Cwmni FuelActive technoleg glân yn barod am dwf ar ôl diogelu buddsoddiadau, arian cyllido grant technoleg a newidiadau mewn arweinyddiaeth

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
fuelactive logo

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan FuelActive.

Mae FuelActive, sy'n enwog am ei ddatrysiadau technoleg arloesol ar gyfer peiriannau disel wedi cyhoeddi ei fod wedi derbyn buddsoddiad newydd gan Fanc Datblygu Cymru a chronfeydd ecwiti preifat gan Adjuvo; arian grant gan Innovate UK i gefnogi datblygu technoleg; a newidiadau arweinyddiaeth i ysgogi ehangiad ar sail byd-eang.

Mae technoleg chwyldroadol FuelActive yn sicrhau bod y tanwydd glanaf sydd ar gael yn cael ei gyflenwi i linellau tanwydd peiriannau disel a hwn yw'r rheng amddiffynnol gyntaf rhag disel halogedig; - mater sy'n broblem yn fyd-eang gyda chanlyniadau trychinebus. Ymhlith y buddion i weithredwyr mae'n cael gwared ar yr achosion o beiriannau yn torri i lawr pan fo hynny'n gysylltiedig â thanwydd, gostyngiad mewn costau cynnal a chadw amlach ac oes estynedig i chwistrellwyr. Pan gaiff ei ffitio o'r newydd, mae injan yn aros yn debycach at ei berfformiad penodedig am gyfnod hirach ac mae'n fwy dibynadwy. Mae llosgi disel glanach yn lleihau allyriadau gwenwynig injan, a thrwy hynny mae’n cefnogi cydymffurfiad â rheoliadau aer glân.

Cafwyd buddsoddiad ecwiti o £500,000 gan fuddsoddwr sefydliadol newydd, Banc Datblygu Cymru. Dywedodd Richard Thompson ac Andrew Critchley o’u tîm mentrau technoleg arbenigol: “Mae gan FuelActive y potensial i greu stori lwyddiant tech-glân fyd-eang. Gallai ei allu i ddylanwadu'n gadarnhaol ar berfformiad peiriannau disel, a fydd yn cael eu defnyddio am y 30 mlynedd nesaf, gael effaith wirioneddol ar yr amgylchedd. Dyma ein cyd-fuddsoddiad cyntaf gyda rhwydwaith Adjuvo sy'n gwella sefyllfa FuelActive. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Nick Massey a thîm FuelActive, ac at gyd-fuddsoddi pellach gydag Adjuvo.”

Mae syndicet buddsoddiad ecwiti preifat Adjuvo, a fuddsoddodd i ddechrau yn FuelActive yn ystod 2016, wedi cyfrannu buddsoddiad pellach o £750,000. Mae Adjuvo yn nodi cyfleoedd twf uchel sy'n elwa o rwydwaith o fuddsoddwyr profiadol sy'n darparu cyngor a chyflwyniadau masnachol yn eu rhwydweithiau eang. Wrth sôn am arwyddocâd eu buddsoddiad, dywedodd Mark Foster-Brown, Prif Weithredwr Adjuvo “Mae FuelActive bellach mewn sefyllfa dda i wireddu ei botensial llawn gyda chyfalaf newydd, yn sgil esblygiad technoleg mawr sydd ar fin digwydd a chydag arweinyddiaeth wedi'i atgyfnerthu.”

Yn ddiweddar, llwyddodd FuelActive yn ei gais i ennill Smart Grant Innovate UK am brosiect sydd werth £500,000. Bydd y dyfarniad grant yn esblygu'r dechnoleg gyfredol i ychwanegu gallu digidol. Dyfernir Smart Grant i fusnesau sy'n cyflwyno arloesiadau uchelgeisiol neu aflonyddgar a all gael effaith sylweddol ar economi'r DU a thu hwnt.

Ynghyd â'r buddsoddiad hwn, daw Nick Massey yn Brif Weithredwr, gyda Martin Leahy yn ymgymryd â'r rôl newydd fel yr Is-gadeirydd.

Mae Nick yn arweinydd amryddawn sydd â hanes o sicrhau twf mewn ecwiti preifat ac amgylcheddau a fasnachir yn gyhoeddus. Mae ei gefndir yn cynnwys cyfnodau ecwiti preifat gyda Goldman Sachs, Coca-Cola a'r PA Consulting Group. “Mae'n anrhydedd cael ymuno â FuelActive gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru a buddsoddwyr Adjuvo. Mae problemau halogi tanwydd yn fater sy'n codi ar draws y byd a gall technoleg FuelActive helpu gweithredwyr i liniaru'r costau, cipio'r effeithlonrwydd cyfalaf gorau a chyfrannu at ein hawl i aer glân,” meddai Nick Massey, PW, FuelActive.