Cwmni technoleg meddygol yn cael cefnogaeth gan y Banc Datblygu a Merched Angylion Cymru

Harry-George
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid ecwiti
Ariannu
Twf
Marchnata
Kaydiar

Mae busnes Cymreig sy’n defnyddio technolegau arloesol i greu ystod arloesol o gynhyrchion gofal traed wedi derbyn cefnogaeth grŵp o fuddsoddwyr angylion, ynghyd â Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac Innovate UK.

Sefydlwyd Kaydiar yn 2018 fel cwmni deillio uchelgeisiol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, gan ganolbwyntio ar wella gofal traed trwy ddefnyddio technoleg newydd i helpu i leddfu briwiau pwyso a briwiau sy’n ymdebygu i  hynny. Mae ei gynhyrchion DiaSole a ZeroSole newydd wedi'u cynllunio i helpu'r rhai sy'n dioddef o wlserau traed diabetig a chorniau neu galedeniau achosir gan bwysau. Mae'r ddau gynnyrch yn defnyddio fframiau rhwyll hecsagonol hawdd eu haddasu, gan ganiatáu i wisgwyr newid maint a siâp y gwadnau yn unol ag anghenion triniaeth. Mae Kaydiar yn bwriadu dilyn eu llwyddiant gyda thechnoleg newydd gyffrous, PROMorph, deunydd cyfansawdd chwyldroadol sydd â'r nod o amharu ar y diwydiant podiatreg ac orthoteg, trwy helpu cleifion sy'n defnyddio castiau, bresys ac orthoteg arall a ragnodir yn feddygol wrth wella o anaf.

Ymunodd Banc Datblygu Cymru â Merched Angylion Cymru (MAC) i gefnogi Kaydiar fel rhan o gylch buddsoddi o £1.2miliwn, gyda’r Banc Datblygu yn buddsoddi £200,000, WAW a’r Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion yn buddsoddi £210,000 a £100,000 gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cefnogwyd y busnes hefyd gan gyllid grant, gan gynnwys cyllid grant o £450,000 o ddyfarniad grant clyfar Innovate UK a £200,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Carol Hall, Rheolwr Buddsoddi Angylion Buddsoddi Cymru: “Bydd y cynnyrch y mae Kaydiar yn dod â nhw i’r farchnad o fudd aruthrol i bobl sy’n dioddef o ddoluriau pwysedd traed, ac maen nhw’n enghraifft wych o gwmni technoleg meddygol deilliannol o Gymru yn defnyddio technolegau meddygol newydd i ddarparu datrysiad i rywbeth sy’n effeithio ar filoedd o bobl.”

Dywedodd Sharon Pipe, a fu’n arwain y cytundeb gyda Merched Angylion Cymru: “Rydym yn gweithio’n galed i annog mwy o ferched i ymwneud â buddsoddiadau angylion. Mae ein cefnogaeth i Kaydiar yn enghraifft wych o ddod â chyllid grant, angel a sefydliadol ynghyd i ddarparu’r adnoddau i gefnogi datblygiad cwmni arloesol, cyfnod cynnar yng Nghymru. Mae ein syndicet yn falch iawn o gefnogi Heather Smart a David Barton, dau bodiatrydd ifanc sy'n defnyddio technolegau newydd i wella canlyniadau cleifion yn y sector gofal traed. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Kaydiar i adeiladu cwmni o safon fyd-eang.”

Meddai David Barton o Kaydiar : “Mae Heather a minnau wrth ein boddau ein bod wedi ennill cefnogaeth Banc Datblygu Cymru, Merched Angylion Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Innovate UK a Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn gyfnod holl bwysig i Kaydiar, wrth i ni lansio ZeroSole ar-lein a thrwy fanwerthwyr mawr fel Boots, wrth barhau i arloesi technoleg dadlwythedig aflonyddgar newydd ar gyfer y marchnadoedd podiatreg ac orthotig.”

Wedi’i sefydlu i helpu i gefnogi merched i fuddsoddi yn y cyfnodau cynnar yn y gymuned yng Nghymru, mae Merched Angylion Cymru yn cael eu cefnogi ar y cyd gan Fanc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru. Mae gan y syndicet fynediad i gyd-fuddsoddiad o hyd at £250,000 ar gyfer pob cytundeb o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru gwerth £8 miliwn y Banc Datblygu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.womenangelsofwales.com