Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd – Something Different yw’r cwmni cyntaf i ddefnyddio benthyciadau gwyrdd newydd

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Busnesau technoleg
Technoleg
Something Different

Cwmni anrhegion o Gymru fydd y cyntaf i fanteisio ar Gynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Banc Datblygu Cymru.

Mae’r cwmni o Abertawe Something Different Wholesale wedi cael benthyciad o £1.2m gan y cynllun, a sefydlwyd gan y Banc Datblygu a Llywodraeth Cymru i helpu busnesau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, gan helpu’r genedl ar ei siwrnai i fod yn sero net erbyn 2050.

Bydd y busnes yn defnyddio’r buddsoddiad a gafwyd i osod 2,200 o banelau solar newydd ar eu warysau 158,000 troedfedd sgwâr yn y Parc Menter yn Upper Fforest Way, Abertawe. Bydd y systemau ynni solar newydd yn helpu Something Different i leihau eu biliau ynni ac yn helpu i ddiwallu’r galw cynyddol mewn ffordd fwy cynaliadwy, gan eu galluogi i werthu ynni dros ben yn ôl i’r farchnad. Bydd cyflwyno’r panelu newydd yn dilyn uwchraddio system oleuo’r cwmni i ddefnyddio goleuadau LED yn 2021.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn un o brif gyflenwyr anrhegion y DU ac mae’n dosbarthu i fanwerthwyr ledled y byd. Ymunodd Jane Wallace-Jones, Prif Swyddog Gweithredol Something Different, â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn 2015, gan weithio â rheolwr perthnasoedd i wneud newidiadau yn y busnes yn ystod cyfnod o dwf cyflym. Yn ddiweddarach ymuno â bwrdd y rhaglen i rannu ei syniadau ac i ddatblygu’r gwasanaeth.

Profodd y cwmni dwf cadarn yn ystod pandemig Covid-19, gyda’i werthiannau’n cyrraedd £12.5m ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21. Yn ddiweddar hefyd cyflwynwyd gwasanaeth gwell o ddechrau’r broses i’w diwedd i gleientiaid llai, ynghyd â danfoniadau diwrnod canlynol a mynediad ar-lein i ffrwd stoc fyw.

Meddai Jane Wallace-Jones, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Something Different: “Rydym yn falch o fod yn arwain y ffordd tuag at ddyfodol cynaliadwy i Gymru. Rydym wedi ymrwymo i hybu llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein cymuned.

“Mae cefnogaeth Banc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf ar ein siwrnai wrth inni chwilio’n barhaus am ffyrdd i adeiladu dyfodol mwy gwyrdd.”

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch o allu helpu Something Different Wholesale i gyflawni prosiect ynni cynaliadwy mawr gyda help ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o fuddsoddiadau rydym wedi’u gwneud yn Something Different yn, ac rydym mor falch i weld eu cwmni cyfanwerthu rhyngwladol ffynu. Byddem yn parhau i gefnogi’r cwmni ar eu daith twf gyda’i ddyletswydd amgylcheddol.

Ychwanegodd: “Mae’r cynllun yma i helpu busnesau bach a chanolig fel Something Different sy’n weld y gwerth mewn lleihau eu ôl troed carbon. Mae’r cynydd diweddar mewn prisiau ynni a phwysau chwyddiannol eraill wedi amlygu’r manteision ehangach o fusensau’n fuddsoddi mewn cynlluniau i lleihau ddefnydd, neu cynhyrchu egni ei hunain.

“Rydym am weld rhagor o fusnesau’n manteisio ar y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gweld sut y gall eu helpu i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau.

“Diolch i’r mesurau datgarboneiddio a gyflwynwyd fel rhan o’r prosiect cynaliadwyedd hwn, bydd Something Different yn awr yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer eu safle yn Abertawe a byddant yn cynhyrchu enillion ar ynni y byddant yn ei werthu’n ôl i’r farchnad, gan gymryd camau pellach i leihau faint o ynni mae eu busnes yn ei ddefnyddio’n fwy cyffredinol.”

Meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:

“Rwyf yn falch o weld y busnes lleol hwn yn cael yr help sydd ei angen arno gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i arloesi ac addasu i’r argyfwng hinsawdd.

“Mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i fod yn sero net erbyn 2050.

“Mae busnesau fel Something Different yn rhan holl bwysig o’n huchelgais sero net, felly rydym yn falch o weithio â’r Banc Datblygu i helpu busnesau Cymreig ar eu siwrnai i ddatgarboneiddio.

“Rydym am sicrhau bod busnesau’n cael yr help sydd ei angen arnynt i wneud y gwelliannau angenrheidiol, drwy Fenthyciadau Busnes Gwyrdd a chyngor ymarferol gan ein gwasanaeth Busnes Cymru.

“Mi hoffwn annog unrhyw fusnesau sydd â diddordeb yn y cynllun i gysylltu â’r Banc Datblygu i gael rhagor o wybodaeth.”

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd £10m yn helpu busnesau i fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy, i wella ffabrig eu hadeiladau, i uwchraddio systemau i leihau defnydd o ynni ac i leihau gwastraff. Yn ogystal â chynnig benthyciadau buddsoddi, mae’r cynllun yn galluogi busnesau i gael cyngor ar ddatgarboneiddio gan gynghorwyr Busnes Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd ar wefan Banc Datblygu Cymru.

Be' nesaf?

Waeth os ydych chi’n cychwyn ar daith ddatgarboneiddio eich busnes neu’n parhau â hi, mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig pecyn cyllid â chymhelliant i gefnogi eich busnes.

Ymgeisio nawr