Ceryx Medical yn penodi Chas Taylor yn Gadeirydd

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Ceryx Medical.

Mae cwmni Technoleg Meddygol o Gaerdydd wedi penodi entrepreneur dyfeisiau meddygol blaenllaw i’w fwrdd.

Mae Chas Taylor wedi’i benodi’n Gadeirydd Ceryx Medical, y busnes y tu ôl i dechnoleg chwyldroadol a allai newid y ffordd y mae cleifion â phroblemau difrifol ar y galon yn cael eu trin. Mae gan Talyor ddegawdau o brofiad yn datblygu ac arwain cwmnïau dyfeisiau meddygol. Mae’r rhain yn cynnwys tri busnes cardiofasgwlaidd rhyngwladol - MedNova, Novate a Veryan.  Fe wnaeth Taylor sefydlu a gadael pob un o’r cwmnïau hyn, gan godi dros  £100m mewn cyfalaf yn ystod y broses.

Daw ei benodiad ar adeg dyngedfennol i Ceryx Medical, sy’n paratoi ar gyfer y treialon cyntaf ar bobl o’i ddyfais i reoli rhythm y galon. Mae gwyddonwyr sy’n gysylltiedig â’r ddyfais yn credu ei fod yn allweddol nid yn unig i gynyddu effeithlonrwydd y galon, ond hefyd i’w galluogi i wella ei hun.

Dywedodd Dr Stuart Plant, Prif Swyddog Gweithredol Ceryx Medical “Mae ein dyfais yn debyg i’r rheolydd calon neu’r pacemaker traddodiadol, ond mae’r hyn y gall wneud wedi’i ddatblygu’n sylweddol diolch i’r dechnoleg microsglodyn chwyldroadol. Yn y bôn, mae’n helpu’r galon a’r ysgyfaint i gydweithio i wella llif y gwaed a lliniaru symptomau cleifion. Gallai cleifion sydd â methiant y galon sy’n cyfyngu ar eu bywyd weld bod eu cyflwr yn gwella’n sylweddol. Gwelwn fod ein dyfais yn gallu dadwneud y niwed sydd wedi’i wneud i’r galon.”

Mae ugain miliwn o bobl yn Ewrop a’r Unol Daleithiau yn byw gyda methiant y galon ar hyn o bryd, ac ers peth amser, dyna’r prif achos pam mae pobl dros 65 oed yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty. Mae methiant y galon yn digwydd pa na all y galon barhau i gyflenwi’r holl waed sydd ei angen ar y corff. Gall hyn ddilyn trawiad ar y galon, haint neu bwysedd gwaed uchel iawn. Unwaith mae’r galon yn methu, mae’n anodd iawn atal y clefyd rhag datblygu, a bydd pumdeg y cant o gleifion yn marw o fewn pum mlynedd o’r diagnosis.

Mae technoleg Ceryx Medical yn unigryw o ran ei gallu i liniaru symptomau nychus methiant y galon tra’n rhoi cyfle ar yr un pryd i’r galon wella ei hun. Yn sgil ymchwil arloesol Prifysgolion Caerfaddon a Bryste, mae dyfais y cwmni wedi’i datblygu ar y cyd â Sefydliad Biobeirianneg Auckland yn Seland Newydd. Mae wedi cael pum mlynedd o brofion trylwyr yn y labordy a gwerthusiadau cyn-glinigol ac mae disgwyl i’r ddyfais gael ei threialu ar bobl yn hwyrach eleni.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni, wrth i ni agosáu at gam cyn-fasnacheiddio olaf a phwysicaf ein siwrnai,” meddai Dr Plant. “Rydym yn gwybod ein bod wedi llwyddo i greu technoleg sy’n wirioneddol arloesol, ac rydym yn hyderus y bydd yn cynnig rhagolygon llawer mwy disglair i gleifion cardioleg.  Rydym yn gwybod hefyd bod gan y dechnoleg yn ein dyfeisiau meddygol craidd y potensial i drin cyflyrau eraill, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel ac anafiadau i linyn asgwrn y cefn. Rydym yn obeithiol felly o ffrwd o ddyfeisiau therapiwtig yr un mor chwyldroadol yn y dyfodol.”

Mae technoleg Ceryx Medical wedi ennyn diddordeb marchnadoedd domestig a thramor, ac wedi denu buddsoddiad gan rai o brif arweinwyr MedTech y DU, gan gynnwys ParkWalk, a Banc Datblygu Cymru. Penodiad Chas Taylor yw’r diweddaraf mewn cyfres o gamau tuag at adeiladu mwy o fomentwm wrth i'r cwmni edrych ar ei farchnadoedd.    

“Dywedodd Dr Plant, “Mae wedi bod yn wych gweld pobl uchel eu parch yn y maes MedTech a’r byd buddsoddi ehangach yn rhannu ein gweledigaeth ac yn ymrwymo i helpu i gyflwyno ein dyfais. Rydyn ni’n credu bod gennym y tîm gorau posib bellach i'n cael ni drwy’r cyfnod treialu ac i adeiladu ar y cysylltiadau rhyngwladol a chysylltiadau’r DU rydym wedi bod yn eu meithrin gyda darpar brynwyr.”

Dywedodd Chas Taylor, “Ychydig iawn o ddyfeisiau sydd wedi denu fy sylw fel hyn. Mae gan dechnoleg Ceryx y potensial i wella allbwn cardiaidd ac i wella cyweirio cardiaidd mewn cleifion â methiant y galon. Mae Stuart a’r tîm wedi gwneud gwaith aruthrol hyd yma, ac rwy'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r prosiect cyffrous hwn."

Ychwanegodd Dr. Richard Thompson o Dîm Mentrau Technoleg y Banc Datblygu Cymru:
"Mae penodiad Chas fel Cadeirydd Ceryx yn adlewyrchiad o ba mor anhygoel yw’r cwmni yma a’i gred yn y dechnoleg chwyldroadol y mae’r tîm yn ei datblygu.  Rydym yn falch iawn o'i groesawu i'r tîm ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef a'r Bwrdd i baratoi ar gyfer y treial hollbwysig hwn.”

Wedi’i sefydlu yn 2016, mae Ceryx Medical yn bwriadu recriwtio ac ehangu i ofod swyddfa a labordy newydd yng nghanol Caerdydd, wrth iddo weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a lansio ei ddyfais i reoli rhythm y galon.