Cigydd figan yn ymestyn ei oriau agor a’i gynnyrch i fodloni’r galw gan gwsmeriaid

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Karry Meyrick (Cigydd figan)

Mae un o unig gigyddion a delicatessen di-gig Cymru bellach ar agor ddydd Sul ac mae’n cynnig gwasanaeth clicio a chasglu ar gyfer dros 300 o wahanol fathau o gaws, cig, pastai a losin cartref wedi’u gwneud o blanhigion.

Agorodd Karry’s Deli am y tro cyntaf ym mis Awst 2021, ac mae’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan Karry Meyrick. Ar ôl cael ei rhoi ar ffyrlo o’i swydd fel hyfforddwr nofio ar ddechrau’r pandemig Covid-19, manteisiodd Karry ar y cyfle i sefydlu ei busnes ei hun a chafodd ei chyflwyno i Fanc Datblygu Cymru gan Busnes mewn Ffocws. Roedd y micro fenthyciad gwerth £10,000 a gafodd gan y Banc Datblygu o gymorth i ariannu ei chostau dechrau busnes ac i ddodrefnu ei deli figan yn Park Crescent, Y Barri. 

Meddai Karry: “Yn union fel llawer o’m cwsmeriaid, dw i ddim yn 100% figan. Er fy mod yn mwynhau bwyta cig, rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd o leihau cynnyrch anifeiliaid yn fy neiet drwy ddod o hyd i fwydydd eraill blasus yn ei le. Mae’n anodd iawn dod o hyd i gig wedi’i wneud o blanhigion sydd o ansawdd da a dyma wnaeth fy ysgogi i feddwl am agor siop cigydd di-gig ar gyfer pobl Y Barri.

“O ganlyniad i’r galw gan gwsmeriaid rwyf wedi ehangu’r amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael, a’r hyn sy’n gwerthu orau yw’r bastai figan flasus a’r caws heb gynnyrch llaeth sy’n cael ei wneud yn lleol. Maen nhw’n wirioneddol flasus. Rwyf hefyd yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu ac ar agor ar ddydd Sul er mwyn i’r cwsmeriaid sy’n aml yn teithio o bell allu prynu cyflenwad o fwyd a danteithion planhigion sydd o ansawdd da.

“Fy nghariad tuag at fwyd a byw’n iach ac yn gynaliadwy wnaeth fy sbarduno i sefydlu Karry’s Deli. Dyw dechrau busnes ddim yn hawdd ond diolch i gymorth Busnes mewn Ffocws a’r Banc Datblygu rwyf bellach yn gallu cynnig cig, pysgod, caws a danteithion blasus eraill wedi’u gwneud o blanhigion i’r gymuned leol.”

Gaynor Morris yw Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru. Meddai: “P’un a ydych yn figan, yn llysieuwr neu ond yn awyddus i leihau faint o gig rydych chi’n ei fwyta, mae rhywbeth at ddant pawb yn Karry’s Deli. Mae Karry yn llawn egni a brwdfrydedd, ac yn llwyddo i wneud y gorau o’r cynnydd ym mhoblogrwydd bwyd o blanhigion a hynny hefyd drwy gynnig cynnyrch o ansawdd gwell ac sy’n fwy blasus na’r hyn a geir mewn archfarchnadoedd. Mae’r deli yn fusnes moesegol a chynaliadwy, ac yn ased gwych i gymuned Y Barri a’r rhai sy’n figan neu’n llysieuwyr, a dyna pam y cafodd gyllid i fusnes newydd.” 

Mae Karry wedi ymrwymo i’r Adduned Twf Gwyrdd a’r Adduned Cydraddoldeb i adlewyrchu ei hymrwymiad i greu busnes sy’n rhan o’r gymuned sy’n prysur ehangu o sefydliadau blaengar sy’n helpu i droi Cymru yn wlad ddi-garbon a chanddi ddyfodol cynaliadwy.

Meddai Karry: “Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn a dyna pam rwy’n anelu at weithio gyda chymaint o gyflenwyr moesegol lleol â phosibl sy’n gwneud eu rhan i leihau gwastraff ac allyriadau carbon. Mae hyn yn cynnwys rhannu cyflenwadau lle bynnag y bo modd.  Rwyf hefyd am wneud yn siŵr fy mod yn darparu gwasanaeth hygyrch a chynhwysol a dyna pam y penderfynais ymrwymo i’r Adduned Cydraddoldeb.”

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru sy’n werth £30 miliwn yn llwyr gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda chyfnod ad-dalu sy’n amrywio o flwyddyn i ddeng mlynedd.