Buddsoddiad o £2 filiwn i Andrew Scott ar ben-blwydd y busnes teuluol yn 150

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
andrew scott

Mae cyfleuster benthyciadau prosiectau gwerth £3.5 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi'r cwmni peirianneg sifil Andrew Scott i gyflawni contractau yn ystod Covid-19.  

Yn dathlu 150 o flynyddoedd eleni, enillodd Andrew Scott nifer o gontractau newydd ddiwedd 2019. Yna roedd angen cyllid prosiectau i ariannu gofynion cyfalaf gweithio gan arwain at dynnu i lawr £2 filiwn o gyfleuster benthyciad gwerth £3.5 miliwn a ddarperir gan Fanc Datblygu Cymru.

Gyda 220 o weithwyr a phrentisiaid, mae gan Andrew Scott drosiant o fwy na £60 miliwn. Meddai Mark Bowen, y Rheolwr Gyfarwyddwr : “Ein prif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng Covid-19 fu diogelu lles a bywoliaeth ein timau a’u teuluoedd ar draws ein busnes. Mae'r capasiti wedi lleihau ond rydym wedi llwyddo i barhau i weithredu 90% o'n safleoedd gyda dim ond nifer bach o weithwyr wedi eu rhoi ar ffyrlo.

“A ninnau wedi bod yn gweithredu ers 150 o flynyddoedd, nid ydym erioed wedi gweld dim byd tebyg i Covid-19 ond rydym wedi addasu’n gyflym iawn drwy gyflwyno arferion gwaith newydd a chanolbwyntio ar ddefnyddio cronfeydd arian parod wrth gefn i sicrhau hylifedd hirdymor.

“Mae cyflwyno prosiectau allweddol yn barhaus ochr yn ochr ag adeiladu pedwar ysbyty maes Covid-19 gyda thua 1400 o welyau mewn byr o amser ym Mharc y Scarlets, Academi Chwaraeon Llandarsi, Harmann Becker ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ysgubor hyfforddi Undeb Rygbi Cymru yn Hensol yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad ein timau.”

“Mae cyfleuster cyllido prosiectau Banc Datblygu Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn hyn oll dros yr ychydig fisoedd diwethaf gan helpu llif arian a sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ar gyfer ein cleientiaid ledled y DU.”

Clare Sullivan a Joanna Thomas yw Swyddogion Buddsoddi Banc Datblygu Cymru sy'n gweithio gydag Andrew Scott. Meddai'r ddwy: “Wedi’i sefydlu ym 1870, mae Andrew Scott yn un o gwmnïau adeiladu annibynnol hynaf Cymru. Yn enw uchel ei barch yn y marchnadoedd peirianneg sifil ac adeiladu, mae'r busnes teuluol yn gyfrifol am lawer o brosiectau adeiladu a pheirianneg sifil mwyaf Cymru gan gynnwys Parc y Scarlets ac amrywiol ddatblygiadau seilwaith a rheilffyrdd.

"Fel dull cyllido tymor byr ar gyfer prosiectau seilwaith a diwydiannol yn seiliedig ar lif arian a ragwelir, mae cyllid prosiect yn darparu cyfalaf gweithio mawr ei angen. Caiff y ddyled ei had-dalu'n llawn o'r llif arian a gynhyrchir gan y prosiect gan alluogi'r cwmni i fuddsoddi mewn seilwaith lle mae ei angen fwyaf. Mae effaith y math hwn o gyllid yn sylweddol; yn enwedig mewn cyfnod pan fo ein heconomi dan gymaint o bwysau o ganlyniad i Covid-19.”