Cyflenwyr bwyd gogledd Cymru yn gwyrddio diolch i fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru

Andrea-Richardson
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Twf
Marchnata
Cynaliadwyedd
Bwydydd Oren Foods

Mae cyfanwerthwr ffrwythau a llysiau o Wynedd ar fin mynd hyd yn oed yn fwy gwyrdd yn dilyn gosod paneli solar newydd yn ei warws, diolch i fenthyciad o £60,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Bwydydd Oren Foods yn darparu cynnyrch ffres i fusnesau, awdurdodau lleol a chwsmeriaid manwerthu ledled gogledd a chanolbarth Cymru, o’i warws ar Ystâd Ddiwydiannol Griffin ger Penrhyndeudraeth . Dechreuwyd y busnes yng Nghricieth gan y cwpl Dei a Cheryl Jones ar ddechrau'r 1980au, a chafodd ei alw'n wreiddiol yn DJ Fruit, mae'r busnes hwn wedi tyfu ers hynny trwy gaffaeliadau ac enw da.

Bellach mae’n cael ei redeg gan eu mab Gethin Dwyfor ac mae Bwydydd Oren Foods yn gweithredu ar draws gogledd a chanolbarth Cymru gyda deuddeg o faniau dosbarthu, yn cyflenwi nifer o gwsmeriaid sector preifat a chyhoeddus, gan gynnwys gwestai, siopau ac awdurdodau lleol.

Oherwydd dibyniaeth y busnes ar gludiant i werthu ei gynnyrch, roedd Gethin yn awyddus i ddod o hyd i ffordd fwy cynaliadwy o redeg ei fflyd. Mae Bwydydd Oren Foods bellach wedi gosod cyfres o baneli solar 60MWh a dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd yn ei warws, gan ganiatáu iddo ddechrau newid i gerbydau trydan.

Ariannwyd y gosodiadau pwrpasol hyn gan fenthyciad o £60,000 trwy gyfrwng y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru sydd am newid eu defnydd o ynni a thorri eu hallbynnau carbon. Dyma’r eildro i’r busnes dderbyn cymorth gan Fanc Datblygu Cymru, yn dilyn benthyciad pum ffigur gan CBBCC a roddwyd i’r busnes yn 2020.

Dywedodd Gethin: “Rydym wedi tyfu dros y blynyddoedd oherwydd rydym bob amser wedi cymryd golwg hirdymor ar ein busnes, ac rydym bob amser wedi ceisio bod yn gynaliadwy. Nid yn unig oherwydd ei fod yn dda i'r amgylchedd, ond hefyd oherwydd y gall dorri costau a chaniatáu i ni drosglwyddo'r arbedion hynny i'n cwsmeriaid.

“Fel llawer o fusnesau, roedd newid i ynni sy’n fwy gwyrdd a phaneli solar yn gam nesaf amlwg i ni, ond nid oedd gennym yr adnoddau angenrheidiol i wneud y newid hwnnw. Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan Fanc Datblygu Cymru drwy'r Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd wedi bod yn wych. Mae’n gam cost-niwtral yn y tymor byr, a bydd yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir oherwydd byddwn yn gallu pweru ein fflyd yn gynaliadwy a thalu llai am ein hynni.”

Ychwanegodd: “Pan osodon ni’r paneli am y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn siŵr faint o ynni ychwanegol fydden ni’n ei gael er mwyn pweru’r cerbydau trydan hynny sydd gennym ni’n barod, ond pan fydd yr haul allan, gallwn ni eu gwefru i’r pwynt lle mae tua 300 milltir y cerbyd yr wythnos yn cael ei bweru gan ynni solar.”

Dywedodd Andrea Richardson, Uwch Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Roedd gweithio gyda Gethin a phawb yn Bwydydd Oren Foods yn bleser. Maent yn fusnes llwyddiannus gyda gwreiddiau lleol cryf, yn cyflenwi bwyd ffres i gwsmeriaid bodlon ar draws Gogledd Cymru. Fel llawer o fusnesau â’u gofynion ynni, maent wedi bod yn bwriadu newid i fathau eraill o ynni ers peth amser, ac roedd y Benthyciad Busnes Gwyrdd yn darparu’r cymorth yr oedd ei angen arnynt.”

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn agored i fusnesau ledled Cymru sy’n edrych ar dorri eu hôl troed carbon neu leihau eu defnydd o ynni.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://bancdatblygu.cymru/angen-busnes/cynllun-benthyciad-busnes-gwyrdd