Disgwylir i weithgynhyrchydd systemau wal symudol weld trosiant o £2m yn ei flwyddyn gyntaf o fasnachu wrth i Fanc Datblygu Cymru gyhoeddi buddsoddiad

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
drl partitions

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad o £200,000 yn DRL Partitions Limited (DRL) sy'n seiliedig yn Nafen, - busnes gweithgynhyrchu newydd sy'n arbenigo mewn systemau wal symudol.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Dennis Lewis, mae DRL yn cynhyrchu waliau plygu a llithro, waliau sy'n ehangu, waliau gweithredadwy a rhaniadau gwydr ar gyfer y marchnadoedd addysg, iechyd, hamdden, cymunedol a masnachol. Mae cyfleoedd yn y Dwyrain Canol ac India yn golygu bod y busnes eisoes yn allforio tua 10% o'i gynhyrchion gyda'r ffigur hwn yn mynd i dyfu i 40% o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Gydag uned 20,000 troedfedd sgwâr ar Barc Diwydiannol Dafen, mae DRL yn cyflogi 21 o bobl gyda deg o swyddi newydd yn cael eu creu ar yr ochr gwerthiant a gweithgynhyrchu o fewn y ddwy flynedd nesaf. Disgwylir i drosiant fod yn fwy na £2 filiwn yn ystod y flwyddyn fasnachu gyntaf.

Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr Dennis Lewis: "Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector hwn, rwyf wedi bod yn awyddus i ddechrau fy musnes fy hun ers peth amser. Mae'r farchnad DU a byd-eang ar gyfer systemau waliau symudol o ansawdd uchel yn gyffrous iawn ac yn cyflwyno cyfleoedd gwych i ni wneud ein marc yn gyflym fel gwneuthurwr cynhyrchion o safon."

Fodd bynnag, mae'n anodd iawn cael unrhyw syniadau da neu gyfleoedd busnes oddi ar y ddaear heb gymorth ariannol, yn enwedig gan fo’ arian ar gyfer gweithgynhyrchu newydd mor rhyfeddol o anodd i’w sicrhau. Felly mae'r gefnogaeth gan y banc datblygu yn cael ei werthfawrogi'n fawr; ni fyddem wedi gallu cyllido'r cyfalaf sydd ei angen i lansio'r busnes a chymryd staff ymlaen heb yr arian cyllido hwn. Yn fwy na hynny, mae ein had-daliadau wedi cael eu strwythuro i'n helpu i reoli llif arian."

Mae Richard Easton yn Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: "Wrth weithgynhyrchu ystod gynhwysfawr o systemau wal a drysau symudol, mae DRL yn sefydlu ei hun yn gyflym fel darparwr atebion rheoli gofod o ansawdd uchel, sy'n gyflym ac yn cynnig gwerth am arian.

"Gyda photensial allforio sylweddol, mae'r busnes yn cynhyrchu gwerthiannau cryf ac mae'r rhagolygon yn edrych yn galonogol iawn. Mae'r sylfaen wedi cael ei osod yn gadarn ar gyfer DRL i ddod yn brif gyflogwr yn ardal Llanelli; creu swyddi newydd â chyflog da lle gall cyfleoedd cyflogaeth fod yn gyfyngedig. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein perthynas â Dennis wrth i ni gefnogi'r tîm gyda'u cynlluniau twf."