Buddsoddiad £500,000 ar gyfer Systemau Rhwydwaith Comtek yn y dg wrth i'r busnes yng nglannau dyfrdwy gyflawni caffaeliad technoleg o’r dyffryn Silicon

Rhodri-Evans
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
comtek

Fe'i sefydlwyd mewn sied gardd ym 1989 gan y Prif Weithredwr presennol Askar Sheibani, ac mae Comtek Network Systems UK Limited wedi tyfu o fod yn fusnes atgyweirio cyfrifiaduron a oedd yn cael ei redeg gan un dyn i ddarparwr atgyweiriadau, darnau sbâr a chefnogaeth i'r diwydiant telathrebu, datathrebu, a'r gwasanaeth rhwydweithiol.

Gyda'r cwmni yn seiliedig ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy, mae Comtek bellach yn cyflogi 70 o bobl a bydd yn defnyddio'r £500,000 gan y Banc Datblygu Cymru i fuddsoddi mewn  gweithgynhyrchiant cynhyrchion trawsyrru ffibr optig. Bydd hyd at naw o swyddi sgiliau uchel newydd yn cael eu creu yng Nglannau Dyfrdwy o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn.

Mae'r rownd ariannu ddiweddaraf yn dilyn caffaeliad gwerth £6 miliwn o eiddo deallusol a nodau masnach Sorrento Networks Inc yn 2015.

Er gwaethaf cryfder y cynnyrch, roedd Sorrento Networks sy'n seiliedig yn y Dyffryn Sillicon wedi mynd o dan weinyddiaeth. Achubodd Comtek y dechnoleg trwy gaffael yr Hawliau Eiddo Deallusol, yr hawliau gweithgynhyrchu a'r gwaith ymchwil a datblygu. Mae pob gweithgaredd wedi cael ei drosglwyddo i'r DG ac mae Comtek nawr yn gallu cynnig technoleg arloesol o Sorrento i'r farchnad fyd-eang. Yn bennaf, y cleientiaid sy'n bodoli'n barod yw cludwyr telathrebu a darparwyr canolfannau data ar draws Gogledd America ac Ewrop.

Meddai’r Prif Weithredwr, Askar Sheibani, sy'n disgrifio ei hun fel entrepreneur cyfresol: "Mae busnes llwyddiannus yn dibynnu ar arweinyddiaeth gref, ymagwedd 'fe allwn wneud hyn' a chyllid ariannu sydd ar gael yn rhwydd. Mae gan ein hardal botensial enfawr gyda llawer o sefydliadau twf uchel, gyda thechnoleg lefel uchel sy'n ffynnu. Mae Banc Datblygu Cymru wrth wraidd hyn ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eu cefnogaeth.

"Mae Rhodri Evans, ein hymgynghorydd, wedi bod yn anhygoel o ddefnyddiol ac rydym wedi cael argraff dda yn gyson o ba mor rhagweithiol a gwybodus ydi o. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i ddatblygu cynnig ein cynnyrch ymhellach tra hefyd yn creu swyddi rhagorol medrus sy'n cael eu talu'n dda iawn yng Nglannau Dyfrdwy.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod â'r brand Sorrento sy'n diffinio'r farchnad o dan berchnogaeth yma yng Nghymru, gan adfer llinach i'r DG a ellir ei holrhain yn ôl i ddyfeisiad trosglwyddo data dros ffibr optig yn STL Labs, Harlow, lle cyhoeddodd Kao a Hocking eu papur diffiniol ym 1962. Ychwanegodd Rhodri Evans, Rheolwr Rhanbarthol ar ran y Banc Datblygu Cymru: "Mae Comtek wedi tyfu i fod yn un o'r cwmnïau mwyaf cydnabyddedig ar hyd a lled y rhanbarth gyda safleoedd yn y DU, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Twrci a'r Unol Daleithiau.

"Mae'r busnes craidd yn parhau i berfformio'n dda iawn ac mae'n masnachu'n llwyddiannus yn y DG ac yn Ewrop fel un o'r darparwyr gwasanaethau atgyweirio TG a thelathrebu aml-werthiant sy'n tyfu gyflymaf. Trwy gael eu lleoli mewn Parth Menter, maent wedi elwa o gael cymorth pwrpasol a chyfradd llog is ar ein benthyciadau a hynny o hyd at 2%. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr a bydd yn helpu Comtek i ddatblygu cynhyrchion a ellir eu gwerthu i'r sylfaen cwsmeriaid presennol ac i ddefnyddwyr newydd. Dymunwn bob llwyddiant iddynt."

Daeth arian ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.