Datblygiad poblogaidd 21 o dai yn Sir Benfro yn cael cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru

Karl-Jones
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Twf
Luckton

Mae datblygiad tai sydd eisoes yn ennyn llawer o ddiddordeb ymysg darpar brynwyr wedi cael cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru ar ffurf benthyciad datblygu gwerth £5 miliwn.

Y datblygwr Luckton Ltd sy’n ymgymryd â’r prosiect i adeiladu 21 o dai ym Megeli, sy’n agos at drefi glan môr Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o dai sengl a thai pâr.   

Mae pob un o’r cartrefi wedi’u cynllunio yn unol ag egwyddorion ynni gwyrdd ac effeithlonrwydd ynni, gyda’r nod o gael gwerthoedd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o fwy na 100 a sgôr effeithlonrwydd ynni gradd A. Cafodd y pedwar tŷ a werthwyd hyd yn hyn sgôr EPC o 100+ a chafodd un o’r tai sydd â thair ystafell wely sgôr o 110, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o oddeutu 65. Mae’r tai wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio ffrâm bren, ac maent wedi’u hinswleiddio’n dda, gan gyfuno pwmp gwres ffynhonnell aer a phaneli solar i gynhyrchu ynni, ac mae ganddynt ffenestri gwydr triphlyg a system wresogi o dan y llawr i gadw’r tai yn gynnes. Caiff llawer o’r gwaith dylunio, adeiladu ac adnoddau ei ddarparu gan nifer o gontractwyr a chyflenwyr lleol a rhanbarthol. 

Mae’r galw am y tai ar y safle yn uchel iawn, gyda phum tŷ eisoes wedi’i werthu a 10 arall ar gadw. Bydd dau dŷ fforddiadwy ar y safle hefyd i drigolion cymwys Sir Benfro yn unig. 

Cyflwynodd Luckton gais am fenthyciad i’r Banc Datblygu er mwyn cyflymu’r broses adeiladu a symleiddio’r cyllid ar gyfer y safle. Caiff y benthyciad ei gefnogi gan y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd, a gynlluniwyd i gynorthwyo datblygwyr preswyl yng Nghymru i newid i arferion datblygu gwyrddach.

Meddai Karl Jones, Uwch Swyddog Datblygu Eiddo Banc Datblygu Cymru: “Roedd yn bleser gweithio gyda thîm Luckton Ltd i gefnogi’r datblygiad newydd ym Megeli. Rhan o’n cenhadaeth yw annog a chefnogi’r broses o adeiladu datblygiadau gwyrdd yng Nghymru, ac mae’r safle hwn yn enghraifft ragorol o’r dulliau ynni ac adeiladu gwyrdd sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg darpar brynwyr tai.”

Meddai Jon Chester, Cyfarwyddwr Masnachol Luckton: “Mae’r profiad o weithio gyda thîm y Banc Datblygu i gyflawni’r cynllun ym Mharc Barley wedi bod yn wych. Roedd y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd yn ddelfrydol i ni gan ei fod yn rhoi sylw i effeithlonrwydd a thechnoleg y tai yr ydym yn eu hadeiladu, ac felly mae’r cyllid gan y banc wedi ein galluogi i adeiladu yn fwy effeithiol. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y tai ym Mharc Barley a gyda chymorth y Banc Datblygu credwn ein bod wedi llwyddo i godi’r bar ar gyfer cartrefi sy’n arbed ynni yn Sir Benfro.”

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau datblygu eiddo, ewch i bancdatblygu.cymru