng mlynedd nesaf a hynny er mwyn cyflawni yn erbyn yr uchelgeisiau a nodir yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd. Bydd datblygiad Glan yr Afon yn rhoi hwb i ragolygon economaidd Canolbarth Cymru ac mae'n enghraifft wych o'r sector cyhoeddus a phreifat yn gweithio mewn partneriaeth er budd pobl leol a'r economi.”
Dywedodd Meirion Ellis-Jones, Cyfarwyddwr Datblygu Ellis: “Aberystwyth yw canolfan weinyddol a masnachol Canolbarth Cymru. Datblygiad Glan yr Afon yw'r brif ystâd fasnachu yn yr ardal gyda chymysgedd o feddianwyr cyfoes, diwydiannol ysgafn a warysiau a defnyddwyr swyddfa.
“Mae’r cyllid hyblyg wedi’i deilwra gan Fanc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i ddatblygu’r safle hwn yn llawn ar ôl llenwi’r ddau gam cyntaf yn llwyddiannus. Rydym wedi gwneud cynnydd da ar y datblygiad hapfasnachol hwn a bydd 12 uned ychwanegol ar gael i'w prynu neu eu rhentu yn ddiweddarach yn 2020.”
Ychwanegodd Cenydd Rowlands, Cyfarwyddwr Eiddo ar gyfer Banc Datblygu Cymru: "Mae Cronfa Eiddo Masnachol Cymru wedi'i chynllunio i helpu i ddatgloi datblygiadau masnachol ar lefel leol ledled Cymru. Mae natur y cyllid hyblyg tymor byr yn ddelfrydol ar gyfer datblygwyr llai sydd am symud ymlaen â datblygiadau hapfasnachol.
“Mae’r gefnogaeth i Meirion Ellis-Jones yn Aberystwyth yn enghraifft wych o’r cyllid y gallwn ei ddarparu i ddatblygwyr llai ar lefel leol; gan annog busnes lleol ac ysgogi twf economaidd lle bynnag y bo modd.”