Cyhoeddodd Innovation Investment Capital Limited Partnership (IIC), y gronfa a gefnogir gan Ranbarth Prifddinas Caerdydd (RhPC), a Banc Datblygu Cymru heddiw fuddsoddiad ecwiti ar y cyd yn Antiverse Limited, y cwmni BioTech sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac sy'n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, ochr yn ochr â buddsoddwyr rhyngwladol eraill, fel rhan o'i rownd ariannu Cyfres A gwerth $9.3 miliwn.
Mae ei bencadlys ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd (sbarc|spark), ac mae Antiverse yn defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol uwch a dysgu peirianyddol i ragweld, dylunio ac optimeiddio cyffuriau sy'n seiliedig ar wrthgyrff. Drwy leihau amser a chost dulliau darganfod traddodiadol yn sylweddol, mae Antiverse yn galluogi partneriaid fferyllol a biotechnoleg i ddod â thriniaethau sy'n newid bywydau i gleifion yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Mae platfform Antiverse eisoes yn cefnogi rhaglenni ar draws oncoleg, imiwnoleg a chlefydau heintus, gan osod y cwmni ar flaen y gad o ran therapïau'r genhedlaeth nesaf.
Dyma'r trydydd buddsoddiad yn Antiverse gan y Banc Datblygu ers iddo ddarparu cyfalaf sbarduno cam cynnar am y tro cyntaf yn 2020. Mae'r cyllid hwn yn cryfhau safle Cymru ymhellach fel canolfan ragoriaeth ar gyfer arloesi gwyddorau bywyd cymhwysol ac yn helpu i fasnacheiddio'r platfform presennol, cyflymu eiddo deallusol newydd Antiverse ac ehangu ei dîm lleol, gyda phum swydd newydd wedi'u creu, a 19 swydd arall o fedrusrwydd uchel wedi'u diogelu yng Nghymru.
Meddai Murat Tunaboylu, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Antiverse : “Mae cefnogaeth Innovation Investment Capital yn gymeradwyaeth bwerus o’n technoleg a’n gwreiddiau yng Nghaerdydd. Mae’r buddsoddiad hwn nid yn unig yn ein galluogi i gynyddu graddfa ein platfform, tyfu ein tîm a dyfnhau partneriaethau ag arweinwyr fferyllol a biotechnoleg ledled y byd, ond mae hefyd yn gosod Antiverse yn gryf ar gyfer ein cam twf nesaf. Drwy gryfhau ein sylfeini yng Nghyfres A, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer Cyfres B lwyddiannus a’r cyfle i ddod â’n technoleg i farchnad fyd-eang hyd yn oed yn ehangach.
Kellie Beirne, Prif Weithredwr RhPC : “Mae Antiverse yn enghraifft wych o’r math o ymagwedd arloesol yr ydym am ei weld yn tyfu yn ein rhanbarth. Drwy gyfuno deallusrwydd artiffisial â gwyddorau bywyd, mae’r tîm yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau pwysicaf ym maes gofal iechyd heddiw. Mae RhPC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn arloeswyr technoleg feddygol ac rydym yn falch o gefnogi busnes fel Antiverse sy’n creu effaith fyd-eang o Gaerdydd.”
Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Cymru ar gyfer Banc Datblygu Cymru : “Mae Antiverse yn cynrychioli cyfle cymhellol ym maes gwyddorau bywyd gyda’r potensial i adeiladu busnes ar raddfa fyd-eang wirioneddol. Drwy gyfuno arbenigedd biolegol dwfn ynghyd ag uwch ddyluniad dan arweiniad DA mewn platfform perchnogol, mae’r cwmni’n ailddiffinio sut mae therapïau gwrthgyrff yn cael eu datblygu. Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr ag Innovation Investment Capital i barhau â’n cefnogaeth i’r busnes technoleg hwn sydd wedi’i leoli yng Nghymru wrth iddo barhau i ehangu a chryfhau ei sylfeini ar gyfer twf hirdymor.”
Lynda Stoelker, Prif Weithredwr Capricorn Fund Managers a Chadeirydd Pwyllgor Buddsoddi IIC : “Mae Antiverse yn adeiladu platfform sy’n diffinio categori ym maes darganfod cyffuriau. Mae cryfder y tîm, soffistigedigrwydd y dechnoleg a maint y cyfle yn gwneud hwn yn fuddsoddiad cymhellol i IIC. Rydym yn falch o gefnogi eu cam nesaf o dwf o Gaerdydd i’r byd.”
Daeth Rob Asplin, PwC Partner, i’r casgliad: “Mae Antiverse yn dangos sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial arloesol i ddatrys problemau’r byd go iawn ar raddfa fawr. Mae gan y dechnoleg hon y potensial i ail-lunio’r meysydd darganfod cyffuriau ar draws sawl maes therapiwtig, gan gyd-fynd yn berffaith ag amcan y gronfa i gefnogi busnesau trawsnewidiol sy’n tyfu’n gyflym o fewn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.”
Lansiwyd IIC ym mis Tachwedd 2022 gyda £50 miliwn cychwynnol o gronfeydd Llywodraeth y DU a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (RhPC) i ddarparu cyfalaf hirdymor ar gyfer cyfleoedd twf arloesol a chynaliadwy ar draws deg awdurdod unedol RhPC. Mae Capricorn Fund Managers (CFM) yn gwasanaethu fel Rheolwr Cronfeydd Buddsoddi Amgen (RhCBA), gan oruchwylio sut y rheolir y portffolio a risg, gyda PwC yn cynghori ar ymchwil a chyrchu buddsoddi, ar ran CFM.
Daeth y buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn. Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnig buddsoddiadau ecwiti rhwng £100,000 a £350,000 ar gyfer busnesau technoleg Cymru a'r rhai sy'n symud i Gymru yn ystod y cyfnod profi’r cysyniad. Ers 2017, mae Banc Datblygu Cymru wedi ariannu mwy na 300 o fentrau technoleg arloesol gyda dros £97 miliwn, gan ddatgloi dros £210 miliwn mewn cyd-fuddsoddiadau.