CoinCover yn penodi cyn-filwr o Silicon Valley yn Brif Weithredwr i arwain y cam twf nesaf

Jack-Christopher
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
Jeremy Verba, CoinCover

Mae CoinCover, y cwmni adfer ar ôl trychineb asedau digidol blaenllaw, wedi cyhoeddi penodiad Jeremy Verba fel ei Brif Weithredwr newydd yn swyddogol, - mae’n ymuno â'r busnes yng Nghaerdydd i roi hwb i dwf.

Mae Verba, cyn-filwr o Silicon Valley, yn ymuno ar adeg holl bwysig i CoinCover a'r diwydiant yn ehangach, wrth i fabwysiadu asedau digidol dyfu'n esbonyddol ar lefel sefydliadol a defnyddwyr. Yn fyd-eang, mae ffigurau'n awgrymu bod gan 86% o fuddsoddwyr sefydliadol gysylltiad ag asedau digidol a bod 820 miliwn o waledi crypto yn weithredol ledled y byd yn 2025.

Mae sefydliadau ariannol traddodiadol hefyd yn archwilio potensial asedau digidol, gyda ffocws cryf ar yr hyn a adwaenir yn y diwydiant fel stablecoins. Partnerodd naw banc Ewropeaidd i gyhoeddi stablecoins yn 2026, ac mae deg banc byd-eang mawr hefyd yn archwilio ar y cyd gyhoeddi stablecoin sydd wedi'i gysylltu ag arian cyfred y G7.

Mae CoinCover wedi dod yn chwaraewr allweddol ym mhroses aeddfedu'r sector, gan sicrhau y gall sefydliadau a'u defnyddwyr crypto ddal asedau digidol yn hyderus trwy ddarparu atebion adfer waledi, wedi'u hategu gan amgryptio a dadgryptio o'r radd flaenaf.

Wedi'i sefydlu yn 2018, mae Coincover wedi diogelu mwy na 600 o fusnesau ac wedi amddiffyn dros 22 miliwn o waledi hyd yn hyn. Mae bellach yn bartner hanfodol i gwmnïau fel Fireblocks , BitGo a Ledger, gan feithrin ymddiriedaeth a hyder yn yr ecosystem asedau digidol sy'n esblygu'n gyflym.

Gyda phrofiad dwfn mewn ehangu busnesau gwerth miliynau o ddoleri , gan gynnwys Walmart Video ac eHarmony, bydd Jeremy Verba yn gosod cyfeiriad strategol y cwmni a fydd yn galluogi CoinCover i atgyfnerthu a thyfu ei safle yn y farchnad fel haen integreiddio hanfodol ar gyfer cwmnïau sy'n adeiladu a gweithredu strategaethau asedau digidol.

Ar ôl ymuno â gwahanol gwmnïau technoleg ar adegau tebyg, bydd Verba yn defnyddio'r profiad hwn i gyflymu'r broses o gyflwyno a thyfu cynhyrchion a chynigion blaenllaw yn y farchnad CoinCover. Fel rhan o'i rôl fel Prif Weithredwr, mae Verba wedi arwain y chwistrelliad o gyfalaf ychwanegol gan fuddsoddwyr presennol, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru, i bweru'r cam twf nesaf hwn.

Dywedodd Jeremy Verba: “Rydw i wedi adeiladu fy ngyrfa drwy gynyddu graddfa  busnesau sy’n tyfu’n gyflym sydd ag angen amlwg iawn yn y farchnad.

“Ers ei sefydlu, mae CoinCover wedi chwarae rhan hynod bwysig yn esblygiad y diwydiant asedau digidol, ac mae gennym gyfle mwy nawr hyd yn oed i osod ein hunain ar flaen y gad yn y newid diogel i fyd cyllid newydd. Bydd yr hyn y mae CoinCover yn ei gynnig yn dod yn fantol ar gyfer sefydliadau sy'n cyflwyno strategaethau a chynigion asedau digidol, ac rwy'n gyffrous i yrru ein cyfnod twf newydd ymlaen yn y farchnad hon sy'n esblygu'n gyflym.

“Fel busnes sydd â balchder yn ei le yng Nghymru, rydym yr un mor ymrwymedig i gyfrannu at fomentwm sector technoleg ariannol sy’n tyfu yng Nghymru a dangos yr effaith fyd-eang y gall cwmnïau arloesol o Gymru ei chyflawni. ”

Mae'r penodiad yn dilyn newyddion diweddar bod Digital Asset, crëwr Rhwydwaith Canton, wedi integreiddio CoinCover o fewn ei seilwaith trysorlys sy'n seiliedig ar Copper, symudiad a gynlluniwyd i atgyfnerthu gwydnwch a hyder yng nghanol ymwybyddiaeth fwy o'r angen sefydliadol am fesurau diogelwch cadarn.

Mae Jeremy Verba yn cymryd lle David Janczewski, Cyd-sylfaenydd CoinCover, a oedd gynt yn Brif Weithredwr. Mae Janczewski yn parhau i fod yn gynghorydd allweddol i CoinCover, gan wasanaethu ar Fwrdd y busnes.

Dywedodd David Janczewski, Cyd-sylfaenydd: “Sefydlais y cwmni i chwyldroi byd amddiffyn bloc cadwyn trwy wneud perchnogaeth asedau digidol yn ddiogel ac yn sicr i bawb. Mae ein platfform a’n technoleg bellach wedi’u profi yn y farchnad, ac rydym mewn sefyllfa dda i barhau i ategu dyfodol y diwydiant. Mae penodiad Jeremy, ynghyd â chwistrelliad cyfalaf ychwanegol gan ein buddsoddwyr, yn rhoi’r profiad a’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ehangu’n hyderus.”

Dywedodd Jack Christopher, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae CoinCover yn enghraifft wych o dechnolwg ariannol (TechAri) Cymreig â chyrhaeddiad byd-eang, sy’n ehangu’n gyflym wrth ddatrys her holl bwysig yn y farchnad asedau digidol. Rydym wedi cefnogi’r cwmni o’i ddyddiau cynnar ac yn falch o barhau i gefnogi’r tîm wrth iddynt adeiladu ar eu llwyddiant a chyflymu eu twf gyda Jeremy wrth y llyw.”