Cwmni twf cyflym fintech yn Ne Cymru yn codi £1.25m

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
w2 global

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Mercia Fund Managers.

Mae cwmni twf cyflwym fintech sy'n seiliedig yn Ne Cymru wedi cau rownd gyllido o £1.25 miliwn gyda chefnogaeth Mercia Fund Managers, Banc Datblygu Cymru a TTI Angels.

Mae W2 Global Data, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd ac wedi dyblu yn ei faint ers dechrau'r flwyddyn, ac maent yn bwriadu recriwtio 20 o staff pellach. Mae'r rownd gyllido ddiweddaraf yn dilyn buddsoddiad cychwynnol gan Mercia a'r banc datblygu yn 2017 ac mae'n dod â'r cyfanswm sydd wedi cael ei godi gan y cwmni i dros £3.0 miliwn.

Mae W2 yn darparu gwasanaethau dilysu hunaniaeth i helpu i atal twyll a gwyngalchu arian. Gyda mynediad at filoedd o ffynonellau data llywodraeth a masnachol, fe all wirio yn syth bin a yw'r data a roddir gan unigolion yn ddilys a hyd yn oed a ydynt ar restr droseddol o bobl y chwilir amdanynt. 

Mae offer meddalwedd-fel-gwasanaeth W2 (a adwaenir yn aml fel SaaS yn y maes) yn caniatáu i gwmnïau talu a gwasanaethau ariannol i sgrinio cleientiaid a rheolwyr, mae'n caniatáu i fanwerthwyr ar-lein i wirio hunaniaeth prynwyr mewn trafodion a wneir gyda cherdyn ac fe all cwmnïau gemau ar-lein wirio oedran chwaraewyr.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu yn 2011 gan Warren Russell, y Prif Weithredwr presennol, mae'r busnes wedi sicrhau twf cyson ac mae bellach yn cyflogi bron i 40 o bobl. Dywedodd Warren: "Mae twf cyflym twyll ar-lein a rheoleiddio cynyddol yn rhoi pwysau gwirioneddol ar fanciau, gwasanaethau ariannol, manwerthwyr ar-lein a busnesau eraill i wirio hunaniaeth eu cwsmeriaid. Mae'r galw am ein gwasanaethau gymaint yn fwy na'n rhagamcaniadau cynnar ac rydym wedi dyblu ein niferoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."

Meddai Julian Dennard, Cyfarwyddwr Buddsoddi gyda Mercia Fund Managers: "Mae yna alw byd-eang cynyddol am y gwasanaethau canfod twyll a gwirio hunaniaeth y mae W2 yn eu darparu. Mae gan y cwmni dîm rheoli cryf ac enw rhagorol yn y farchnad. Bydd y rownd gyllido ddiweddaraf hon yn caniatáu iddo adeiladu ei dîm, gwella ei lwyfan a chyflymu'r twf."

Meddai Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: "Mae'n wych gweld cwmnïau Meddalwedd fel Gwasanaeth blaenllaw fel W2 Global yn ehangu eu gweithlu mor sylweddol yng Nghymru. Mae'n dyst i'w twf a llwyddiant eu technoleg ers iddynt symud i Gymru. Rydym yn falch o allu parhau i gefnogi Warren a'i dîm."