Busnes newydd yn cael ~£1m i helpu i ddatrys yr her gyrydu fyd-eang mewn ffordd gynaliadwy

alex
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
hexigone

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Hexigone.

Mae cwmni gweithgynhyrchu newydd o Bort Talbot wedi cael buddsoddiad gwerth £894,000 i ehangu ei werthiannau byd-eang o atalyddion cyrydu clyfar – sy’n cynnig lefel uwch o amddiffyniad ac ateb cynaliadwy i ddiwydiannau allweddol ledled y byd.

Wedi’i sefydlu gan Patrick Dodds, mae Hexigone wedi darganfod ffordd o amddiffyn metelau am hyd at ddeg gwaith yn hwy gyda’i atalyddion clyfar ac arloesol – gan godi £894,000 o gymorth ariannol i gynyddu gweithgarwch masnachol ledled y byd o’i safle ym Mharc Ynni Baglan.

Daw’r buddsoddiad gwerth £894,000 gan fuddsoddwyr newydd sef Cronfa’r Dyfodol Banc Busnes Prydain a’r Gronfa Buddsoddi mewn Menter yn ogystal â’r cymorth parhaus gan fuddsoddwyr presennol o Fanc Datblygu Cymru, Armourers & Brasiers, Sunnybarn Investments a Chadeirydd Hexigone, Mr Owen Sennitt. Daw’r hwb ariannol ar adeg tyngedfennol i Hexigone wrth i’r brosesau dilysu technegol diweddar arwain at werthiannau masnachol. Mae’r cwmni hefyd ar fin cwblhau bargeinio pwysig gyda dau gwmni haenu mawr gwerth biliynau o bunnoedd yn Asia, yn dilyn strategaeth werthu fyd-eang uchelgeisiol.

Mae cyrydu yn costio 2.5 triliwn o ddoleri i economi’r byd bob blwyddyn a dyma sydd wrth wraidd llawer o’r heriau amgylcheddol a chymdeithasol ledled y byd. Disgwylir i’r galw byd-eang am atalyddion gyrraedd £6.7bn erbyn 2021 – sy’n cynnwys y sector awyrofod, modurol, pensaernïol ac ynni. Mae technoleg glyfar Hexigone yn unigryw o fewn y diwydiant haenau, ac yn cynnig atalyddion perfformiad uchel amgen yn lle’r rhai gwenwynig sy’n dominyddu’r farchnad ond y mae cwmnïau o amgylch y byd yn rhoi’r gorau i’w defnyddio’n raddol.

Bydd Neil MacDougall, buddsoddwr newydd a chadeirydd presennol y British Venture Capital Association, yn ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr Hexigone. Meddai:

“Anfonodd Hexigone gais am batent yn seiliedig ar yr ymchwil o labordai Prifysgol Abertawe ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gynnyrch sy’n amddiffyn metelau rhag cyrydu. Cadarnhaodd y treialon gan gwsmeriaid fod technoleg Hexigone yn gam sylweddol ymlaen yn y maes hwn a bydd yr arian a godwyd yn galluogi’r cwmni i fasnachu ei gynnyrch gyda chwsmeriaid o amgylch y byd. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r bwrdd ac ar ei ran hoffwn ddiolch i Gronfa’r Dyfodol am ei chymorth i godi’r arian hwn a hynny ar gyfnod pwysig yn natblygiad Hexigone.”

Mae technoleg Hexigone yn darparu amddiffyniad eithriadol i arwynebedd metel a hefyd yn cynnig ffordd unigryw a chynaliadwy o fynd i’r afael â chyrydiad. Mae’r atalyddion ar gael ‘ar alw’ ac yn ymateb i ymosodiad cyrydol wrth i hynny ddigwydd– gan alluogi’r haen i amddiffyn y metel oddi tano mewn ffordd fwy clyfar. Dengys profion annibynnol fod y dechnoleg yn lleihau costau cynnal a chadw yn sylweddol, a bydd hynny yn ei dro yn lleihau’r baich ar adnoddau naturiol.

Wrth ddadansoddi costau purfa olew a nwy, gwelwyd mai cost ail-baentio dim ond un o’i danciau storio cemegol oddi ar y safle oherwydd cyrydu yw $374,000 bob 15 mlynedd. Gwelwyd fod technoleg Hexigone yn cynyddu hirhoedledd metel tua 50% ac felly’n ychwanegu 7 mlynedd at oes yr haen sy’n gorchuddio’r tanc, gan arwain at ostyngiad o draean yng nghostau cynnal a chadw’r tanc.

Ychwanegodd Patrick Dodds, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Hexigone: 

“Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu bod Hexigone mewn sefyllfa i greu lefelau twf uchel iawn yn ystod 2021, ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am y cyfnod nesaf o gynnydd masnachol. Mae dros 40 o ddarpar gleientiaid wrthi’n llunio ein cynnyrch – ac mae prosesau dilysu technegol hirfaith yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio gallu cydweithio gyda’r cwsmeriaid hyn i ddarparu haenau clyfar ar draws y byd yn ystod 2021 a thu hwnt i hynny…

Mae’r buddsoddiad yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad Tîm Hexigone, a fydd yn tyfu’n gyflym eleni i gyflawni ein cynlluniau ehangu masnachol a gweithgynhyrchu. Bydd cyfleoedd pellach i fuddsoddi ar gael wrth i ni gynllunio cyfres A yn ddiweddarach eleni, ac rydym yn croesawu ymholiadau gan gwmnïau cyfalaf menter.”

Ychwanegodd Alexander Leigh o Fanc Datblygu Cymru: “Mae gennym brofiad blaenorol eang o weithio gyda chwmnïau deillio Prifysgolion, ac fel un o fuddsoddwyr sefydliadol yn y cyfnod cynnar, rydym yn falch o allu parhau i gefnogi Hexigone gyda chyllid dilynol. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu cyllid i fusnesau technoleg glân uchelgeisiol ac rydym yn hynod falch o gydfuddsoddi ochr yn ochr â Neil MacDougal sy’n aelod o’r Bwrdd.