Cellesce yn cyhoeddi codi arian i dyfu ei fusnes organoid canser

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
cellesce

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Cellesce.

Mae Cellesce, y cwmni biobrosesu organoid canser, wedi cyhoeddi rownd ariannu lwyddiannus chwe ffigwr a fydd yn cyflwyno cyfleoedd i gyflwyno ei dechnoleg tyfu ac ehangu organoidau i’r farchnad sgrinio darganfod canser. Mae’r rownd ariannu hon, unwaith eto, wedi ei harwain gan Fanc Datblygu Cymru, mesur o’r hyder sydd ganddo yn nhechnoleg Cellesce a’r tîm ariannu.

Mewn misoedd diweddar, mae Cellesce wedi symud i labordy modern yng Nghanolfan Feddygol Caerdydd ac wedi lansio ei gyfres gyntaf o organoidau colorefrol, wedi eu cymryd yn wreiddiol o diwmor cleifion. Mae’r organoidau hyn yn cynrychioli cyfle cyffrous newydd ar gyfer ymchwil canser a sgrinio llyfrgell cyfansawdd ar gyfer darganfod cyffuriau.

Mae organoidau yn feithriniad celloedd bonyn tri-dimensiwn (3D) sy’n medru hunan-drefnu yn ‘fini organau’ ex vivo. Maent yn hwyluso astudiaeth patholeg twimor i alluogi darganfod cyffuriau canser. Mae organoidau yn nes at diwmorau in vivo na’r meithriniadau mwy confensiynol cell linell 2D a medrent ddarparu ymatebion ffarmacolegol mwy perthnasol  i gyffuriau gwrthgorffynnau. Trwy ddefnyddio organoidau mewn profion sgrinio darganfod cyffuriau, gall gwyddonwyr adnabod cyfansoddion actif ar gyfer symud ymlaen yn gynt yn y broses o ddarganfod cyffuriau a hidlo allan y cyfansoddion llai deniadol cyn achosi costau uwch ynhellach i lawr y ffordd.

“Mae Cellesce yn gwmni newydd cyffrous, ar fin manteisio ar dechnoleg organoid sy’n datblygu’n gyflym,” esboniodd Swyddog Gweithredol Buddsoddi Banc Datblygu Cymru, Philip Barnes. “Mae gan y cwmni botensial i dyfu ac mae’n gwneud cynnydd cyffrous mewn maes pwysig o  ymchwil feddygol. Rydym yn falch o gynnig ein cefnogaeth barhaus i’r tîm wrth iddynt ddatblygu ymhellach eu technoleg organoid.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Cellesce, Nicholads Duggan: “Rydym wrth ein boddau bod Banc Datblygu Cymru wedi dangos hyder yn Cellesce. Mae gennym eisoes ein cwsmeriaid masnachol cyntaf ac mae diddordeb mawr yn cael ei ddangos gan gyfundrefnau sy’n chwarae rhan mewn nifer o feysydd o ymchwil feddygol. Bydd yr arian newydd hwn yn ein galluogi i fynd â’n technoleg ehangu i’r cam nesaf gyda Cellesce yn dod yn ddarparwr arweiniol o organoidau a gwasanaethau ehangu i nifer o bartïon allweddol yn y byd darganod cyffuriau canser.”