Busnesau Torfaen yn derbyn dros £2.2M o Gynllun Benthyciad Busnes COVID-19 Cymru Banc Datblygu Cymru

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae dros 30 o fusnesau Torfaen wedi derbyn mwy na £2.2 miliwn o Gynllun Benthyciad Busnes COVID-19 Cymru Banc Datblygu Cymru.

Tanysgrifiwyd y cynllun £100m, sy'n elfen o Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn ystod wythnos gyntaf y broses gloi, yn gyfan gwbl erbyn canol mis Ebrill.

Darparodd y gronfa fenthyciadau rhwng £5,000 a £250,000 i gwmnïau cyfyngedig, partneriaethau ac unig fasnachwyr ledled Cymru ar gyfradd llog sefydlog o 2%. Nid yw llog ac ad-daliadau cyfalaf yn ddyledus ar fenthyciadau am y 12 mis cyntaf, does dim ffioedd trefnu o gwbl, cais ar-lein ydyw ac ychydig iawn o waith papur sydd yna i'w gwblhau, cynigiodd y cynllun gefnogaeth mawr ei hangen i fusnesau a oedd wedi bod yn masnachu ers mwy na dwy flynedd a oedd yn profi anawsterau llif arian o ganlyniad i'r pandemig.

Mae'r ffigurau diweddaraf gan Fanc Datblygu Cymru yn dangos bod dros 30 o fusnesau Torfaen wedi cael benthyg £2.224m, gyda thua 500 o swyddi lleol yn cael eu diogelu. Roedd y benthyciad oddeutu £72,000 ar gyfartaledd. Mae'r sectorau allweddol a elwodd o'r gefnogaeth yn Nhorfaen yn cynnwys manwerthu, cyfanwerthu a gweithgynhyrchu.

Un busnes yn Nhorfaen sydd wedi sicrhau Benthyciad Busnes COVID-19 Cymru yw Avondale Engineering Limited. Mae'r cwmni o Bont-y-pŵl yn arbenigo mewn dylunio a gwaith gwneuthur gwaith metel pensaernïol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Mae ganddyn nhw hefyd eu cyfleusterau dylunio AutoCad mewnol eu hunain.

Dywedodd Mike Brooks, Rheolwr Gyfarwyddwr Avondale Engineering: “Roeddem yn masnachu'n gyffyrddus cyn yr achosion o Covid-19. Ond roedd gweithio'n bennaf yn y sector adeiladu yn golygu ein bod wedi gweld dirywiad enfawr wrth i'r mwyafrif o safleoedd atal y gwaith yn ystod y cyfnod clo. Er bod yn rhaid i ni roi nifer o weithwyr ar y cynllun seibiant, roeddem yn gallu cadw rhai o'n staff yn ystod y cyfnod clo diolch i'r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru. Gweithiodd ein gweithwyr sy'n weddill ar ddylunio a gwneuthur gwaith metel pensaernïol yn barod i fynd i safleoedd cyn gynted ag yr oedd prif gontractwyr yn caniatáu. Fe wnaeth y benthyciad hefyd ein helpu i dalu ein costau cyffredinol gan gynnwys taliadau treth a chyfleustodau.

“Rydyn ni nawr 90% yn weithredol eto ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y cymorth a gafwyd. Felly diolch yn fawr iawn i'r tîm yn y Banc Datblygu gan bob un ohonom yn Avondale."

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio yng nghyngor Torfaen: “Rwy’n falch bod nifer o fusnesau Torfaen wedi gwneud cais llwyddiannus am y gronfa hanfodol hon gan Fanc Datblygu Cymru ac wedi elwa o'i chefnogaeth. Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau bod busnesau lleol yn gallu cadw eu pennau uwchben y dŵr yn ystod yr amseroedd ansicr hyn ac yn bwysig, bydd yn helpu i ddiogelu cyflogaeth yn y fwrdeistref.”

Dywedodd Claire Vokes, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn cydnabod bod eleni wedi bod yn hynod heriol ac yn hynod anghyffredin i fwyafrif busnesau Cymru. Rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu cymaint o gwmnïau Torfaen trwy Gynllun Benthyciad Busnes COVID-19 Cymru. Mae gennym nifer o gronfeydd ar gael i gefnogi busnesau Cymru wrth i ni lacio o'r cyfnod clo a mynd i mewn i'r ‘normal newydd’. Mae'n wych gweld cwmnïau fel Avondale Engineering yn ffynnu eto wrth i waith i lawer o ddiwydiannau ddechrau cynyddu unwaith eto i'r lefelau cyn Covid 19."

Bydd Cyngor Torfaen a Banc Datblygu Cymru yn cynnal clinig galw heibio cymorth busnes rhithwir rhwng 10:00 a 16:00 ar 1 Hydref. Mae slotiau deg munud ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ar-lein. Yn y sesiwn, gallwch ganfod mwy am y gefnogaeth leol sydd ar gael i'ch busnes.