Cwmni gwella cartrefi o Sir Benfro yn cwblhau trefniant i’r rheolwyr brynu’r busnes

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Karl Symmonds of TruPlas

Mae gŵr busnes lleol, Karl Symmonds, wedi cwblhau trefniant i’r rheolwyr brynu Tru-Plas, sef cwmni gwella cartrefi sydd wedi’i leoli Hwlffordd, ei dref enedigol.  

Wedi’i ariannu gan fenthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru, mae’r broses o brynu’r busnes gan y rheolwyr wedi galluogi’r cyn-berchennog a Chyfarwyddwr Rhys Hoddinott i drosglwyddo Tru-Plas i ddwylo Karl a ymunodd â’r cwmni yn 2018 ac a fu’n gyfrifol am reoli’r busnes ers hynny. Bydd Rhys yn parhau i weithio mewn rôl gynghori er mwyn sicrhau bod y broses o weithio gyda chwsmeriaid a chyflenwyr yn un ddidrafferth.  

Sefydlwyd Tru-Plas ym 1991 ac mae’n gwmni gwella cartrefi uchel ei barch sy’n arbenigo mewn drysau, ffenestri, ystafelloedd gwydr a phortsys PVCu ledled Sir Benfro a De Cymru. Llwyddodd y cwmni i fanteisio ar y cymorth gan Gynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru er mwyn helpu i reoli effaith y pandemig ar y busnes ac mae ei drosiant bellach yn prysur gyrraedd £1.2 miliwn yn ystod 2021/22. 

Ers cwblhau’r trefniant i’r rheolwyr brynu’r busnes, mae Karl eisoes wedi agor ystafell arddangos 100 metr sgwâr ac wedi sefydlu cownter masnach uPvc yn gwerthu ffenestri, drysau, ffitiadau, glud ac ategolion ar sail cyflenwi yn unig. 

Meddai Rhys Hodinott: “Ein hathroniaeth wrth greu Tru-Plas yw canolbwyntio ar y bobl, y cynnyrch a phrydlondeb. Yn wir, rydym yn falch iawn o gael cymaint o fusnes gan gwsmeriaid sy’n dod yn ôl atom dro ar ôl tro ac sydd hefyd yn sôn amdanom wrth eu teulu a’u ffrindiau.  

“Mae Karl wëid bod yn allweddol i’n llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wrth fy modd o allu trosglwyddo’r busnes iddo gan wybod ei fod mewn dwylo diogel ac y bydd yn parhau i ofalu am ein cwsmeriaid gwerthfawr drwy roi’r un gofal ac ymrwymiad iddynt ac a gawsant gan Tru-Plas yn y gorffennol.” 

Meddai Karl Symmonds: “Fel un o’r trigolion lleol, roeddwn yn gwybod bod gan Tru-Plas enw da o ran darparu gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol i gwsmeriaid cyn i mi ymuno â’r busnes. Fy swydd fydd ychwanegu at y sylfaen ragorol hon wrth i ni barhau i ddarparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid ledled De Cymru. 

“Mae gennym lawer o gynlluniau cyffrous ar y gweill gan gynnwys agor ein hystafell arddangos 100 metr sgwâr newydd a fydd yn rhoi profiad gwych i’n cwsmeriaid a maes parcio penodedig. Ni fyddai’r cytundeb hwn yn bosibl heb gymorth Banc Datblygu Cymru.  

“Hwn yw’r tro cyntaf i mi brynu busnes neu fod yn rhan o broses ble mae’r rheolwyr yn prynu’r busnes felly, yn naturiol, roeddwn yn teimlo braidd yn nerfus am yr holl beth. Fodd bynnag, nid oedd angen i mi boeni oherwydd cefais cymaint o gymorth ac arweiniad gan y Banc Datblygu a’n cynghorwyr. Roedd y broses yn un syml ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Banc Datblygu am ei gymorth gan fod ganddo arbenigwyr o fri ym maes strwythuro cyllid ar gyfer trefniadau prynu gan reolwyr. Maent yn deall yr hyn sy’n bosibl o ran opsiynau cyllid i’r dim.” 

Meddai Ruby Harcombe, un o Swyddogion Buddsoddi Banc Datblygu Cymru: “Roedd gweithio ar y trefniant prynu gan reolwyr hwn yn hyfryd ac roedd gennym dîm gwych o bobl sydd wedi cefnogi ei gilydd a chanolbwyntio ar gwblhau’r cytundeb yn y ffordd orau i bob ochr, gan gynnwys y cwsmeriaid.  

“Trefniadau ble mae rheolwyr yn prynu’r busnes yw’r ffordd orau o gynllunio olyniaeth yn aml gan ei fod yn ddull cyflymach o gwblhau’r broses i’r gwerthwr a’r dull hwn hefyd sy’n tarfu leiaf ar olyniaeth fel arfer, fel y gwelsom yn Tru-Plas. Rydym yn falch iawn o allu darparu’r cyllid er mwyn i Rhys allu manteisio ar y buddiannau a ddaw yn sgil ei waith caled dros y blynyddoedd, a  hoffem ddymuno pob llwyddiant i Karl ar ddechrau ei daith fel perchennog newydd Tru-Plas.” 

Daeth y cyllid ar gyfer y trefniant prynu o Gronfa Fusnes Cymru sy’n werth £204 miliwn. Ariennir y gronfa gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, ac mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti gwerth rhwng £50,000 a £2 filiwn ar gael i fusnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n barod i adleoli i Gymru. Mae’r telerau’n amrywio rhwng un a saith mlynedd. 

Cafodd Tru-Plas gyngor gan y cynghorwyr ariannol Carrie Barford ac Emma Owen-Davies o Barford Owen Davies a’r cwmni McTaggart Solicitors sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd.   

Meddai Carrie Barford: “Bu’n bleser gweithio fel y prif gynghorydd ar y trefniant prynu gan reolwyr hwn, gan weithio’n agos gyda thîm rheoli Tru-Plas a’r Banc Datblygu i drefnu’r fargen. Rydym hefyd yn falch iawn o allu cefnogi Karl a’r tîm wrth iddynt ddechrau ar bennod gyffrous newydd o dwf a llwyddiant yn Tru-Plas.” 

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.  

Cysylltu â ni