Cartref newydd i MMEngineering yn yr ardal fenter

Donna-Williams
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Chris McDermid, Donna Williams, MMEngineering

Mae MMEngineering, sy’n arbenigwyr peirianneg yn y maes amddiffyn, yn mwynhau’r twf gorau erioed wrth iddo baratoi i adleoli i’w ail gartref yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot.

Sefydlwyd y cwmni yn 2016 gan James Morton a’i frodyr Chris a Martin McDermid, a llwyddodd y cwmni i dyfu 30% dros y flwyddyn ddiwethaf gan greu trosiant o £2.6miliwn. Disgwylir i’r trosiant hwn fod yn fwy na £3.5 miliwn yn 2020/21 ac mae cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid yn golygu bod angen mwy o le ar y cwmni.

Llwyddodd y benthyciad cychwynnol o £175,000 gan Fanc Datblygu Cymru i gynorthwyo MMEngineering i ymgartrefu mewn uned 6,000 troedfedd sgwâr yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot. Mae’r cwmni bellach wedi arwyddo prydles newydd am ddeng mlynedd ar gyfer 20,000 troedfedd sgwâr. Benthyciad o £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru sy’n ariannu’r gost o symud a dodrefnu’r safle. Cafodd y gyfradd llog ar y ddau fenthyciad ei gostwng i 2% gan fod y busnes wedi’i leoli mewn ardal fenter.

Yn cyflogi 19 o bobl, mae MMEngineering yn dylunio, yn gweithgynhyrchu ac yn gosod cynnyrch o ansawdd uchel sy’n amddiffyn rhag ffrwydron a llifogydd ledled y DU ac yn rhyngwladol ac mae’n allforio i Wlad Thai, Singapor a De-ddwyrain Asia.

Meddai Chris McDermid, Cyfarwyddwr MMEngineering: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn llawn heriau gan nad oedd gennym unrhyw syniad sut y byddai Covid-19 yn effeithio ar ein perfformiad. Cawsom ergyd enfawr i’n hyder y llynedd ond gyda’r cymorth parhaus gan Fanc Datblygu Cymru, rydym wedi gallu ailffocysu ac rydym bellach yn brysurach nag erioed, ond mae’r diffyg lle wedi cyfyngu ar ein heffeithlonrwydd a’n gallu i dyfu’n gyflymach.

“Mae aros yn yr un ardal fenter yn golygu y gallwn elwa ar fwy o le a symud yno’n ddidrafferth. Rydym hefyd yn cael cadw’r un cyfraddau llog gostyngol sy’n ein helpu i leihau’r costau benthyg a lleihau’r taliadau misol sydd yn ei dro yn lleihau’r effaith ar y llif arian. Mae gennym berthynas â’r Banc Datblygu eisoes ond bu’r holl broses yn un gyflym a syml iawn a dyna’n union yr oeddem ei angen arnom i sicrhau ein bod yn cael yr uned newydd.”

Mae Donna Williams a Stewart Williams o Fanc Datblygu Cymru yn cynorthwyo MMEngineering. Meddent: “Llwyddodd MMEngineering i fynd y tu hwnt i bob disgwyl dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf a gwelwyd twf gwirioneddol ond roedd diffyg lle yn cyfyngu ar y busnes.

“Gyda’n cymorth ni, gall y tîm bellach gynyddu ei allu i gynhyrchu a dosbarthu ar alw; gan wella ei effeithlonrwydd a pharatoi ar gyfer y cam nesaf o ran twf heb orfod adleoli o’r ardal. Mewn gwirionedd, mae Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn lleoliad delfrydol o gofio’r cymorth sydd ar gael i fusnesau megis MMEngineering gan ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig cyfraddau llog gostyngol o hyd at 2% ar ein benthyciadau.”

Mae wyth ardal fenter yng Nghymru. Mae gan Ardal Fenter Glannau Port Talbot fynediad at harbwr dŵr dwfn a chysylltiadau rheilffordd a ffyrdd gwych, ac mae’n elwa ar gael mynediad at gysylltiadau menter, amrywiaeth o lety fforddiadwy a chymorth gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol. Mae gan yr ardal  dreftadaeth weithgynhyrchu gadarn a llafurlu ffyddlon a medrus sy’n byw o fewn pellter teithio o 30 munud.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni