Busnes celf a chrefft yn y Mwmbwls yn symud i safle mwy diolch i ficrofenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Craftsea

Mae lleoliad parti peintio crochenwaith eich hun yn y Mwmbwls yn paratoi i groesawu mwy o artistiaid ifanc nag erioed o'r blaen, gyda chymorth microfenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Craftsea yn cynnal sesiynau peintio eich crochenwaith eich hun ar gyfer unigolion a grwpiau, gan ganiatáu i gwsmeriaid o bob oed beintio detholiad o gerameg - gan gynnwys platiau, cwpanau, matiau diod a mygiau - sydd wedyn yn cael eu gwydro a'u ffwrndanio ar y safle. Mae bellach wedi symud i leoliad mwy, cyfagos ar Heol y Mwmbwls, gan bron ddyblu ei le a chaniatáu iddo groesawu mwy o beintwyr crochenwaith.

Sefydlwyd Craftsea gan Louise James yn 2017. Dechreuodd drwy gynnal partïon a dosbarthiadau peintio crochenwaith yng nghartrefi cwsmeriaid neu leoliadau cymunedol, a ffwrndanio’r cynhyrchion wedi’u paentio mewn odyn yn ei garej ei hun.

Flwyddyn yn ddiweddarach, symudodd Louise Craftsea i siop ar Heol y Mwmbwls, lle y gallai gynnal ei digwyddiadau ei hun a sesiynau peintio rheolaidd, yn ogystal â darparu ystafell iddi osod odyn fewnol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fodd bynnag, mae'r galw am beintio ac am sesiynau grŵp mawr wedi cynyddu, a dechreuodd Louise chwilio am gartref mwy ar gyfer y busnes.

Yn ogystal â darparu mwy o le i Craftsea ar gyfer partïon a dosbarthiadau peintio, mae gan y lleoliad newydd far hefyd ar gyfer te, coffi a diodydd alcoholaidd. 

Dywedodd Louise: “Rydym wedi tyfu’n gyflym iawn a daeth yn amlwg bod angen i ni symud i rywle arall, gyda mwy o gapasiti a mwy o le. Mae llawer mwy o ofod yn y lleoliad newydd, gyda lle i gegin ac ardal fanwerthu bwrpasol, ynghyd â bar. 

“Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod ni nawr yn barod ar gyfer cam nesaf ein twf a bod gennym fwy o le i ddiwallu’r galw rydyn ni wedi’i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Dywedodd Charlotte Price, Swyddog Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Louise wedi adeiladu busnes creadigol poblogaidd gyda Craftsea mewn ardal sydd â galw mawr gan rieni plant ifanc sy'n chwilio am weithgareddau grŵp, yn ogystal â chan y rhai sy'n chwilio am ddewis arall yn lle'r noson allan arferol. Rydym yn falch bod ein cyllid yn helpu Louise i dyfu'r busnes ac ehangu ei chynigion i’r gymuned leol a thwristiaid fel ei gilydd.”

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn cynnig bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae buddsoddiadau ecwiti, benthyciadau a chyllid mesanîn ar gael i fusnesau Cymreig gyda thelerau o hyd at 15 mlynedd.