Bydd ffermdy lliwgar sy'n cynnig llety i ymwelwyr â Gŵyr yn creu chwe ysgubor thema newydd ar y safle diolch i fenthyciad o £200,000 gan Fanc Datblygu Cymru, trwy Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru.
Mae Fferm Pitton Cross wedi'i lleoli ar 12 erw gyda golygfeydd o'r môr, dim ond dwy filltir o Draeth Rhossili, ac o fewn pellter cerdded i Fae Mewslade a Llwybr Arfordirol Cymru. Prynodd y perchnogion Sam Birdsell, Jason Manley a Rhydian Manley y fferm gan ei chyn-berchnogion ym mis Hydref 2021, ac ers hynny maent wedi adnewyddu'r ffermdy ar y safle gydag addurn a chyfleusterau modern, gan ddarparu lle deniadol sy'n gyfeillgar i gŵn i ymwelwyr â Gŵyr. Maent hefyd yn cynnig archebion byrrach, gyda hyblygrwydd i westeion sy'n edrych ar arhosiadau byr a dewis o lety ar gyfer grwpiau llai neu fwy.
Ar ôl ailwampio'r ffermdy, trawsnewidiodd y triawd ysgubor bresennol yn Beagle Barn sy’n ysgubor thema newydd sy'n gyfeillgar i gŵn a theuluoedd, gan dalu teyrnged i'w cariad cyffredin at beagles - gyda'r cŵn Remy, Ramsay, Shelby a Mr Finley yn ffurfio carfan gŵn tîm Fferm Pitton Cross - a darparu lle i aros i berchnogion anifeiliaid anwes eraill sy'n ymweld â'r ardal.
Diolch i'r benthyciad gan Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru, mae gwaith bellach ar y gweill ar ddatblygu pum ysgubor arall trwy adnewyddu'r adeiladau allanol presennol, ynghyd ag ychwanegu lle golchi cŵn, lle golchi siwtiau gwlyb a mannau eistedd yng nghefn gwlad. Gyda themâu unigryw a lliwgar, bydd pob un yn gysylltiedig â hanes y fferm a chyn-berchnogion y teulu Button. Wedi'u henwi'n Nanna's Bakehouse, Bampi Button's Stables, Old Saddleback Barn, ac Ysgubor Milkshake â thema llaethdy, cafodd y datblygiad gefnogaeth grant o £10,000 gan Gronfa Cymorth Twristiaeth Cyngor Abertawe hefyd.
Dywedodd Sam: “Mae’r buddsoddiad hwn wedi ein helpu i ni gymryd camau enfawr ymlaen gyda’n cynlluniau twf busnes, ar gyflymder llawer cyflymach nag y gallem fod wedi’i wneud pe byddem wedi’i ariannu ein hunain a’i wneud fesul cam. Pe byddem wedi mynd i lawr y llwybr hwnnw, byddai gwesteion wedi bod yn cyrraedd safle adeiladu cyson dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ffodus, roedd y Banc Datblygu mewn sefyllfa i’n helpu.
“Rydym ni wastad wedi bod eisiau cynnig rhywbeth newydd a rhywbeth gwahanol, ac rydym ni eisiau i’n brand fod yn gysylltiedig â threftadaeth yr ardal, gan gynnwys hanes ffermwyr tenant ar Benrhyn Gŵyr, a’n statws fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Chymuned Awyr Dywyll Ryngwladol. Mae’r buddsoddiad hwn yn caniatáu i ni ddatblygu ein safle yn yr hyder y byddwn ni’n cyrraedd lle mae angen i ni fod erbyn diwedd y flwyddyn, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a ddarparwyd gan Fanc Datblygu Cymru.”
Dywedodd David Knight, Swyddog Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Fferm Pitton Cross wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r cynnig maen nhw’n ei ddarparu i ymwelwyr â’r rhan hon o Gymru yn anhygoel, gan gyfuno cymeriad, cyfleustra a hyblygrwydd mewn lleoliad hardd.
“Mae Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru yma i gefnogi busnesau fel Fferm Pitton Cross wrth iddyn nhw geisio ehangu a pharhau ar eu taith twf.”
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth: “Gyda’n cymorth ni, cynhyrchodd busnesau twristiaeth yn Abertawe £658 miliwn, sef y swm uchaf erioed, i’r economi leol y llynedd, gan gefnogi mwy na 5,400 o swyddi.
“Cafodd ein Cronfa Cymorth Twristiaeth ei galluogi drwy Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU a’n helpodd i barhau â’r stori lwyddiant hon. Mae’r cydweithrediad hwn â Banc Datblygu Cymru a Fferm Pitton Cross yn gyfle gwerthfawr iawn i wneud y gorau o’r hyn sydd gan Dirwedd Genedlaethol hyfryd Gŵyr i’w gynnig.”
Mae Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru yn darparu benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gyfer busnesau twristiaeth yng Nghymru, gyda thelerau ad-dalu o rhwng 10 a 15 mlynedd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i weld www.datblygubanc.cymru