Bywyd gyda Banc Datblygu Cymru: Chris Hayward

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Wedi'i eni a'i fagu yng ngogledd Cymru, rwy'n falch o'r ardal hon ac rwy'n teimlo'n angerddol o blaid helpu i gyflawni Cymru sy’n fwy ffyniannus a diogel trwy greu a diogelu swyddi a chyfoeth.

Mewn gwirionedd, 'dydw i ddim yn meddwl fod unrhyw beth yn curo teimlad da mae rhywun yn ei gael pan rydych yn gwybod bod eich gwaith wirioneddol yn 
gwneud gwahaniaeth i'r economi leol. Helpu i wireddu potensial twf busnesau yng ngogledd Cymru sy'n gwneud i fy nghalon i guro...

Rydw i wedi treulio'r 12 mlynedd ddiwethaf ym maes bancio, gan arbenigo mewn caffaeliadau a phryniant cwmniau gan y rheolwyr. Rwyf wedi gweithio ar rai cytundebau gwych ac rwy'n arbennig o falch o rai o'r buddsoddiadau diweddar yr ydym wedi'u cwblhau; rydym wedi defnyddio ein harian a'n gwybodaeth i gefnogi rhai o'r storïau llwyddiant gorau trwy ddiogelu swyddi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl leol. Mae'n deimlad gwych.

Mae bywyd gyda Banc Datblygu Cymru wirioneddol yn cael ei werthfawrogi. Mae'r amgylchedd yn hyfryd, mae cydweithwyr yn gefnogol ac mae'r diwylliant yn agored ac yn dryloyw. Mae hwn yn sefydliad lle mae'r cwsmer wrth wraidd y model busnes ac mae gan ein tîm ni ein hunain lais. Mae'n lle gwych i fod ac rwy'n falch o fod yn rhan ohono.