Cariad Glass, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, yn cynnig creadigrwydd yn ystod y cyfnod llwyrgloi gyda'u cit Gwneud Mosaig Gartref

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cariad Glass Justine

Mae’r artistiaid Gwydr Lliw Cariad Glass wedi gweld cynnydd yn eu gwerthiant ar-lein yn ystod y broses llwyrgloi wedi iddyn nhw ddatblygu cit mosaig gwydr i’w wneud gartref er mwyn darparu gweithgaredd dyrys a hwyliog i’w cwsmeriaid crefftus.

Derbyniodd y busnes yn Llandysul micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi eu cynlluniau twf a rhoi cyfalaf gweithio iddynt ychydig cyn y cyfnod llwyrgloi.

Mae’r tîm sy’n ŵr a gwraig, sef Justine a Chris Dodd yn defnyddio dulliau a thechnegau traddodiadol i greu darnau celf a gwydr pwrpasol, gan arbenigo mewn gwaith comisiwn ac adfer. Maent hefyd yn cynnig cyrsiau wyneb yn wyneb yn eu stiwdio i’r rheini sy’n dymuno dysgu mwy am grefftau gwydr.

Dywedodd y cydberchennog Justine: “Fe wnaethon ni sylweddoli yn weddol gynnar yn y broses llwyrgloi bod angen i ni symud gwaith cynhyrchu ein stiwdio. Fe aethon ni â mainc adref a sefydlu stiwdio yn ein tŷ haf sy’n gaban pren ar waelod ein gardd. Roedd gennym ychydig o gomisiynau i weithio arnynt, ond roedd angen i ni ohirio ein holl ddosbarthiadau.”

A hwythau'n awyddus i gynnig rhywbeth i'w wneud gartref i gwsmeriaid sy'n colli allan ar gyrsiau wyneb yn wyneb, lluniodd y pâr y syniad o banel mosaig gwydr crog bach y gallwch ei wneud gartref. Fe wnaethant ffilmio'r broses o lunio'r mosaig gwydr gan ddefnyddio offer domestig a rhoi'r fideo ar eu tudalen Facebook. Yn fuan cawsant niferoedd di-ri o geisiadau i brynu'r citiau am £25.

“Mae ein gwerthiannau fel arfer yn dod trwy orielau ac arddangosfeydd sydd i gyd wedi cael eu gohirio. Mae ein siop ar y wefan, The Stained Glass Emporium wedi bod yn amhrisiadwy - rydyn ni wedi gwerthu bron i 200 o'r citiau hyn ers i ni bostio'r neges honno. Mae yna awydd mawr wedi bod amdanyn nhw ac mae pobl wedi bod wrth eu bodd yn rhannu lluniau o’u creadigaethau gorffenedig gyda ni,” ychwanegodd Justine.

“Maen nhw wedi bod mor boblogaidd fel ein bod ni wedi drafftio ein merch 18 oed Hattie i gymryd drosodd y rhan bocsio a danfon o'r prosesau.”

Yn ddiweddar mae'r teulu wedi symud y gwaith cynhyrchu yn ôl i'w stiwdio ac maen nhw'n edrych ar ffyrdd y gallant ailagor i'r cyhoedd yn ddiogel pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

Fe’u cefnogwyd trwy’r cyfnod llwyrgloi gan Swyddog Portffolio Banc Datblygu Cymru, Donna Williams. Fe ddywedodd hi : “Mae'n wych gweld sut mae busnesau bach Cymru yn defnyddio eu dyfeisgarwch a'u dycnwch i feddwl am ffyrdd newydd o gadw eu busnes i fynd trwy'r amseroedd ansicr hyn. Mae Justine a Chris wedi bod yn wych, gan gynnig cynnyrch newydd sydd wedi rhoi hwb creadigol a meddyliol gwerthfawr i gwsmeriaid.

“Yn wyneb cyfyngiadau newydd a’r angen i gadw eu teulu’n ddiogel, fe wnaethant symud eu gweithrediad i’w cartref eu hunain ar anterth y pandemig. Wrth feddwl am anghenion eu cwsmeriaid yn gyntaf, y mae llawer ohonynt wedi cael cyrsiau wyneb yn wyneb wedi’u gohirio, fe wnaethant ddatblygu cynnyrch newydd hwyliog a hyblyg. Mae’r citiau ‘gwneud eich mosaig gwydr eich hun’ wedi bod yn gwerthu yn wych ac mae hynny wedi amlygu dull newydd o wneud busnes i’r tîm teuluol hwn. Rydyn ni wedi bod yn hapus i’w cefnogi ac rydyn ni’n gyffrous i weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig wrth i ni ddychwelyd yn araf i normalrwydd.”