Codeherent, un o gwmnïau newydd llwyddiannus y DU, yn cyhoeddi ei fod wedi penodi Bill Crank yn aelod o fwrdd y cyfarwyddwyr

Colin-Batten
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Codeherent.

Mae Codeherent, y cwmni newydd sydd wedi creu’r platfform rheoli arloesol ‘Seilwaith ar ffurf Cod’, wedi penodi Bill Crank yn gyfarwyddw anweithredol ar fwrdd y cyfarwyddwyr. Mae’r penodiad yn cryfhau’r arbenigedd masnachol sydd ar gael i fwrdd Codeherent.

Mae gan Bill Crank, Prif Swyddog Gweithredol presennol ac aelod gweithredol o fwrdd Clearspan a Chyn-lywydd, Prif Swyddog Gweithredol ac aelod gweithredol o fwrdd Dialogic, brofiad helaeth o dwf masnachol.  Bu hefyd yn goruchwylio prosesau caffael yn y farchnad technoleg menter.

“Rydym yn falch o groesawu Bill.  Mae’n ymuno â ni ar gam tyngedfennol o’n cynlluniau twf” meddai Paul Sheehan, Rheolwr Gyfarwyddwr Codeherent. “Edrychwn ymlaen at ddibynnu ar ei brofiad helaeth wrth i ni ehangu ein strategaeth fasnachol ac esblygu ein gallu o ran rheoli’r cwmwl yn ystod 2021.

“Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Codeherent,” meddai Crank. “Gyda chymorth y buddsoddiad yn ystod 2020, llwyddodd y cwmni i ddatblygu meddalwedd clyfar sy’n datrys problemau mawr i fentrau sy’n ymdrechu i leihau costau ac arbed amser drwy ailwampio prosesau rheoli’r cwmwl.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Paul a’r bwrdd i ddatblygu carfan o gwsmeriaid triw yn gyflym iawn.” 

Meddai Col Batten, Swyddog Buddsoddi Mewn Technoleg, Banc Datblygu Cymru: “Mae penodi’r cyfarwyddwr anweithredol hwn yn wych i Codeherent, a bydd yn cryfhau bwrdd sydd eisoes yn gadarn hyd yn oed ymhellach. Daw Bill â llond gwlad o brofiad a gwybodaeth i’r cwmni, yn ogystal â chysylltiadau a rhwydweithiau cadarn ym marchnad yr Unol Daleithiau.

“Gwelodd Codeherent lawer o newidiadau yn y sector technoleg ‘Seilwaith ar ffurf Cod’ yn gynnar iawn. Rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo’r cwmni newydd, uchelgeisiol hwn sydd â’r potensial i dyfu’n gyflym wrth iddo geisio ymestyn ei gwmpas yn rhyngwladol.  Edrychwn ymlaen at weld yr hyn y bydd Paul, Bill a’r tîm yn ei wneud nesaf.”