Challenger Mobile Communications yn barod am dwf

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Challenger Comms

Darparwr telegyfathrebiadau busnes i fusnes (B2B) Challenger Mobile Communications yn targedu twf ar ôl allbryniant olyniaeth rheoli a gefnogwyd gan fenthyciad o £1.4m gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae'r arbenigwr cyfathrebu wedi bod yn darparu datrysiadau ffonau symudol i fusnesau ers iddo gael ei sefydlu gan y cyd-sylfaenwyr Jeff Eamens a Wayne Skellon ym 1991. Yn y datblygiad diweddaraf hwn mae Jeff yn allbrynu ei gyn bartner busnes i gymryd perchnogaeth unigol o'r cwmni.

Mae Jeff wedi bod yn gweithio ym maes telathrebu ers canol y 1980au, gan redeg rhwydwaith o siopau i ddechrau. Pan newidiodd y farchnad a daeth ffonau ‘talu wrth ddefnyddio’ yn boblogaidd yng nghanol y 1990au, penderfynodd Challenger werthu'r siopau a chanolbwyntio ar y farchnad b2b.

Mae gan Challenger, sydd wedi'i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint, drosiant o bron i £8m y flwyddyn ar hyn o bryd ac mae'n anelu at dyfu hynny 25% i £10m o fewn y ddwy i dair blynedd nesaf.

Mae datrysiadau ffonau symudol ar gyfer busnesau yn cynrychioli tua 65% o drosiant Challenger, ond mae'r cwmni hefyd yn darparu ystod o wasanaethau eraill, gan gynnwys cynhyrchion gwesteiol, tracio cerbydau ac amddiffyn gweithwyr sydd yn gweithio ar eu pennau eu hunain, teleffoni llais a chynhyrchion data eraill.

Mae'n rhan o Rwydwaith Partneriaid Uniongyrchol O2 ac mae ymhlith y pum gwerthwr O2 gorau yn y DU gyda chwsmeriaid ar hyd a lled y wlad.

Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n recriwtio ar gyfer dau aelod o staff gwerthu ychwanegol 'ar y ffordd' wrth iddo geisio ehangu ei gyrhaeddiad. Mae 60 aelod o staff yn gweithio yn Challenger, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli yn swyddfa Glannau Dyfrdwy.

Mae Jeff yn mynd egluro mai'r hyn sy'n gosod Challenger ar wahân i eraill yw’r ffaith bod anghenion y cwsmer yn ganolog i bopeth:

“Mae pobl yn hoffi cael yr iPhone neu Samsung diweddaraf, felly maent yn mynd ati i ail-negodi eu contract fel y gallant gael yr offer diweddaraf.

“Mae'n farchnad gystadleuol, ond mae pawb yn mynd i newid eu dyfeisiau a'r allwedd i hynny yw ychwanegu gwerth, felly mae angen i ni wneud pethau nad yw pobl eraill yn eu gwneud a rhoi'r cwsmer yn gyntaf yw hynny.”

“Bob tro y byddwn yn gwneud trafodiad mae'n rhaid i'r cwsmer elwa ohono. Maen nhw'n cael mwy o wasanaethau ychwanegol,” meddai.

“Rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei alw'n rheoli cyfrifon rhagweithiol lle rydym yn dweud wrth y cwsmer sut i arbed arian. Efallai y byddwn yn gwneud llai o arian ar y cyfrif yn y tymor byr, ond rydym yn debygol o gadw'r cwsmer yn hirach.

Mae defnyddio'r model busnes hwn wedi sicrhau bod y rhan fwyaf o'u cwsmeriaid yn cael eu cadw am tua 14 mlynedd, gyda rhai sydd wedi aros gyda nhw ers i Challenger gael ei sefydlu.

Dywedodd Chris Hayward, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi busnes sefydledig sy'n dangos twf parhaus fel Challenger Comms mewn trafodiad allbrynu rheoli.

“Maent yn darparu gwasanaeth gwerthfawr mewn marchnad gynyddol gystadleuol ac yn rhoi buddiannau gorau eu cwsmeriaid wrth wraidd eu busnes, sydd wedi profi i fod yn fodel busnes effeithiol dros y blynyddoedd.

“Rydym yn croesawu pob ymholiad gan unrhyw un sy'n ystyried prynu busnes ac yn annog y rhai sydd â diddordeb i gysylltu â ni drwy gyfrwng ein gwefan.”

Roedd yr ymgynghorwyr a ganlyn yn rhan o'r trafodiad ar ran yr holl bartïon; ymgynghorwyr corfforaethol MC Vanguard, cyfreithwyr; Jolliffe & Co ar ran Jeff Eamens, Blake Morgan ar ran Banc Datblygu Cymru a Storrar Cowdry ar ran Wayne Skellon.

Mae'r buddsoddiad wedi dod o Gronfa Busnes Cymru a sefydlwyd i gefnogi busnesau sydd gan lai na 250 o weithwyr, wedi'u lleoli yng Nghymru neu'n barod i symud yma.

Fe'i cynlluniwyd i ddarparu benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn, ac mae'n cefnogi busnesau newydd, busnesau bach a chanolig sefydledig a mentrau technoleg cyfnod cynnar ar draws ystod eang o sectorau.

Mae'n darparu cyllid prosiect tymor byr a chyllid twf tymor hwy, yn ogystal â buddsoddiad dilynol a chyfalaf gweithio ychwanegol.