Mae buddsoddiad o £150,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth wedi rhoi’r atyniad twristaidd eiconig Cymreig ar y trywydd iawn am dymor prysur gyda disgwyl i 75,000 o ymwelwyr brofi’r cerbydau rheilffordd Fictoraidd sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar eleni.
Rheilffordd y Graig Aberystwyth, sy'n cael ei rhedeg gan Constitution Hill Limited, yw'r ail reilffordd clogwyni haearn drydan hiraf ym Mhrydain Fawr, 778 troedfedd o hyd. Mae wedi bod yn dirnod yn Aberystwyth ers 1896 a chafodd ei drydaneiddio ym 1921 cyn dod yn strwythur rhestredig Gradd II ym 1987.
Defnyddiwyd y benthyciad gan y Banc Datblygu i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar gerbydau Fictoraidd. Ar ôl diogelu 20 o swyddi a chreu dwy swydd newydd, mae'r buddsoddiad wedi cael ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru a ymwelodd â Rheilffordd y Graig gyda'i gydweithwyr Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog a Julie James AS, Gweinidog Cyflawni/Cynghorydd Cyffredinol.
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru: “Mae twristiaeth yn un o’r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru, gan gyfrannu dros £6.2 biliwn at GDP Cymru a mwy na 172,000 o swyddi.
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru, trwy’r Banc Datblygu, yn darparu’r cefnogaeth sydd ei angen ar atyniadau fel Rheilffordd y Graig i denu ymwelwyr, creu swyddi newydd a pharhau â’u cyfraniad pwysig at economi a chymuned leol Aberystwyth.”
Mae cerbydau Fictoraidd yn cael eu pweru gan fodur a cheblau dur tynnol uchel a gefnogir gan system ddiogelwch electronig soffistigedig. Maent yn teithio i gopa Bryn y Cyfansoddiad (Constitution Hill ) ar bedair milltir yr awr, gan fentro trwy gloddiad dwfn, lle cloddiwyd 12,000 tunnell o graig i ganiatáu i'r llwybr troellog groesi trwy gyfres o bontydd uwchben.
Unwaith maent yn cyrraedd y copa, gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd ysblennydd o Aberystwyth, Bae Aberteifi a 26 o gopaon mynyddoedd Cymru. Mae un o gamerau o fath ‘obscuras’ mwyaf y byd yn cynnig golygfa o 1000 milltir sgwâr o dir a môr o'r tu allan i'r copa. Mae yna hefyd ardal chwarae i blant, siop anrhegion, caffi a digon o leoedd agored ar gyfer picnic a cherdded.
Dywedodd Robert Gray, Cyfarwyddwr Constitution Hill Limited: “Mae ein rheilffordd yn atyniad eiconig ac yn rhan bwysig o dreftadaeth leol. Mae miloedd o ymwelwyr yn ei mwynhau bob blwyddyn, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mynd ymlaen i dreulio amser ac arian yn yr ardal leol. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r cyllid gan y Banc Datblygu wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i gynaliadwyedd y rheilffordd yn y dyfodol; gan ganiatáu i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol a buddsoddi yn ein cyfleusterau er budd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Mae Clare Sullivan yn Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer y Banc Datblygu. Dywedodd: “Mae Rheilffordd y Graig yn atyniad twristaidd sefydledig a phoblogaidd sydd wedi parhau i fuddsoddi’n helaeth gyda chyflwyniad cyfleusterau dan do sy’n gallu gwrthsefyll y tywydd i annog ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Fel diwrnod allan fforddiadwy i’r teulu, mae’n weithgaredd y mae’n rhaid ei wneud pan fyddwch yn yr ardal leol felly rydym yn falch o fod wedi gallu helpu i’w gadw ar y trywydd iawn trwy ariannu’r gwaith atgyweirio sydd ei angen yn fawr.”
Daeth y benthyciad o £150,000 i Constitution Hill Limited o Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru, sy'n werth £50 miliwn. Wedi'i hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae'r gronfa'n cynnig benthyciadau o £100,000 i £5 miliwn gyda thelerau ad-dalu o 10-15 mlynedd ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig, sy'n sefyll allan ac sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.