Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Busnes garddio yn tyfu diolch i micro-fenthyciad Banc Datblygu

Chris-Stork
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Twf
Marchnata
Slate and Soil

Mae cwpl ifanc wedi gallu dechrau eu busnes garddio eu hunain diolch i micro fenthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi'i leoli yn y Drenewydd, Powys, mae Slate and Soil Gardens yn cael eu rhedeg gan y garddwyr gydol oes Luke Aldridge, 31 oed, a Stephanie Hicks, 25 oed. Rhyngddynt, mae ganddynt fwy na degawd o brofiad o weithio mewn gerddi, tirlunio a gofalu am dir, o winllannoedd yr Azores i feysydd gwersylla Cymru. Ar ôl blynyddoedd o feithrin eu harbenigedd a gweithio i eraill, penderfynon nhw ddechrau eu busnes eu hunain a lansio yn gynharach eleni.

Maent yn darparu gwasanaethau garddio ledled gogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys gofal lawnt, ffensio, tirlunio, dylunio, clirio a chynnal a chadw. Mae eu sylfaen cwsmeriaid wedi'i rhannu rhwng gerddi domestig preifat ac ystadau mwy, ynghyd â busnesau awyr agored.

Fe wnaeth y micro fenthyciad o £10,000, o Gronfa Micro fenthyciadau Cymru, ganiatáu i'r cwpl brynu offer, offer a fan newydd i sefydlu eu busnes.

Dywedodd Luke: “Gan ein bod am ddechrau busnes ar ein pennau ein hunain, roeddem angen cael offer newydd, cyfarpar newydd ac roeddem angen cael fan newydd, ddibynadwy. Mae cael y rhain i gyd wrth i ni ddechrau ein busnes ein hunain wedi cael gwared a’r lawer o’r straen, ac yn ei dro mae hyn wedi rhoi’r cyfle i ni ganolbwyntio ar dyfu a chymryd cwsmeriaid newydd.

“Roedden ni’n falch o weithio gyda’r Banc Datblygu ar y benthyciad hwn. Roedd y broses yn llyfn, ac roedd yn beth da i ni fel busnes Cymreig weithio gyda sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymru i gael y gefnogaeth oedd ei hangen arnom. Roedd y cyfan yn ddi-drafferth ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom.”

Dywedodd Chris Stork, Swyddog Buddsoddi: “Mae Luke a Stephanie yn gwpl ifanc gyda blynyddoedd o brofiad yn eu crefft, ac rwy’n falch o fod wedi eu cefnogi wrth iddyn nhw gymryd y cam o weithio i eraill i ddechrau eu busnes eu hunain. Maen nhw eisoes wedi dechrau cymryd mwy o gleientiaid o ganlyniad i’n micro fenthyciad.

“Byddem yn annog unrhyw fentergarwyr ifanc sy’n teimlo eu bod yn barod i gymryd cam tebyg tuag at ddechrau eu busnes eu hunain i gysylltu â ni, yn enwedig am ein bod erbyn hyn yn gallu cynnig benthyciadau hyd at £100,000 heb unrhyw ffioedd trefnu.”

Mae Cronfa Micro fenthyciadau Cymru yn cynnig benthyciadau o £1,000 i £100,000 ar gyfer dechrau busnes o’r newydd a thyfu busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch i weld www.datblygubanc.cymru