Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Creo.
Mae Creo Medical Group plc (AIM: CREO), cwmni dyfeisiau meddygol sy'n canolbwyntio ar y maes endosgopi llawfeddygol sy'n dod i'r amlwg, yn cyhoeddi ei ganlyniadau terfynol archwiliedig ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2020.
Mae'r Bwrdd yn falch o allu adrodd, er gwaethaf y pandemig COVID-19, fod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020 yn gyfnod cryf i Creo ac fe'i nodir gan ddatblygiad ac ehangiad mewnol sylweddol, ynghyd â datblygiad parhaus cyfres o ddyfeisiau'r Cwmni i ategu Platfform Ynni Uwch CROMA y Cwmni (“CROMA”) a’u dyfais Speedboat i'w defnyddio mewn endosgopi therapiwtig Gastro-berfeddol ("GB").
Uchafbwyntiau Gweithredol:
- Caffaelwyd Albyn Medical a Boucart Medical ac o ganlyniad darperir presenoldeb gwerthu uniongyrchol mewn marchnadoedd Ewropeaidd allweddol a chryfheir tîm masnachol Creo
- Ffocws ESG cynyddol gydag ymateb COVID-19 cryf
- Yn sgil penodi David Woods yn Brif Swyddog Masnachol ym mis Awst 2020, daethpwyd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'r busnes
- Recriwtiwyd tîm gwerthu uniongyrchol yn yr UDA ac APAC
- Gwelwyd cynnydd x 10 gwaith yn yr adnodd masnachol, marchnata a dosbarthu
- Presenoldeb uniongyrchol ar draws pum gwlad Ewropeaidd, pedwar rhanbarth yn UDA a chanolbwynt canolog yn Asia
- CE yn marcio pum dyfais ychwanegol
- Cyflawnwyd cliriad gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau (‘FDA’) 510 (k) ar gyfer:
- SlypSeal;
- MicroBlate Fine; a
- MicroBlate Flex (ar ôl y cyfnod diwedd)
- Y defnydd clinigol cyntaf o MicroBlate Fine mewn abladiad tiwmor pancreatig llwyddiannus
- Portffolio Eiddo Deallusol (ED) cryfach, gyda 247 o batentau wedi'u caniatáu a 763 o geisiadau yn yr arfaeth
Uchafbwyntiau Ariannol:
- Cyfanswm y gwerthiannau yn y cyfnod oedd £9.4m (2019: £0.01m)
- Arian parod a chyfwerth ag arian parod o £45.1m ar 31 Rhagfyr 2020 (31 Rhagfyr 2019: £81.0m)
- Colled weithredol o £23.5m (2019: £18.9m) gan gynnwys taliadau cyfranddaliadau ar sail £0.7m, yn unol â disgwyliadau rheolwyr ac mae'n adlewyrchu mwy o weithgareddau Ymchwil a Datblygu a gweithgareddau masnachol.
- All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu o £16.3m (2019: £11.9m)
Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr:
“Bu’n flwyddyn drawsnewidiol ac rydym wedi gwneud cynnydd trawiadol yn erbyn ein strategaeth adeiladu, prynu a phartneriaid. Efallai mai'r cyflawniad mwyaf boddhaol i'r tîm cyfan fu'r defnydd clinigol cyntaf o MicroBlate Fine i drin nifer o gleifion â thiwmorau pancreatig yn llwyddiannus ddechrau mis Rhagfyr 2020, ac ni adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol hyd yn hyn.
“Er bod esblygiad Creo ers y Cynigiad Cyhoeddus Cychwynnol (CCC) wedi bod yn eithriadol mae ein cenhadaeth yn parhau i fod yr un fath: gwella canlyniadau cleifion ac mae hyn yn dystiolaeth ein bod yn gwneud hynny.
“Ar ôl dechrau’r flwyddyn gyda dim ond un ddyfais wedi’i marcio â CE, rydym wedi llwyddo i glirio pum dyfais ynni datblygedig ychwanegol drwy’r broses marc CE ac wedi cael cliriad gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau a adwaenir fel yr ‘FDA’ 501 (k) ar gyfer tair dyfais. At hynny, rydym wedi cwblhau dau gaffaeliad trawsnewidiol sy'n darparu refeniw ystyrlon i'r busnes ac rydym wedi rhagori ar ein hamcanion wrth ehangu ein tîm gwerthu yn fyd-eang.
“Rydym mewn sefyllfa dda iawn i ni fod y datrysiad cenhedlaeth nesaf mewn llawfeddygaeth leiaf ymledol ac, er ein bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar endosgopi therapiwtig Gastro Berfeddol (GB), wrth edrych ymlaen rydym yn gweld cyfleoedd pellach sylweddol mewn disgyblaethau / arbenigeddau llawfeddygol eraill ac yna y tu hwnt i ddiagnosteg.”