Bywyd gyda Banc Datblygu Cymru: Stewart Williams

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae gwneud yr hyn dwi'n gredu ynddo wastad wedi bod yn bwysig iawn i mi. Dyna pam mae'n rhoi cymaint o foddhad cael yr hyblygrwydd a'r cyfalaf i gefnogi'r busnesau rydw i wirioneddol yn credu all ffynnu.

Yma yn Wrecsam, mae'n adeg cyffrous. Mae lansiad Banc Datblygu Cymru wedi cael croeso cynnes ar draws y rhanbarth ac rydym bellach yn brysur yn darparu'r cyllid lle mae ei angen fwyaf...

Rydw i wrth fy modd gwybod fy mod yn gweithio gyda thîm yn y banc datblygu sy'n rhannu'r un gwerthoedd ac ethos perthynas cleientiaid â mi fy hun; rydym wirioneddol yn elwa o gael ymagwedd gadarnhaol.

Yn holl bwysig, mae yna ddigon o le i dyfu. O fusnesau twristiaeth i ddarparwyr gwasanaethau a chynhyrchwyr bwyd, rwy'n gweithio gyda rhai perchnogion busnes ysbrydoledig. Rwy'n cael y cyfle i weithio gyda busnesau ar draws ystod eang o ddiwydiannau, mewn economi sy'n aeddfed ar gyfer twf.

Fedra' i ddim gofyn am fwy. Mae hon yn swydd rwyf wrth fy modd ynddi ac mae'n rhoi'r boddhad imi fy mod yn gallu dylanwadu'n uniongyrchol ar ffyniant economi Cymru trwy greu a diogelu swyddi a chyfoeth. Rydw i mewn sefyllfa lle mae fy ngyrfa a fy nheulu ar eu hennill ymhob agwedd.