Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Buddsoddiad o bron i £6m gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i ailddatblygu adeilad hanesyddol ym mae Caerdydd

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
corys

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Llywodraeth Cymru.

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi benthyciad gwerth £5m gan Fanc Datblygu Cymru yn ogystal â Benthyciad Canol Tref gwerth £1 miliwn ar gyfer Cyngor Caerdydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ailddatblygu adeilad Cory’s ym Mae Caerdydd.

Mae adeilad Cory’s yn adeilad rhestredig Gradd Dau â phum llawr sydd ar y gornel rhwng Plas Bute a Stryd Bute. Cafodd ei adeiladu ym 1889. Bydd yr adeilad adfeiliedig yn cael ei droi'n gymysgedd o lety preswyl a gofod manwerthu.

Dyfarnwyd y Benthyciad Canol Tref o £1 miliwn i Gyngor Caerdydd ar gyfer y gwaith adfywio yn Merchant Place, a bydd y Cyngor yn defnyddio'r arian i gefnogi'r gwaith datblygu gan Sky View Estates Ltd. Mae'r prosiect hefyd yn cael cyllid o £5 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru. Dyma'r fargen fwyaf erioed i'r banc ei chwblhau.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae ein Cronfa Benthyciadau Canol Trefi, sy'n werth £27m, yn helpu awdurdodau lleol i adfywio canol trefi ar draws Cymru. Unwaith y bydd y benthyciad wedi'i ad-dalu, caiff yr arian ei ddefnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd.  Mae’r un yn wir am arian a ddarperir gan Fanc Datblygu Cymru.

"Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i adfywio safleoedd segur yng nghanol trefi a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto, ac mae'n cefnogi gweithgareddau sy'n denu mwy o bobl i'n strydoedd mawr ac yn helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

"Mae adeilad Cory’s yn rhan o hanes Bae Caerdydd, ond edrychaf ymlaen at ei weld wedi'i adfywio yn y dyfodol agos ac yn creu swyddi a chartrefi."

Dywedodd Cenydd Rowlands, Cyfarwyddwr Eiddo Banc Datblygu Cymru: “Gyda chronfa i gefnogi datblygiadau preswyl, defnydd cymwys a masnachol yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi datblygwyr bach a chanolig eu maint sydd am adfywio cymunedau. Mae adnewyddu adeiladau hanesyddol, deniadol yn elfen bwysig o adfywio cymunedau ac ardaloedd.

Nicola Crocker arweiniodd y fargen ar gyfer y Tîm Eiddo yn y Banc Datblygu. Ychwanegodd hithau: “Braf iawn oedd gweithio gyda Sky View Estates a’r cyllidwyr eraill i adnewyddu Adeilad Corys, sy’n adeilad hanesyddol ac eiconig yng Nghanol Bae Caerdydd. Mae’r fargen sydd wedi’i tharo gennym, sydd werth £5m yn dangos ein hymrwymiad i’r farchnad eiddo yng Nghymru.”