Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Rescape.
Buddsoddwyr angel sy'n seiliedig yng Nghymru a Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi £480,000 yn Rescape Innovation.
Mae cwmni newydd CYMREIG sy'n datblygu technoleg rithwir ar gyfer gofal iechyd wedi sicrhau buddsoddiad mawr.
Mae grŵp o fuddsoddwyr angel sy'n seiliedig yng Nghymru a Banc Datblygu Cymru wedi cau cytundeb ecwiti gydag Rescape Innovation sy'n werth £480,000 a fydd yn helpu'r cwmni i fuddsoddi mewn technoleg newydd, allforio a datblygu cynhyrchion newydd i gefnogi adferiad ac adsefydlu cleifion.
Mae'r cytundeb wedi dod â deg o fuddsoddwyr proffil uchel at ei gilydd o ystod o sectorau sydd i gyd yn credu yn y manteision o realiti rhithwir a'i allu i gefnogi cleifion a'r system gofal iechyd.
Arweiniwyd y fargen gan Andrew Diplock, buddsoddwr sy'n seiliedig yn Ne Cymru, gyda chymorth Angylion Buddsoddi Cymru, sy'n rhan o Fanc Datblygu Cymru, Geldards a Capital Law. Sicrhaodd Andrew a'r syndicâd buddsoddwyr arian cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru o £8 miliwn.
Meddai Andrew Diplock, Buddsoddwr Arweiniol:
"Mae'r dyfodol yn gyffrous ar gyfer Rescape a gyda'r cyllid newydd, bydd y busnes yn gallu gwneud y buddsoddiad cywir ar yr adeg iawn gyda thechnoleg arloesol yn y sector gofal iechyd sy'n datblygu.
Yr oeddwn yn falch o allu cyflwyno'r busnes hwn yn Ne Cymru i grŵp o fusnesau blaenllaw a phrofiadol - fe wnaethant i gyd gytuno i gefnogi datblygiad cyffrous y cwmni hwn ar gyfer y dyfodol. Rydw i'n canolbwyntio fy ngweithgaredd buddsoddi mewn busnesau sydd â photensial twf uchel yn Ne Cymru.
Yn sicr, mae Rescape Innovation yn cyd-fynd â hyn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r tîm rheoli yn y blynyddoedd i ddod."
Diolch i'r Rhaglen Twf Cyflymedig (RhTC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop bod y busnes Cymreig hwn wedi cael y gefnogaeth gynnar oedd ei angen arno i sefydlu ei gynnyrch yng Nghymru.
Mae Rescape Innovation, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn gweithio i ddatblygu cynhyrchion rhithwir sy'n helpu cleifion i ddelio â phoen, adsefydlu ac ymdrin â straen a phryder trwy dynnu sylw'r ymennydd. Mae technoleg y therapi hwn sy'n tynnu sylw'r ymennydd yn caniatáu i'r claf gael ei drochi mewn realiti gwahanol, gan helpu'r ymennydd i leihau'r ymdeimlad o boen ac esmwytháu teimladau o bryder.
Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod costau sy’n gysylltiedig â phoen yn ystod glasoed bron yn £4 biliwn y flwyddyn, gyda hyd at 28 miliwn o bobl ym Mhrydain yn byw gyda phoen cronig yn ôl amcangyfrifon diweddar.
Hyd yn hyn, mae achosion fel arfer yn cael eu trin gyda phresgripsiwn ar gyfer lladdwyr poen - gan roi straen ar gyllidebau'r GIG yn ogystal ag ar y cleifion sy'n dibynnu arnynt.
Nod Rescape yw mynd i'r afael, nid yn unig â phrofiad presgripsiwn a chleifion, ond hefyd y manteision economaidd hirdymor o ran technoleg trochi.
Meddai Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru:
"Rydym wrth ein bodd yn cefnogi datblygiad Rescape Innovation gydag arian cyfatebol o £207,500 trwy gyfrwng Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Mae'r gronfa hon bellach yn annog syndicadau angylion newydd i ddod at ei gilydd i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru.
Mae syndicâd buddsoddi Rescape wedi dod â deg buddsoddwr angel at ei gilydd ac ar y cyd fe fyddant yn dod â chyfoeth o brofiad i ddatblygiad y busnes."
Gan ddefnyddio realiti rhithwir, mae Rescape Innovation yn cynnig triniaeth fforddiadwy a diogel. Mae'r cynnyrch eisoes wedi'i ddefnyddio mewn 31 o sefydliadau gofal iechyd ar draws y DU ac mae 30 o archebion eraill wedi cael eu gwneud. Gyda'r twf busnes diweddar, mae'r cwmni hwn o Gymru sydd wedi dechrau o'r newydd yn ymateb i ddiddordeb byd-eang yn y dechnoleg, ac fe gafwyd ymholiadau gan Norwy, Awstralia a De Affrica.
Meddai Matt Wordley, Prif Weithredwr Rescape Innovation:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn agor pennod newydd gyffrous ar gyfer Rescape ac mae'n ein rhoi yn y sefyllfa orau i ehangu cynnig ein cynhyrchion i gynnig cymorth i gleifion trwy dechnegau profedig fel therapi tynnu sylw.
Mae yna gymaint o ffactorau wrth sefydlu cynnyrch technoleg o safon ond diolch i'r gefnogaeth a gawsom gan Andrew Diplock, y buddsoddwyr angel eraill a Banc Datblygu Cymru, erbyn hyn, rydym nid yn unig yn arwain ar arloesed rhithwir yng Nghymru, ond ar draws y DU a'r byd.
Rydym yn falch ein bod wedi dechrau ein busnes yma yng Nghymru a chyda'r doniau gwych, y system seilwaith a'r system gymorth, rydym yn gallu tyfu a datblygu ein cynnyrch yma hefyd."