Dau ‘giraffe’ newydd – Mae The Green Giraffe Nursery Ltd wedi dyblu nifer y safleoedd gofal plant yng Nghaerdydd

Richard-Jenkins
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
green giraffe nursery

Mae'r Green Giraffe Day Nursery Ltd yn ehangu yng Nghaerdydd diolch i arian ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r cwmni gofal plant poblogaidd a oedd eisoes â dwy feithrinfa yn y ddinas, wedi agor dwy ychwanegol.

Fel cwsmer presennol y Banc Datblygu, derbyniodd y busnes fenthyciad dilynol o £100,000 i ateb y galw cynyddol am eu gwasanaethau. Mae'r lleoliadau gofal dydd newydd wedi'u lleoli yn Parade yn Y Rhath a Ffordd Radnor yn Nhreganna. Maent yn ymuno â'r ddwy feithrinfa wreiddiol ym Mae Caerdydd a Ffordd yr Eglwys Gadeiriol.

Mae'r Green Giraffe yn cynnig bwyd cwbl organig i bob plentyn sy'n mynychu ac yn defnyddio cyfuniad o ddulliau Montessori ynghyd â Chyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i gefnogi amgylchedd dysgu trwy chwarae. Mae'r feithrinfa'n cynnig gwasanaethau gofal plant o'u genedigaeth hyd at chwech oed.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Feithrinfa Andrea Andrea Mccormack: “Rydym yn teimlo’n ffodus ein bod yn gallu tyfu ein busnes gydag agoriad ein dau safle newydd yn ystod pandemig Covid 19 diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru. Rydyn ni wrth ein boddau â chefnogaeth ein cwsmeriaid i'n hamgylchedd dysgu sy'n meithrin ac sy'n canolbwyntio ar chwarae. Rydym yn ceisio darparu rhaglen ddysgu amrywiol a chytbwys i bob plentyn yn ein gofal. Mae ein dull wedi profi’n hynod boblogaidd ac, ar ôl gweithio’n agos gyda’n Swyddog Portffolio Richard yn y Banc Datblygu daeth yn amlwg mai 2020 oedd y flwyddyn inni ehangu ein teulu Green Giraffe gydag agoriad dwy feithrinfa newydd.”

Mae’r Swyddog Portffolio Richard Jenkins ym Manc Datblygu Cymru wedi bod yn gweithio gydag Andrea a’i thîm i gefnogi twf Green Giraffe. Meddai: “Mae’r Green Giraffe, o dan arweiniad Andrea, yn cynnig amgylchedd dysgu modern, cefnogol ar gyfer plant ifanc. Bu galw cyson am leoedd yn y Green Giraffe, ac o ganlyniad, fe ddaeth cyfle i ehangu a thyfu'r busnes. Nododd Andrea ddau safle newydd posib yng Nghaerdydd, ac roeddem yn hapus i'w cefnogi gyda chyllid pellach i helpu i adnewyddu'r safleoedd newydd. Mae'r ddau safle bellach ar agor ac yn darparu gofal i blant ar hyd a lled Caerdydd. Yn y Banc Datblygu, rydym yn gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid presennol i nodi cyfleoedd i dyfu eu busnes a chefnogi hynny gyda chyllid dilynol. Neilltuir swyddog portffolio i bob busnes sy'n gweithio gyda nhw yn ystod eu perthynas â ni."

Daeth cyllid ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

I ddarganfod mwy am y Green Giraffe Nursery Ltd ewch i weld: greengiraffenursery.co.uk