Careercake.com yn sicrhau dros £300,000 yn y rownd ariannu ddiweddaraf

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Careercake.

Llwyfan dysgu ar-lein yn ail-frandio i helpu gweithwyr i roi "Hwb Grymuso" i ddatblygiad eu gyrfa. 

Mae llwyfan dysgu ar-lein sy'n seiliedig yng Nghaerdydd, Careercake, wedi sicrhau dros £300,000 yn ei rownd ariannu ddiweddaraf. Arweiniwyd y rownd gan Fanc Datblygu Cymru fel buddsoddwr presennol, gyda chyllid ychwanegol gan gonsortiwm o angylion gan gynnwys Sunnybarn Investments a sefydlwyd gan yr entrepreneur Phil Buck.

Nod Careercake yw helpu mudiadau sydd am helpu eu staff i feithrin hyder yn eu gyrfaoedd a'r heriau y gallent eu hwynebu yn eu bywydau gwaith.

Meddai'r Prif Weithredwr a'r Sylfaenydd, Aimee Bateman: "Rydym am roi "Hwb Grymuso" i weithwyr fel eu bod yn teimlo'n hyderus yn y gweithle, waeth be' fo eu sefyllfa yno. Gyda'r ffocws a'r buddsoddiad newydd hwn, roeddem yn teimlo fod yr amser yn iawn i ail-frandio'r llwyfan. Bydd y rownd ariannu ddiweddaraf yn ein helpu i gyflymu twf y brand a gweithio tuag at ein nod o fod yn 'Netflix' yn y maes datblygu gyrfa. Rydym yn hynod o falch o'r llwyddiant y mae Careercake wedi'i gael hyd yn hyn ac yn falch o'r gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru a'n buddsoddwyr."

Eglurodd Aimee fod defnyddwyr Careercake wedi helpu i lunio sut mae’n ymddangos ar ei newydd wedd: "Rydym wirioneddol wedi gwella'r cynnyrch rydym yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion, yn seiliedig ar adborth cwsmeriaid a sut mae busnesau'n defnyddio'r llwyfan. Rydym yn canolbwyntio ar greu cynnwys yn y meysydd y mae pobl yn eu hwynebu yn eu gyrfa, a'r pynciau nad oes neb arall yn sôn amdanynt. Fel, er enghraifft, sut ydych chi'n meithrin y dewrder i siarad â'r Cyfarwyddwr Gweithredol am y tro cyntaf, neu sut ydych chi'n siarad am bryder gyda'ch cydweithwyr?

"Yr adborth rydyn ni'n ei gael gan ein tanysgrifwyr yw bod y rhain yn feysydd lle maen nhw angen help llaw - mae dysgu sgil newydd yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn wynebu, ond mae datblygu gyrfa cymaint mwy na hynny, a'r meysydd hyn yn aml sy'n cael eu hanwybyddu yn ystod gwerthusiadau staff neu wrth osod amcanion."

Meddai Carl Griffiths, Rheolwr y Gronfa Sbarduno Technoleg: "Mae Careercake yn un o dros 80 o fentrau technoleg arloesol yr ydym yn falch o'u cefnogi yng Nghymru. Fel buddsoddwyr blaengar gyda chyfalaf amyneddgar, rydym yn deall yr heriau o redeg busnes technoleg sy'n tyfu. Rydym wastad yn gweithio gyda'n cwsmeriaid i ddatblygu pecynnau ariannu sy'n ategu buddsoddiad parhaus ac esblygiad. Rydym yn arbennig o falch o barhau â'n buddsoddiad yn Careercake wrth iddynt ddatblygu eu llwyfan ymhellach i helpu i roi hwb grymuso i bob gweithiwr fel eu bod yn teimlo'n hyderus yn y gweithle."

Lansiwyd Careercake yn 2010 gan y Prif Weithredwr a'r sylfaenydd, Aimee Bateman. A hithau yn teimlo ei bod wedi ei dadrithio yn ei swydd ym maes recriwtio corfforaethol, cyflwynodd Aimee rybudd ei bod am roi'r gorau i'r swydd honno, aeth ar-lein a phrynodd camera am £20 ac fe ddechreuodd wneud fideos cyngor gyrfaol a'u postio am ddim ar YouTube. Erbyn hyn, mae cynnwys Careercake i'w weld mewn dros 42 o wledydd ac maen nhw'n cael eu trwyddedu gan fusnesau sy'n dymuno rhoi hwb i rymuso eu timau i dyfu'n hyderus. Yn 2016, enillodd y cwmni fuddsoddiad gan sylfaenwyr Gocompare.com Hayley Parsons OBE a Kevin Hughes, yn ogystal â buddsoddiad pellach gan ei buddsoddwr sbarduno a Chadeirydd y bwrdd, Ashley Cooper.

Gall busnesau danysgrifio i'r llwyfan a darparu'r cynnwys i'w gweithwyr fel rhan o'u rhaglen buddion neu gynlluniau datblygu gyrfa.