Cwmni gofal iechyd yn derbyn £500,000 i ddatblygu dyfais gofal traed diabetig arloesol

Sarah-Smith
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
thermetrix

Mae Thermetrix Ltd wedi sicrhau buddsoddiad o £500,000 ar gyfer eu menter ddiweddaraf i gefnogi dabtlygiad system gofal traed diabetig. Mae’r cyllid yn cynnwys £200,000 o fuddsoddiad sbarduno gan Fanc Datblygu Cymru ynghyd ag angylion busnes a chymorth corfforaethol.

Mae’r buddsoddiad ecwiti, sy’n dod o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru, hefyd yn cefnogi lansio Podium, ar gyfer defnydd yn y cartref a defnydd proffesiynol, cartrefi nyrsio, podiatryddion a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill.

Wedi ei sefydlu yn 2018, mae Thermetrix yn Abercynon, yn gweithio gyda thîm o arbenigwyr i gynhyrchu Podium, gan roi i bobl gyda diabetes ffordd hawdd a chyflym i wirio gwadnau eu traed a gofyn am ymyrraeth gynnar gan eu tîm gofal iechyd i rwystro cymhlethodau pellach. Gan ddefnyddio technoleg delweddau thermol, gellid defnyddio’r system i gipio delwedd ddyddiol o’u traed a ellir wedyn ei rhannu gyda’u podiatrydd neu feddyg teulu trwy ddefnyddio ap seiliedig ar y cwmwl.

Mae cyfradddau diabetes yn codi ledled y byd, gyda nifer y bobl yn fyd-eang i godi 48% o 425m (2017) i 629m erbyn 2045. Mae pobl gyda diabetes hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau gan gynnwys wlserau ar y traed sy’n medru arwain at dorri’r droed i ffwrdd. Yn y DU yn unig, mae 6,000 o drychiadau oherwydd diabetes yn cael eu gwneud bob blwyddyn gan y GIG.

Lansiwyd Thermetrix gan Dr Peter Plassmann, i ddod â Podium i’r farchnad a helpu gwella bywydau miliynau o bobl gyda diabetes. Roedd yn offerynnol mewn prosiect a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ar wlserau traed mewn diabetes, wedi ei arwain gan y Labordy Ffisegol Genedlaethol dan arweiniad clinigol Coleg King’s, Llundain.

I gyd-daro â Diwrnod Diabetes y Byd ar 14 Tachwedd, bydd Thermetrix yn arddangos Podium yn y Gynhadledd Gofal Porffesiynol Diabetes yn Llundain ar 14 Tachwedd.

Meddai Dr Peter Plassmann, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol a Sylfaenwr Thermetrix: “Mae canfod cymhlethdodau diabetig yn y traed mor gynnar ag y bo modd yn hollbwysig gan y gall pobl gyda diabetes ddioddef colled teimlad yn eu traed, sy’n medru arwain at wlserau traed sy’n cynyddu risg trychiad. Unwaith y mae claf wedi colli troed, mae ansawdd eu bywyd yn cael ei effeithio. Yn waeth na hynny, mae disgwyliad einioes ar ôl colli troed yn 5 mlynedd, ar gyfartaledd.

“Mae Podium yn caniatáu i bobl reoli eu lles eu hunain a chysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn llawer cynharach os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Mae’r buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru wedi ein helpu ni i ddatblygu’r system arloesol hon a fydd yn helpu cymaint o bobl gyda diabetes.”

Meddai Sarah Smith a arweiniodd y rownd ar gyfer Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru Banc Datblygu Cymru, “I gleifion diabetes, mae hwn yn gynnyrch cyffrous a hawdd ei ddefnyddio sydd â’r potensial o ganfod cymhlethdodau yn y traed yn gynnar a all arwain at lai o drychiadau a gwella triniaeth.

“Mae hon yn broblem iechyd sy’n cynyddu’n ddychrynllyd o gyflym, ond mae Podium yn rhoi cyfle i wella iechyd a chyfyngu cymhlethdodau a achosir gan ddiabetes, heb son am leihau costau triniaeth. Mae hyn yn golygu ei fod yn berffaith i Gronfa Sbarduno Technoleg Cymnru sy’n cynorthwyo cwmnïau fel Thermetrix ac yn eu helpu i ddod â’u cynnyrch i’r farchnad. Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o gefnogi Peter a’r tîm ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt.”