Busnes gofal croen ar gyfer plant bach yn cymryd ei gamau cyntaf

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Toddle

Bydd Toddle, busnes cynhyrchion gofal croen newydd o Wrecsam, yn lansio ei gynhyrchion gofal croen sy'n gyfeillgar i blant yr haf hwn yn dilyn buddsoddiad ecwiti o £200,000.

Mae Toddle, sy'n ffrwyth dychymyg cyn swyddog yr Awyrlu Brenhinol, Hannah Saunders, wedi sicrhau £150,000 drwy Angylion Buddsoddi Cymru, y rhwydwaith o angylion busnes a lansiwyd gan Fanc Datblygu Cymru y llynedd.

Daeth y £50,000 arall ar ôl i Toddle ennill 'Cyflwyniad Busnes y Dydd' yn Pitch It Wales, cystadleuaeth yn arddull Dragons 'Den a gynhaliwyd mewn partneriaeth rhwng Inspire Wales a BeTheSpark. Bydd cyfanswm y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio'n rhannol i greu tair swydd newydd.

Bydd y buddsoddiad o £200,000 hefyd yn talu am weithgareddau marchnata i baratoi ar gyfer lansio'r cwmni a'r flwyddyn fasnachu gyntaf, yn ogystal â gweithgareddau gweithgynhyrchu ac allforio.

Mae Hannah a'i gŵr yn deithwyr brwd ac yn hoff iawn o chwaraeon antur. Ond ar ôl dod yn rhieni, fe wnaethant ddarganfod nad oedd unrhyw gynhyrchion gofal croen addas i blant ifanc y gallent fynd â nhw ar eu gwibdeithiau.

Gan weld bwlch yn y farchnad, gadawodd Hannah yr Awyrlu yn 2017 a threuliodd y 18 mis nesaf yn gwneud ymchwil i'r farchnad ac yn datblygu cynhyrchion y cwmni. Mae'r rhain yn cynnwys balm gwefusau sy'n gallu gwrthsefyll glafoerio sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer babanod, eli haul a gwynt ac sydd wedi'i gynllunio i amddiffyn bochau babanod mewn unrhyw dywydd, a jel probiotig ar gyfer y dwylo.

Dywedodd Hannah Saunders, perchennog a sylfaenydd Toddle: “Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o jeliau dwylo yn lladd pob bacteria yn ddiwahân; mae ein cynnyrch ni yn lladd y bacteria drwg ac yn gwarchod y bacteria da. Mae angen y bacteria da arnom i helpu gyda'n system imiwnedd ac iechyd cyffredinol.”

Gyda'r nod o apelio at rieni, mae'r cynhyrchion yn dod gyda llinynnau a chlasbiau er mwyn gallu eu cludo o le i le yn hawdd ac yn ddiogel.

“Gallwch eu defnyddio gydag un llaw oherwydd, fel rhiant, efallai eich bod yn delio â phlentyn aflonydd, ac nid ydynt yn mynd ar goll, maen nhw wastad yno,” meddai Hannah.

Dechreuodd Hannah drwy gymysgu cynhwysion fel olew jojoba a chwyr gwenyn yn ei chegin, ac yn ddiweddarach gweithiodd gyda biocemegwyr a gweithgynhyrchwyr ym Mhrydain ac America i berffeithio'r cynhyrchion.

Mae dod o hyd i gynhyrchion moesegol yn bwysig i Hannah.  Mae'n defnyddio gweithgynhyrchwyr Prydeinig yn unig yn hytrach nag opsiynau rhatach yn y Dwyrain Pell er mwyn sicrhau bod modd olrhain pob cynhwysyn, sicrhau eu bod wedi'u cynhyrchu heb greulondeb i anifeiliad a'u bod yn addas ar gyfer feganiaid.

“Lle bynnag y bo modd, rydym yn defnyddio tiwbiau cansen siwgr sy'n fioddiraddadwy. Rydym wedi lleihau'r deunydd pacio i'r eithaf  ac mae'r ychydig ddeunydd a ddefnyddiwn yn gardfwrdd sy'n gwbl ailgylchadwy,” meddai.

Mae'r cwmni'n disgwyl gwneud llawer o werthiannau uniongyrchol drwy ei wefan ond mae hefyd yn targedu manwerthwyr. Mae Toddle wedi gwneud cyflwyniad llwyddiannus i Boots ac, o blith cannoedd o ymgeiswyr, mae wedi mynd ymlaen i'r cam nesaf lle bydd y cynnyrch yn cael ei ystyried ymhellach i'w werthu yn y siopau.

Er bod Hannah a'i gŵr bellach yn byw yn Wrecsam, lansiwyd y busnes tra roeddent yn byw yn Swydd Buckingham. Mae'n cyfaddef bod ganddi amheuon am symud i Ogledd Cymru i ddechrau.

“Roeddwn i'n meddwl y byddai symud i fyny yma, i ffwrdd o Lundain lle roeddwn i'n meddwl y byddai'n lle gwell i ddechrau busnes, yn ofnadwy. Allwn i ddim fod wedi bod ymhellach o'm lle oherwydd mae'r help a gefais gan Angylion Buddsoddi Cymru wedi bod yn anhygoel ac ni fyddwn i yn y sefyllfa hon nawr hebddo,” meddai.

Meddai Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae Angylion Buddsoddi Cymru yn darparu gwasanaeth ledled Cymru, gan gyfateb cyfleoedd busnes o ansawdd gyda'r buddsoddwr cywir drwy ein llwyfan buddsoddi digidol. Mae hyn yn dangos ein trefniadau posibl i'n holl fuddsoddwyr mewn amser real.

“Mae tîm Angylion Buddsoddi Cymru yn cydweithio ar draws y wlad i sicrhau bod y broses baru yn cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol ar draws y rhanbarthau o'r de i'r gogledd, ac mae'r cytundeb gyda Toddle yn enghraifft wych o ba mor effeithiol yw hyn. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi helpu i ysgogi grŵp mor brofiadol a gwybodus o angylion a dymunwn bob llwyddiant i Toddle yn y dyfodol.”

Cafodd Deri Green, un o'r buddsoddwyr angel, ei ddenu at Toddle oherwydd ei gynhyrchion arloesol sy'n ystyriol o'r amgylcheddol. Meddai: “Pan fyddaf yn ceisio buddsoddi mewn cwmni, rwy'n edrych am ddilysrwydd, amseru a moeseg waith gref. Roedd model busnes Hannah yn ticio pob bocs i mi; o sut mae'r cynhyrchion yn cael eu gwneud a beth sydd ynddynt, i sgiliau trefnu eithriadol Hannah.

“Gyda'm profiad personol o lunio cytundebau gyda chleientiaid mawr, gallaf drosglwyddo fy arbenigedd i Hannah wrth iddi weithio gyda manwerthwyr yn y DU i werthu ei chynhyrchion.

“Roedd tîm Angylion Buddsoddi Cymru yn wych o ran cydweithio rhyngof fi yn rhanbarth De Cymru a Toddle yn Wrecsam, gan ddangos pa mor hawdd yw hwyluso cytundebau ledled y wlad.”