Dangosodd busnesau Cymru wytnwch yn wyneb blwyddyn ariannol anodd, gyda chynnydd mawr mewn allforion a mwy o hyder ymysg busnesau.
Mae Dirnad Economi Cymru wedi cyhoeddi ei bumed Adroddiad blynyddol, sy’n archwilio ac yn dadansoddi tueddiadau economaidd ym mlwyddyn ariannol 2022/23.
Mae'r cydweithrediad ymchwil unigryw hwn rhwng Ysgol Busnes Bangor, Ysgol Busnes Caerdydd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Ganolfan Ymchwil Menter, a Banc Datblygu Cymru, yn casglu gwybodaeth a data i gynhyrchu mewnwelediadau addysgiadol a defnyddiol i economi Cymru.
Dyma rai pwyntiau allweddol yn yr Adroddiad eleni:
- Roedd y cyfraddau llog uchaf mewn 15 mlynedd wedi cael effaith ar wariant cartrefi, ac ar y galw gan ddefnyddwyr
- Cynnydd yn y bwlch rhwng busnesau newydd a busnesau sydd wedi rhoi'r gorau i fasnachu yng Nghymru yn y chwarter diwethaf, gyda Ch1 yn dangos bod 2,875 o fusnesau newydd, a 3,620 o fusnesau wedi rhoi'r gorau i fasnachu
- Cynnydd yn nifer y cwmnïau yng Nghymru sydd yn y categori risg uchaf o ran statws credyd – 5.2% ym mis Mehefin 2023 (cynnydd o tua 4.8% ym mis Mehefin 2022)
- Cynnydd yn nifer yr ansolfedd cwmnïau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, sydd, yn ddiweddar, wedi cyrraedd eu lefel uchaf yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd anodd, mae tueddiadau cadarnhaol yn parhau ymysg busnesau Cymru, gan gynnwys:
- Cynnydd yn y buddsoddiadau a wnaed mewn busnesau
- Gostyngiad yn y gyfradd diswyddo
- Cynnydd mawr yng ngwerth enwol allforion Cymru, sydd wedi cynyddu mwy na chwarter i £20.9 biliwn yn ystod y flwyddyn
- Cynnydd mewn cyflogaeth
- Mwy o hyder ymysg busnesau
Mae’r Adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd Banc Datblygu Cymru, a fuddsoddodd dros £124 miliwn yn 2022/23, ac a greodd neu ddiogelu bron i 3,500 o swyddi – gan ddod ag effaith gyffredinol gweithgareddau’r Banc Datblygu yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf i £1.2 biliwn.
Ar ôl ehangu a chael partneriaid newydd yn 2022/23, bydd Dirnad Economi Cymru yn cyhoeddi rhagor o adroddiadau ynglŷn ag effaith ymyriadau ariannol Covid-19 Llywodraeth Cymru; busnesau dwys ym maes ymchwil a datblygu; argaeledd ecwiti cam cynnar yng Nghymru; a pholisïau carbon sero net a mentrau busnesau bach a chanolig tuag at ddatgarboneiddio.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae busnesau yng Nghymru wedi dangos gwytnwch a phenderfynoldeb. Hoffwn ddiolch yn fawr i Dirnad Economi Cymru am y mewnwelediadau hanfodol y mae’r adroddiad hwn yn eu darparu, ac rydw i’n annog busnesau i ofyn am gymorth gan Banc Datblygu Cymru, a Busnes Cymru, sef un o asiantaethau Llywodraeth Cymru .”
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Roedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn un anodd i fusnesau ledled Cymru, ond mae llawer wedi parhau i ddangos eu hysbryd entrepreneuraidd, ac mae lle i fod yn eithaf gobeithiol ym mhob rhan o’r byd busnes yng Nghymru.
“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg defnyddiol iawn ar sut mae amodau economaidd ehangach wedi effeithio ar fusnesau Cymru a chyllid Cymru, ac mae’n rhoi gwell dealltwriaeth i ni ym Manc Datblygu Cymru o’r rôl rydyn ni’n ei chwarae yn y meysydd hynny. Mae hyn yn ein galluogi ni i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ein cynnyrch a sut rydyn ni’n gweithio gyda busnesau.”
Dywedodd yr Athro Max Munday, o Ysgol Busnes Caerdydd, ac un o awduron yr adroddiad: “Mae’r Adroddiad blynyddol yn datgelu pryderon busnesau ynghylch lefelau llog uchel, a’r ffaith nad ydy cyfradd sylfaenol chwyddiant yn gostwng mor gyflym â’r disgwyl ar ddechrau’r flwyddyn. Fodd bynnag, roedd yn galonogol gweld rhywfaint o gynnydd yn hyder cyffredinol busnesau, a marchnadoedd llafur yng Nghymru yn dal i ddangos rhywfaint o wytnwch.”