Helpu busnesau i dorri costau ynni: Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru yn lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd newydd

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Benthyciadau Gwyrdd

Mae cynllun mawr benthyciadau newydd i gefnogi busnesau yng Nghymru i dorri eu costau ynni drwy gymryd camau i ddod yn wyrddach ac yn fwy ynni-effeithlon wedi cael ei lansio heddiw gan Fanc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gyda’r uchelgais i fuddsoddi £10m dros y tair blynedd nesaf, bydd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd newydd, a fydd yn cynnig cyfraddau llog gostyngol a dyddiadau ad-dalu hyblyg, yn helpu busnesau i wneud gwelliannau a fydd yn eu galluogi i leihau eu hôl troed carbon – gan gefnogi taith Cymru i fod yn sero net erbyn 2050.

Mae prosiectau a allai gael eu cefnogi gan y benthyciadau yn cynnwys:

  • Buddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy;
  • Gwella ffabrig adeiladau ac effeithlonrwydd ynni o fewn yr adeilad;
  • Uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni;
  •  Gwelliannau / lleihau y defnydd o ddŵr a gwastraff

Er bod busnesau'n gweld manteision dod yn amgylcheddol gynaliadwy, nid oes gan lawer ohonynt yr arian sydd ei angen i wneud y buddsoddiad sydd ei angen ymlaen llaw. Ac mae amgylchiadau economaidd ehangach yn golygu bod llawer o fusnesau a allai fod wedi cynllunio gwaith datgarboneiddio wedi gorfod blaenoriaethu costau eraill ers hynny - tra nad yw'r rhai sydd â'r adnoddau sydd eu hangen i wneud gwelliannau o'r fath yn aml yn gwybod y lle gorau i ddechrau.

Yn ogystal â’r benthyciad newydd, mae cymorth a chyngor hefyd ar gael gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i ddatgarboneiddio.

Wrth lansio’r cynllun benthyciadau newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dyna pam rydym wedi gosod cynlluniau uchelgeisiol i Gymru ddod yn sero net erbyn 2050.

“Mae gan fusnesau ran holl bwysig i’w chwarae os ydym am gyflawni ein huchelgais, felly rydym yn falch o weithio gyda’r Banc Datblygu i gefnogi busnesau Cymru ar eu taith ddatgarboneiddio.

“Mae’r economi wedi dioddef yn ystod y misoedd diwethaf ac ni fydd gan lawer o fusnesau’r adnoddau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio. Mae hyn yn arbennig o bryderus wrth i filiau ynni gynyddu, sy'n amlygu pa mor bwysig yw taith Cymru tuag at ddod yn genedl Sero Net.

“Rydym am sicrhau bod gan fusnesau’r cymorth sydd ei angen i wneud y gwelliannau y maent am eu gwneud – nid yn unig drwy’r gefnogaeth ariannol a gynigir gan y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, ond hefyd gyda chyngor ymarferol gan ein gwasanaeth Busnes Cymru.

“Byddwn yn annog unrhyw fusnesau sydd â diddordeb yn y cynllun newydd i gysylltu â’r Banc Datblygu am ragor o wybodaeth.”

Dywedodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James:

“Mae cost bresennol ynni wedi amlygu’r angen i leihau ein defnydd o ynni, bod yn fwy effeithlon o ran ynni a newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol yn hytrach na dibynnu ar danwydd ffosil costus.

“Gall busnesau fod wrth galon ein trawsnewidiad i sero net, ac rydym yn gwybod bod ein cymuned fusnes yn awyddus i weithredu. Mae’r cynllun hwn yn cynnig y cyllid cyfalaf sydd ei angen yn aml ar fusnesau bach a chanolig i wneud penderfyniadau buddsoddi.

“Gall y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd helpu busnesau i leihau allyriadau carbon, rheoli costau ynni a chynyddu cystadleurwydd busnesau.”

Mae'r farchnad ar gyfer benthyciadau 'gwyrdd' yn newydd ac yn esblygu a bydd y Banc Datblygu yn defnyddio'r peilot hwn i brofi'r farchnad - gan ddysgu gwersi a all lywio gweithrediad y cronfeydd mwy a weithredir gan y banc. Mae'r cronfeydd mwy hynny fel Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn cario'r grym sy’n angenrheidiol i ddarparu cyllid ar raddfa llawer mwy.

Dywedodd Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley:

“Bydd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd newydd yn helpu busnesau sydd am wella effeithlonrwydd ynni a diogelu eu hunain rhag costau ynni cynyddol.

“Rydyn ni’n gwybod bod cynaliadwyedd yn faes ffocws cynyddol i fuddsoddwyr, cwsmeriaid a gweithwyr - fel y cyfryw, mae buddsoddi mewn mesurau datgarboneiddio yn dod yn fwyfwy pwysig i fusnesau, ond ychydig sydd â’r cyfalaf cychwynnol sydd ei angen i wneud y newidiadau hynny.

“Bydd y cynllun newydd a gynigir gan y Banc Datblygu yn cael ei ddarparu ar sail cyfalaf amyneddgar, gydag amserlenni talu yn gysylltiedig ag ad-dalu’r gwelliannau a wnaed.”

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma.