Cynnal digwyddiad rhithwir llwyddiannus: pedwar awgrym

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
COVID-19
Marchnata
4 tips

Mae digwyddiadau rhithwir bellach wedi dod yn norm. Mae'n golygu costau is, y gallu i gyrraedd cynulleidfa ehangach, dull hawdd o gasglu data, ac felly mae'n debygol y byddant yn parhau i fod yn rhan o weithgareddau marchnata llawer o gwmnïau hyd yn oed pan all digwyddiadau corfforol ail ddechrau. Ond maen nhw hefyd yn cyflwyno nifer o heriau, o broblemau technegol a phethau yn tynnu sylw yn y cartref i’r hyn a elwir yn ‘Flinder Zoom’. Os ydych chi'n ystyried cynnal digwyddiad rhithwir, darllenwch y pedwar awgrym allweddol a ganlyn i helpu i sicrhau fod pethau'n mynd yn esmwyth ac yn llwyddiannus.

1. Gosodwch nodau

Yn yr un modd â digwyddiadau personol, mae angen strategaeth wedi'i diffinio'n glir i wneud eich digwyddiad rhithwir yn llwyddiant. Y cam cyntaf yw gosod nodau. Er mwyn ei gadw'n syml, efallai yr hoffech chi ganolbwyntio ar un prif nod. Gallai hyn gynnwys - cynyddu ymwybyddiaeth brand, gyrru gwerthiannau, ymgysylltu â chwsmeriaid presennol, neu greu gwahanol 'drywydd' i chi gael mynd ar ôl gwaith. Ar ôl i chi sefydlu beth yw'r nod cyffredinol, gwnewch hyn ar sail gweithio                       CAMPUS: cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol. Gofynnwch y cwestiynau hyn i chi eich hun:

  • A yw'ch nod yn cyd-fynd â'ch nodau marchnata a busnes cyffredinol?
  • Pwy yw'ch cynulleidfa darged a pham?
  • Beth ydych chi am i'r mynychwyr ei gael o ganlyniad i'r digwyddiad?
  • Pa fetrigau y byddwch chi'n eu defnyddio i bennu llwyddiant?

 

2. Dewiswch y platform cywir

Gyda chymaint o atebion meddalwedd ar gael ar gyfer cynnal digwyddiadau rhithwir, gall fod yn anodd penderfynu pa un i'w ddefnyddio. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio ar gyfer un digwyddiad yn gweithio i un arall, felly cadwch eich nod mewn cof ac ystyriwch yr ymarferoldeb y bydd ei angen arnoch i'w gyflawni. Dylai nifer y mynychwyr, y math o brofiad rydych chi am ei ddarparu, a faint rydych chi'n bwriadu ei wario ar y digwyddiad i gyd fod yn ffactorau sy'n siapio'ch penderfyniad. Dyma ychydig o nodweddion yr hoffech chi gadw llygad amdanynt wrth asesu gwahanol blatfformau:

  • Ymgysylltu a rhwydweithio - un o'r ffyrdd gorau o ennyn diddordeb eich cynulleidfa yw creu cyfleoedd i ryngweithio. Mae llawer o blatfformau rhithwir yn cynnwys nodweddion rhwydweithio fel sgyrsiau un i un, sgyrsiau grŵp, Holi ac Ateb byw, arolygon barn, arolygon, paru, ac 'ystafelloedd' gwahanol i'r mynychwyr ymneilltuo iddynt ac arddangosiadau.
  • Addasu – bydd personoli â'ch brandio eich hun o'r dechrau i'r diwedd yn helpu i ddarparu profiad cyson a chynyddu adnabyddiaeth brand. Edrychwch ar yr opsiynau addasu y mae platfformau yn eu cynnig, gan gynnwys tudalennau glanio digwyddiadau wedi'u brandio, ffurflenni cofrestru, templedi e-bost, ac ystafelloedd gwe.
  • Nawdd – os ydych chi'n gwerthu pecynnau noddi, mae gan rai platfformau nodweddion gwych a all eich galluogi i gynyddu gwerth nawdd a gyrru refeniw. Mae'r rhain yn cynnwys baneri wedi'u brandio, hysbysebion naid, hysbysiadau gwthio, a rhith-fwthiau lle gall mynychwyr sgwrsio â'r noddwr a phori eu cynhyrchion a'u cynigion arbennig.
  • Cynnwys byw a chynnwys a recordiwyd ymlaen llaw - mae gan ffrydio byw'r fantais o fod yn fwy rhyngweithiol ond mae sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw o ansawdd uwch. Os ydych chi'n mynd i gael cymysgedd o'r ddau, gwiriwch fod y platfform yn cefnogi hyn. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu sicrhau bod yr holl gynnwys ar gael ar alw ar ôl y digwyddiad.
  • Adrodd a dadansoddeg – darganfyddwch pa fewnolwg data y gall y platfform rhithwir eu darparu gan fod hyn yn allweddol i fesur llwyddiant eich digwyddiad.

