Cynlluniau ehangu ar gyfer cynhyrchydd cacennau cri / pice ar y maen Sir Benfro diolch i gefnogaeth Banc Datblygu

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Mamgu Welshcakes

Mae MamGu Welshcakes wedi creu argraff ar giniawyr gyda’i amrywiaeth o gacennau cri traddodiadol a modern ers dechrau mewn marchnadoedd a ffeiriau bwyd yn 2016.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn siop goffi boblogaidd ym mhentref Harbwr Solfach yn Sir Benfro, ynghyd â becws yng Nghroesgoch – yn ogystal â gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid drwy eu gwefan.

Nawr, diolch i micro fenthyciad o £40,000 gan Fanc Datblygu Cymru, mae’r busnes wedi agor caffi newydd yn y Ganolfan Ragoriaeth Forol yn harbwr Saundersfoot, lle gall gynnig ei ddewis o gacennau cri a the prynhawn traddodiadol i fwy fyth o gwsmeriaid.

Yn ogystal â helpu'r cwmni i gymryd awenau’r safle ychwanegol, bydd y benthyciad hefyd yn helpu i osod dodrefn ac ailosod gofod cownter yno.

Mae'r benthyciad hefyd wedi cefnogi'r cwmni i sefydlu becws newydd yn Ninas Gadeiriol Tyddewi, gan ganiatáu iddo gynyddu cynhyrchiant ei ddewis poblogaidd o gacennau cri.

Meddai Becky Swift, perchennog MamGu Welshcakes : “Mae ein caffi newydd yn Saundersfoot yn dal ymhell o fewn cyrraedd i’n safle presennol yn Solfach, ond bydd yn ein helpu i gyrraedd cwsmeriaid newydd ymhellach i ffwrdd.

“Efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod ehangu i safle newydd yn gambl, ond i ni, mae’n gam naturiol i’r hyn rydyn ni eisiau ei wneud nesaf – ac mae pobl bob amser eisiau cacen!”

Ychwanegodd Becky: “Byddwn yn argymell Banc Datblygu Cymru i unrhyw fusnes sy’n ystyried ehangu neu symud cyfleoedd yn eu blaen – mae nhw’n enghraifft wych o sefydliad Cymreig yn gwneud ei orau i helpu busnesau Cymreig.”

Dywedodd Emily Wood, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Roedd yn bleser cefnogi Mamgu Welshcakes wrth iddynt edrych ar ehangu i adeiladau newydd.

“Mae Busnesau bach fel Mamgu Welshcakes yn cyfrannu cymaint at fywyd ac awyrgylch trefi a phentrefi ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol lle gallant fod yn wir yrwyr twristiaeth a bywyd lleol.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig micro fenthyciadau o £1,000 i hyd at £50,000 i helpu busnesau bach a micro mewn amrywiaeth o feysydd, o gyfalaf ar gyfer dechrau busnes o’r newydd i gyllid i ariannu twf.