Camtronics yn cwblhau pryniant o’r cwmni gan y rheolwr gyda chyllid olyniaeth o £400,000

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Camtronics

Mae Camtronics Vale Limited wedi cwblhau pryniant rheoli gyda chefnogaeth benthyciad o £400,000 gan y Banc Datblygu Cymru.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Paul Macleur, mae'r uwch dîm rheoli wedi caffael y busnes gweithgynhyrchu contract electroneg sydd â throsiant gwerth £2 filiwn gan y prif gwmni PhotonStar LED Plc. Yn seiliedig ar Barc Busnes Tredegar, mae Camtronics yn cynnig ystod lawn o wasanaethau gweithgynhyrchu electroneg ac mae’n cyflogi 31.

Gan weithio gydag ystod o gwsmeriaid ar draws y diwydiannau gwyddonol, meddygol, diwydiannol, milwrol a goleuadau LED, mae Camtronics yn cynnig dull cynnull mowntio ar wyneb (a adwaenir fel SMT), archwiliad optegol awtomatig (a adwaenir fel AOI), cynnull trwy dyllau, adeiladu blychau, rhaglennu a phrofi.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu yn gyntaf yn 1993 fel Novaspec, cafodd Camtronics ei brynu gan PhotonStar yn 2011. Mae'r tîm rheoli yn cynnwys y Rheolwr Gyfarwyddwr Paul Macleur sydd wedi bod gyda'r busnes ers 17 mlynedd. Ymunodd o fel Rheolwr Prawf yn gyntaf a bu'n Gyfarwyddwr Rheoli ers 2011.

Meddai Paul Macleur: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau'r buddsoddiad hwn gan y Banc Datblygu Cymru. Mae'n rhoi Camtronics Vale mewn sefyllfa ardderchog i fanteisio ar ein potensial twf helaeth yn hyn o beth, sef ein 25ain blwyddyn o gynnal gweithrediadau.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid newydd tra'n cynnal y lefelau gwasanaeth a chymorth y mae ein cwsmeriaid presennol, - ac y mae llawer ohonynt wedi bod gyda ni ers dros ddeng mlynedd, - yn ei werthfawrogi gymaint."

Mae Linda Cooper yn Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig. Roedd hi gyda'r busnes am bum mlynedd fel Rheolwr Ariannol y Grŵp cyn gadael ym mis Hydref 2017. Mae hi bellach wedi dychwelyd fel Cyfarwyddwr Cyllid.

Chris Gulliford yw'r Rheolwr Peirianneg. Ymunodd â'r busnes am y tro cyntaf ym 1996 mewn swyddogaeth weithredol. Bellach mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am y swyddogaethau cynhyrchu a pheirianneg yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.

Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Buddsoddi Steve Galvin ar ran y Banc Datblygu Cymru: "Mae Camtronics yn ffit berffaith i Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Diben y gronfa yw cefnogi'r gwaith o gynllunio olyniaeth a darparu cyllid i dimau rheoli brynu i mewn i'r busnes a siwtio perchnogion sy'n chwilio am strategaeth ymadael.

"Bydd ein buddsoddiad yn Camtronics yn sicrhau dyfodol y busnes ym Mlaenau Gwent. Mae ganddynt botensial twf sylweddol ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt."

Mae Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru yn gronfa o £25 miliwn sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi olyniaeth busnes ar gyfer cwmnïau yng Nghymru sy'n tyfu.

What's next?

Get in touch with our dedicated investment team to find out more or if you think you're investment ready apply today. 

Contact our team Apply now