 

Pa bynnag blatfform fyddwch chi’n ei ddewis, peidiwch ag anghofio profi'r holl nodweddion rydych chi'n bwriadu eu defnyddio a chynnal ymarfer gyda'ch holl dîm a’r siaradwyr cyn y digwyddiad.

3. Dewiswch y dyddiad a'r amser yn ddoeth

Mae'n swnio fel rhywbeth amlwg, ond gwnewch yn siŵr nad yw'ch digwyddiad yn gwrthdaro â gwyliau neu ddigwyddiad mawr arall y gall eich cynulleidfa fod yn ei fynychu. Ystyriwch sut olwg sydd ar wythnos nodweddiadol i'ch mynychwyr. Er enghraifft, os yw'r mwyafrif yn gweithio 9-5, yna efallai na fydd amserlennu'ch digwyddiad ar gyfer dydd Llun pan fydd pobl yn brysur yn aml yn syniad gwych. Os oes gennych gynulleidfa ryngwladol, byddwch yn ymwybodol o'r gwahaniaethau amser yn y gwledydd hynny. Archwiliwch ffyrdd o gynllunio'ch digwyddiad fel nad yw'ch mynychwyr tramor yn colli allan. Gallech rannu'r digwyddiad yn sawl sesiwn ar gyfer cynulleidfaoedd mewn gwahanol leoliadau. Neu efallai y gallech chi gynnig sesiynau byw wedi eu hefelychu, lle mae cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw yn cael ei chwarae a siaradwr ar gael yn fyw i ymgysylltu â'r mynychwyr.

Pa bynnag ddydd ac amser y byddwch yn eu dewis, gallwch wneud recordiad ar-alw o'r digwyddiad yn hygyrch wedi hynny fel y gall pobl na allent fod yn bresennol ei wylio.

4. Hoeliwch sylw eich cynulleidfa

Un o heriau mwyaf digwyddiad rhithwir yw ennyn a chadw diddordeb pobl. Mae gallu bobl i ganolbwyntio hyd yn oed yn fyrrach ar-lein, ac mae'n rhy hawdd i fynychwyr golli eu gallu i ganolbwyntio, i rywbeth arall dynnu eu sylw, neu hyd yn oed iddynt benderfynu gadael, yn enwedig os yw'r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Dyma ychydig o bethau i'w cofio:

  • Cynnwys - mae angen i gynnwys eich digwyddiad fod yn berthnasol ac yn werthfawr. Gall arolygon a sgyrsiau cyfryngau cymdeithasol ymlaen llaw eich helpu i gael mewnolwg i'r hyn y mae gan bobl ddiddordeb ynddo. Peidiwch ag anghofio casglu adborth ar ôl digwyddiad hefyd, a fydd yn allweddol wrth gynllunio digwyddiadau yn y dyfodol. Cadwch y cynnwys yn ddifyr, yn gryno, ac yn dreuliadwy; mae sesiynau rhy hir yn ffordd sicr o golli diddordeb pobl.
  • Rhyngweithio - fel y soniwyd gennym uchod, gall cael elfennau rhyngweithiol fel Holi ac Ateb byw a chynnal pleidlais barn pobl ayyb trwy gydol y digwyddiad eich helpu i hoelio sylw pobl, yn ogystal â sicrhau bod y cyflwynydd yn gyffredinol yn creu amgylchedd sgyrsiol. Gall darparu cyfleoedd i fynychwyr rwydweithio â'i gilydd trwy nodweddion fel ystafelloedd ymneilltuo bach neu ystafelloedd paru i'ch cynulleidfa greu profiad gwell.
  • Cyflawni ­– gall siaradwyr sicrhau llwyddiant neu sicrhau methiant digwyddiad, yn enwedig digwyddiad rhithwir lle mae'n anoddach cysylltu â'r gynulleidfa. Mae annog cwestiynau a thrafodaeth o'r cychwyn cyntaf yn ffordd dda o ennyn diddordeb pobl, yn ogystal â defnyddio ystadegau neu storïau sy'n ysgogi'r meddwl. Mae hefyd yn bwysig ystyried 'iaith' corfforol a'ch ymddangosiad. Cadwch ystumiau llaw yn weladwy, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw beth yn tynnu sylw yn y cefndir, a gwnewch yn siŵr bod ongl y goleuadau a'r camera yn iawn.

 

Mae cynnal digwyddiad rhithwir da yn gofyn am rywfaint o gynllunio a chreadigrwydd, ond mae'n bosibl ennill llawer trwy gynnal digwyddiad o'r fath. Gobeithio y bydd yr awgrymiadau yn y blog bost hwn yn eich helpu i wneud eich digwyddiad rhithwir nesaf yn llwyddiant. Os ydych chi'n mynychu digwyddiad ac eisiau rhai awgrymiadau ynghylch rhwydweithio, edrychwch ar ein blog Mynychu digwyddiad rhithwir? Dyma sut i rwydweithio'n llwyddiannus’.