Chevler yn cael cefnogaeth bellach gan y Banc Datblygu Cymru

Steve-Elias
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
chevler

Mae Chevler, gwneuthurwr blaenllaw yn y DU sy'n cynhyrchu cesys pobi, gorchuddion myffin ar ffurf tiwlip, ac sydd hefyd yn argraffydd papur gwrth-saim ar raddfa fawr wedi sicrhau pecyn ariannu chwe ffigur gan y Banc Datblygu Cymru.

Y benthyciad hwn yw'r pumed buddsoddiad yn y cwmni sy'n seiliedig yn Hengoed yn Ne Cymru ers iddo gael ei fuddsoddiad cyntaf yn ôl yn 2009 a ariannodd bryniant o'r cwmni gan y tîm rheoli presennol. Ers hynny mae trosiant y cwmni wedi mwy na dyblu. Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn galluogi Chevler i adeiladu ar ei werthiannau ysgubol y llynedd ac ariannu ei raglen ehangu gyffrous.

Meddai'r Cyfarwyddwr Cyllid Chevler, David Anthony: "Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i brynu offer newydd yn ein hail uned sydd wedi cael ei hadnewyddu a'i hail-ddodrefnu yn ddiweddar, gan ganiatáu i'r cwmni gwrdd â'r gofynion newidiol, heriol a chystadleuol o du'r farchnad.

"Bydd y cronfeydd newydd hyn yn ein galluogi i fuddsoddi mewn peiriannau cwpanau pobi newydd a lansio ystod o siapiau a dyluniadau newydd cyffrous y mae'r farchnad wedi bod yn aros amdanynt. Mae'r gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn holl bwysig wrth ein helpu i adeiladu ein hamrywiaeth o gynnyrch a symud i farchnadoedd newydd.

"Bydd y rownd ddiweddaraf hon o arian yn ein helpu i ddatblygu ymhellach yr amrywiaeth o gesys a gorchuddion ar gyfer gweithgynhyrchwyr myffins ar raddfa fawr ac rydym yn teimlo’n hynod o gyffrous am hyn."

Mae Chevler, sy'n cyflogi 90 o bobl yn ei ffatrïoedd yn Hengoed ar hyn o bryd, yn enwog am gynhyrchu cynhyrchion arloesol, sy'n rhywbeth a gydnabyddir gan Swyddog  Portffolio'r Banc Datblygu, Steve Elias. Meddai: "Rydym wedi parhau i gefnogi Chevler ers i'r pryniant rheoli ddigwydd bron i 10 mlynedd yn ôl erbyn hyn. Mae ein hymrwymiad hir dymor i'r tîm rheoli wedi arwain at ganlyniadau gwych wrth i ni wylio a chynorthwyo'r busnes i dyfu.

"Roedd yna strategaeth dwf glir sydd wedi golygu bod y cwmni'n gallu cynnig yr ystod eang o gynhyrchion sydd ganddynt nawr. Trwy fod yn arloesol, maent wedi datblygu cynhyrchion newydd yn barhaus sydd wedi'u targedu'n agos at y marchnadoedd y maen nhw'n eu deall ac maen nhw'n parhau i fod â photensial sylweddol."

Daeth yr arian cyllido ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.