Cwmni technoleg iechyd Forth o’r DU yn codi £1.6M i lansio cynnyrch arloesol technoleg i fenywod

alex
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Sarah Bolt, CEO and co-founder of Forth

Mae disgwyl i'r cwmni technoleg iechyd Forth o Gas-gwent elwa ar y twf yn y farchnad wyddoniaeth a thechnoleg i fenywod gan ei fod wedi sicrhau cyllid o £1.6m i gefnogi lansio ei gynnyrch iechyd arloesol i fenywod.

Yn arwain y tîm yn Forth mae'r Prif Swyddog Gweithredol a'r Cyd-sylfaenydd Sarah Bolt. Meddai: “Heddiw, mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli bod deall a mesur biocemeg eich corff yn allweddol ar gyfer bywyd hir ac iach. I fenywod yn benodol, gall cael dealltwriaeth unigryw o sut mae lefelau eu hormonau yn amrywio drwy gydol eu cylch misol unigryw roi iddynt y gefnogaeth sydd wedi bod ei hangen arnynt ers tro a helpu i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau”.      

Mae rownd fuddsoddi Forth wedi denu cefnogaeth gan gonsortiwm o fuddsoddwyr yn y DU a thramor gan gynnwys Trajan Scientific and Medical, (Trajan) drwy ei is-gwmni Ewropeaidd Trajan Scientific Europe Ltd. Gyda’i bencadlys ym Melbourne, Awstralia, mae Trajan yn ddatblygwr byd-eang ac yn weithgynhyrchydd offer, dyfeisiau a datrysiadau gwyddoniaeth dadansoddol ac mae ganddo weithrediadau mawr yn Awstralia, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Asia. 

Meddai Stephen Tomisich, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr Trajan, “Rydym wedi adnabod sylfaenwyr a mwyafrif o randdeiliaid  Forth ers cryn amser. Rydym yn rhannu’r un gwerthoedd ynghylch cyflwyno gwyddoniaeth dda sy'n helpu pobl i sicrhau gwell canlyniadau iechyd. Mae'r ddau ohonom yn canolbwyntio'n ddwys ar sicrhau effaith a thrwy gydweithio credwn y byddwn yn gwneud hynny.”

Mae Banc Datblygu Cymru hefyd wedi cefnogi’r ail rownd gyllido hon gydag ecwiti dilynol o £250,000 sy’n dod a chyfanswm ei fuddsoddiad hyd yma i £500,000. Meddai’r Uwch Swyddog Buddsoddi Alexander Leigh: “ Mae Sarah a’r tîm wedi gwneud yn anhygoel o dda i sicrhau sefyllfa gref yn y farchnad mewn sector sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r cwmni wedi cael y sgôr uchaf ar Trustpilot yn y sector hwn ac mae ganddo’r holl egni a’r sgiliau i gyflawni ei weledigaeth.

“Bydd ein cyllid ecwiti dilynol ynghyd â buddsoddiad strategol Trajan nawr yn rhoi mynediad unigryw i Forth at dechnolegau blaengar wrth i’r cwmni ddatblygu ei gynnyrch drwy gyflwyno Offeryn Mapio Hormonau Benywaidd. Rydym yn falch o gefnogi’r tîm gwych hwn ac dymunwn bob llwyddiant iddo.”

Adroddodd Forth dwf refeniw o dros 100% ym mis Mehefin 2020 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yna dyfarnwyd grant arloesi i’r cwmni ym mis Medi 2020 i ddatblygu cynnyrch hormonau benywaidd unigryw, ac ym mis Hydref enillodd y sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol, Sarah Bolt Entrepreneur Iechyd a Lles y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Prydain.

Dywedodd Sarah Bolt: “Mae ein nod yn Forth yn un syml - rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o'u cyrff eu hunain gan ddefnyddio cyfuniad o wyddoniaeth a thechnoleg. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i lansio Offeryn Mapio Hormonau Benywaidd yn ogystal â datblygu cynnyrch mwy unigryw a chraff i helpu pobl i ymgysylltu'n rhagweithiol â'u hiechyd. Mae Trajan yn bartner perffaith wrth i ni rannu ffocws ar ddefnyddio gwyddoniaeth i hybu iechyd ataliol tra bod y Banc Datblygu yn parhau i'n cefnogi fel cwmni o Gymru sydd ar flaen y gad yn y farchnad technoleg i fenywod.”

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni