Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Cyrchfan gyda’r nos poblogaidd ym Mae Caerdydd yn cael bywyd newydd drwy Fanc Datblygu Cymru a Handelsbanken

James-Brennan
Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
James Brennan, Dan Ronson and Martin Leech standing outside the Casablanca Building

Mae'r safle a fu unwaith yn gartref i un o glybiau nos mwyaf annwyl Caerdydd bellach yn gartref i adeilad o fflatiau newydd sbon, diolch i gynlluniau ail ddatblygu a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Adeilad newydd Casablanca yn eistedd ar safle hen glwb nos Casablanca, a oedd yn rhedeg o ddiwedd y 1960au hyd at ddechrau'r 1990au a bu'n galon gymdeithasol i Tiger Bay am flynyddoedd lawer.

Capel Bethel y Casablanca gynt – ac roedd yn dyddio’n ôl i’r 1840au – a bu’r Casablanca yn rhan bwysig o fywyd nos Caerdydd, gan gynnal perfformiadau gan artistiaid fel Aretha Franklin a Spandau Ballet.

Gwnaethpwyd gwaith ar y safle wedi'i ail ddatblygu diolch i gefnogaeth y Banc Datblygu, a gefnogodd y datblygwyr Mount Stuart Square Developments gyda benthyciad datblygu eiddo o £3.36m.

Ategwyd hyn gan gangen Caerdydd o'r banc cysylltiadau lleol Handelsbanken , a gytunodd i ail gyllido benthyciad y Banc Datblygu unwaith y byddai'r eiddo wedi'i gwblhau fel y gallai Mount Stuart Square Developments gadw'r eiddo i'w rentu.

Mae'r datblygiad newydd - sy'n cynnwys 20 o fflatiau un a dwy ystafell wely a phentws tair ystafell wely, ynghyd â 1,650 troedfedd sgwâr o ofod masnachol - wedi'i osod yn llawn, diolch i gymorth yr asiant tai MGY o Gaerdydd.

Dywedodd Dan Ronson, datblygwr yn Mount Stuart Square Developments: “Rydym yn ffodus iawn i fod wedi gweithio ar glwb nos hanesyddol y Casablanca, ac yn gobeithio y bydd yr adeilad newydd yn parhau i chwarae rhan bwysig ym mywyd a hanes Bae Caerdydd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru am eu cefnogaeth ac yn falch o’r hyn yr ydym wedi gallu ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Dywedodd Martin Leech, Rheolwr Corfforaethol yn Handelsbanken: “Ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru, rydym yn falch iawn o gefnogi Dan Ronson gyda’r fenter hon. Roedd yn bleser gweithio gyda Banc Datblygu Cymru”.

Dyma’r cwblhad cyntaf y bu James Brennan yn gweithio arno, a ymunodd â’r Banc Datblygu fel swyddog datblygu eiddo yn 2020.

Dywedodd James: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda Mount Stuart Developments a Handelsbanken i ddod â’r safle poblogaidd hwn yn ôl i ddefnydd da.

“Roedd gan y Casablanca le pwysig yng nghalonnau llawer yng Nghaerdydd, felly mae’n wych ein bod wedi dod â rhywfaint o fywyd yn ôl i’r safle, ac mae ei adfywiad llwyddiannus yn golygu y gallwn nawr edrych ymlaen ar y bennod nesaf yn ei stori.

“Mae Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi mewn datblygiadau preswyl, defnydd cymysg a masnachol drwy Gronfa Eiddo Cymru, Cronfa Eiddo Masnachol Cymru a’r Gronfa Safleoedd Segur. Mae’r cynlluniau hyn, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn ail gylchadwy a gellir ail-fuddsoddi’r arian a dderbynnir.

“Mae benthyciadau rhwng £150,000 a £5 miliwn ar gael i ddatblygwyr bach a chanolig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sy’n gweithio ar brosiectau datblygu preswyl, defnydd cymysg a masnachol yng Nghymru.

“Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyrchu ein harian cyllido ymweld â’n gwefan am ragor o wybodaeth.”

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni