Ydych chi’n bwriadu prynu neu werthu eich busnes? Gallwn ni eich cefnogi chi bob cam.
Be’ sy’n ein gwneud ni’n wahanol

o fusnesau Cymru wedi sicrhau cyllid olyniaeth gyda ni.
- Arbenigwyr mewn olyniaeth busnes gyda hanes cryf
- Timau lleol gydag ymagwedd wyneb i wyneb
- Benthyciadau ac ecwiti ar gael hyd at £5 miliwn
- Rhwydwaith cryf o gyd-fuddsoddwyr a chynghorwyr busnes sefydledig
- Cymorth ar gyfer perchnogion busnes a thimau rheoli ill dau
Sut y gallwn ni helpu
Pryniant rheoli neu PRh yw pan fydd y tîm rheoli presennol neu'r gweithlu yn prynu busnes gan eu perchnogion.
I’r gwerthwr gall hyn olygu bod y broses yn cael ei chwblhau'n gynt, gan roi’r cyfle i dimau PRh fanteisio ar eu gwybodaeth am y busnes ac fel arfer hwn yw'r math o olyniaeth sy'n tarfu leiaf ar bethau.
- Mae gennym flynyddoedd o brofiad o strwythuro PRh
- Rydym ni’n deall y 'grefft o weld y posibiliadau’ wrth ystyried opsiynau ariannu
- Benthyciadau hyblyg ac ecwiti i ffitio eich anghenion chi
Os yw tîm rheoli allanol yn prynu i mewn i gwmni targed fe'i gelwir yn bryniant i mewn gan y rheolwyr neu RhPM.
Yn aml mae hyn yn ffordd arall i reolwyr profiadol neu dimau rheoli ddod yn fudd-ddeiliad mwyafrifol y busnes.
- Rydym ni’n deall nad oes yr un fargen yr un fath ac rydym yn teilwrio’r cyllid i ffitio hynny
- Mae gennym gyfoeth o brofiad o helpu cyfarwyddwyr rheoli newydd i brynu i mewn i fusnes
- Fe allwn ni gefnogi trafodion ystyriaeth ohiriedig
Pryniant i Mewn - Rheolwyr yn Prynu’r Cwmni a adwaenir fel PM-RhPC yw pan fydd y tîm rheoli presennol yn prynu'r busnes ochr yn ochr â buddsoddwyr allanol, sydd yn y pen draw yn ymuno â hwy fel perchnogion ac yn aml yn eistedd ar y tîm rheoli newydd.
Mae'r mathau hyn o drafodion yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau sydd ā rheolaeth weithredol gref, ond mae yna ddiffyg arweinyddiaeth wrth i'r perchennog ymadael.
- Mae gennym brofiad o strwythuro cyllid pan fo yna gymysgedd o reolwyr mewnol ac allano
- Fe allwn ni siarad yn gyfrinachol gyda chwmnïau a’u timau rheoli ynghylch eu hopsiynau ariannu
Mae Pryniant o’r Cwmni gan y Rheolwyr a Ysgogi’r gan y Gwerthwr (a gychwynnir gan y Gwerthwr weithiau) hefyd yn cael ei alw’n PCRhYG, mae hyn yn golygu bod perchennog y busnes eisiau gwerthu ei gwmni i’r tîm rheoli presennol.
Gall olygu bod budd i berchennog y cwmni wrth iddynt ysgogi'r fargen ar ei delerau o neu hi ac fe sicrheir bod arian parod yn cael ei ryddhau yn gynt.
- Mae gennym brofiad o strwythuro trafodion PCRhYG dros £1 miliwn
- Fe allwn ni helpu timau rheoli i ddeall eu hopsiynau ariannu
Caffael yw pryniant un busnes neu gwmni gan gwmni arall neu endid busnes arall. Gall fod yn gyfrwng i ganiatáu i fentrau dyfu, crebachu, a newid natur eu busnes neu eu sefyllfa gystadleuol.
- Rydym ni wedi cefnogi ystod o gaffaeliadau ar raddfa fach a mawr
- Fe allwn ni ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyblyg i gefnogi trafodiad
All-bryniant gweithwyr yw pan fydd gweithwyr cwmni'n prynu'r busnes gan ei berchnogion.
Gall fod yn ffordd o gadw swyddi a sicrhau dyfodol y cwmni, gyda gweithlu yn meddu ar y cymhelliant i'w symud ymlaen.
- Rydym yn darparu benthyciadau hyblyg ac ecwiti i gefnogi all-bryniant gweithwyr
- Gallwn helpu gweithwyr i ddeall eu dewisiadau o ran cyllido

Ydych chi’n bwriadu gwerthu cwmni?
P'un a ydych chi'n berchen ar eich busnes sy'n bwriadu caffael cystadleuydd neu'n entrepreneur sy'n bwriadu prynu eu busnes nesaf, gallwn ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £5 miliwn.
Parod i werthu?
Os ydych chi'n bwriadu gwerthu, ydych chi wedi ystyried eich tîm rheoli? Fe allwn ni gefnogi rheolwyr yn prynu'r cwmni a phryniannau rheolaeth a ysgogi'r gan y perchennog gyda benthyciadau ac ecwiti hyd at £5 miliwn.
Eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid ac eisiau gwybod mwy cysylltwch â ni ac fe allwn ni eich cysylltu chi gydag un o’n harbenigwyr ni. Gweler ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am brynu busnes hefyd.
Parod i wneud cais?
Byddwn angen gweld:
- Cynllun busnes strwythuredig yn esbonio sut y byddwch yn rhedeg y busnes ac yn ad-dalu cyllid
- Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
- Rhagolygon Misol Integredig (dwy flynedd yn cynnwys Elw & Cholled, Llif Arian & Mantolen)
- Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
- Datganiadau banc y chwe mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
- Datganiad o asedau ac atebolrwydd
Pan fyddwch yn ysgrifennu eich cynllun, efallai y byddwch eisiau ystyried defnyddio cyfrifydd arbenigol neu gynghorydd cyllid corfforaethol.
Mae'r llog wedi'i bennu ar gyfer cyfnod y benthyciadau ac mae'n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes.
Grymuso timau rheoli
Yn aml, mae timau rheoli yn cam-dybio na allant fforddio prynu perchennog busnes pan fydd y cyfle yn codi. Fodd bynnag, gallwn gefnogi pryniant y busnes gan y rheolwyr a'r rheolwyr yn prynu i mewn i'r busnes gyda benthyciadau ac ecwiti hyd at £5 miliwn i dalu am y mwyafrif helaeth o'r cyllid, felly dim ond buddsoddiad bach sydd ei angen.
Eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid ac eisiau gwybod mwy cysylltwch â ni ac fe allwn ni eich cysylltu chi gydag un o’n harbenigwyr ni. Gweler ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am brynu busnes hefyd.
Parod i wneud cais?
Bydd angen i ni weld:
- Cynllun busnes strwythuredig yn esbonio sut y byddwch yn rhedeg y busnes ac yn ad-dalu cyllid
- Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
- Rhagolygon Misol Integredig (dwy flynedd yn cynnwys Elw & Cholled, Llif Arian a Mantolen)